The essential journalist news source
Back
1.
June
2020.
Diweddariad COVID-19: 1 Mehefin

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: gwaith yn dechrau yng Nghaerdydd i greu canol dinas diogelach; ailddechrau'r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus ar gyfer rhai eitemau yn unig; a'r wythnos hon, rydyn ni'n dathlu gwirfoddolwyr o bob rhan o Gaerdydd, gan gynnwys criw Gyda'n gilydd dros Gaerdydd sy'n 1,200 o bobl, a ddaeth i lenwi'r bwlch pan oedd angen ar y ddinas.

 

Gwaith yn dechrau yng Nghaerdydd i greu canol dinas diogelach

Mae Cyngor Caerdydd yn ymchwilio sut y gall weithio â phartneriaid i greu ‘Caerdydd Ddiogelach' ar gyfer trigolion a gweithwyr sy'n teithio i ganol y ddinas ar ôl codi'r cyfyngiadau presennol.

Mae cynlluniau ar gyfer Stryd y Castell yng nghanol y ddinas a chynllun peilot ar gyfer Wellfield Road, yn y Rhath, eisoes wedi'u cyhoeddi gyda lôn draffig wedi'i chlirio ar Stryd y Castell ar gyfer beicwyr a cherddwyr.

Bellach mae trafodaethau ar waith a allai ailfodelu ffyrdd, troedffyrdd a mannau cyhoeddus ar Heol-y-Frenhines, Heol Eglwys Fair, Yr Aes a Ffordd Churchill yn ogystal ag ardaloedd prysur eraill yng nghanol y ddinas. Mae'r cyngor hefyd yn ystyried cyflwyno mesurau penodol i helpu busnesau, gan gynnwys rhoi rhywfaint o dir cyhoeddus ar gael i fwytai yng nghanol y ddinas y caiff eu harwynebedd llawr ei gyfyngu gan fesurau ymbellhau cymdeithasol.

Mae'r cyngor yn gweithio gyda Chaerdydd AM BYTH, sy'n cynrychioli busnesau yng nghanol y ddinas, ac Arup sy'n arbenigwr technegol cydnabyddedig ym maes dylunio dinasoedd. Caiff y cynlluniau eu dylunio i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i helpu busnesau i ailagor a chael eu traed oddi tanynt yn ystod y cyfnod adfer.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydyn ni i gyd yn byw mewn cyfnod rhyfedd iawn ac wrth i'r cyngor barhau i ymateb i'r problemau presennol yn ystod y pandemig, mae angen i ni hefyd gynllunio ein hadferiad pan gaiff y cyfyngiadau eu codi.

"Rhaid i ni nawr edrych ar sut y gallwn ni ailfodelu'r mannau cyhoeddus yng nghanol y ddinas a rhoi cynlluniau effeithiol ar waith i sicrhau y gallwn gynnal y mesurau ymbellhau cymdeithasol er diogelwch pawb. Nid yn unig hynny - mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o wneud y ddinas yn lle da i ymweld ag ef eto, er gwaethaf unrhyw gyfyngiadau y byddai'n rhaid eu gosod.

"Yn amlwg bydd gan lawer o bobl bryderon o hyd pan gaiff y cyfyngiadau eu codi, felly rydym am wneud yn siŵr pan fydd pobl yn meddwl am Gaerdydd eu bod yn meddwl 'ie, rwy'n gwybod ei fod yn lle diogel i ymweld ag ef, yn ddiogel i siopa, yn ddiogel i wneud busnes ac mae'n ddiogel i mi a'm teulu fod yno.'  Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr yn y maes, gan ymgynghori â busnesau a thrigolion sy'n byw yng nghanol y ddinas.  Y dull 'Un Ddinas' hwn fydd yn ein galluogi i Ailgychwyn, Adfer ac Adnewyddu Caerdydd. Rwy'n benderfynol na fyddwn yn colli'r cyfleoedd a allai godi o hyn.  Rydym oll eisiau dinas ddiogelach, wyrddach, lanach ac iachach, un a fydd yn gynaliadwy yn y tymor hir.

"Bydd hyn i gyd yn costio arian a dyna pam y byddwn yn dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar sut y gellir ariannu'r gwaith. Caerdydd yw curiad calon economaidd Cymru.  Ni ellir gadael y ddinas yn brwydro am ei heinioes. Bydd angen i'n cynlluniau gael cefnogaeth lawn os ydym am godi'r ddinas ar ei thraed unwaith eto er lles pawb sy'n byw ac yn gweithio yma ac yn y ddinas-ranbarth."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23984.html

 

Ailddechrau'r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus ar gyfer rhai eitemau yn unig

Mae'r gwasanaeth casglu deunydd swmpus yn dychwelyd ar gyfer eitemau cyfyngedig heddiw.

Gofynnwn i breswylwyr drefnu casgliad dim ond ar gyfer eitemau sy'n achosi anawsterau gwirioneddol i chi eu storio gartref.

Mae'r casgliad gwastraff swmpus ar gyfer eitemau mwy, na fyddech yn gallu eu ffitio yng nghist eich car i ddod â nhw i'n canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby neu Glos Bessemer.

Nid ydym yn codi tâl am gasglu eitemau y gellir eu hailgylchu'n llawn:

     Bwrddn bwyta pren neu silff lyfrau

     Ffrâm gwely metel neu uned silffoedd

     Offer trydanol mawr fel oergell neu beiriant golchi

     Carpedi

     Fframiau a ffenestri UPVC

     Matresi sbring (codir tâl am ewyn cof)

 

Rydym yn codi tâl am gasglu eitemau a wneir o gymysgedd o wahanol ddeunyddiau:

     Soffas a chadeiriau breichiau

     Gwaelod gwelyau difán

     Matresi ewyn cof (mae matresi sbring am ddim)

     Dodrefn wedi eu gwneud o gymysgedd o ddeunyddiau megis cwpwrdd pren gyda drysau gwydr

 

Ni allwn gasglu rhai eitemau, gan gynnwys:

x Asbestos

xGwydr ffeibr

xDeunyddiau adeiladu a gwastraff adeiladu, megis bwrdd plastr neu ddeunydd inswleiddio

xDarnau car neu injan

xEitemau haearn bwrw

xCemegolion megis tynnwr paent

xTiwbiau fflworolau

xPoteli neu duniau nwy

xOlew (injan neu goginio)

xTuniau paent

xTeiars

xPianos

xGwastraff gardd

 

Gallwch archebu casgliad drwy gysylltu â C2C ar (029) 2087 2088. Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn gallu trefnu casgliadau ar eich rhan,  dim ond ar gyfereitemau sydd am ddim-  #cwestiwncyflymcaerdydd. Bydd y tîm yn gofyn i chi am yr holl wybodaeth sydd ei hangen mewn neges uniongyrchol.

Os oes angen i chi archebu casgliad yn gynt na'r dyddiad nesaf sydd ar gael, mae gan ein tîm Gwasanaethau Masnachol nifer o opsiynau y codir tâl amdanynt.

Gallant gasglu un eitem neu gallwch logi sgip. Cysylltwch â  GwasanaethauMasnachol@caerdydd.gov.uk am ddyfynbris am ddim heb rwymedigaeth.

Sylwer  na fyddwn yn casgluos oes gennych chi, neu rywun yn eich cartref, symptomau COVID-19.

Ewch i  caerdydd.gov.uk/gwastraffswmpus i gael rhagor o wybodaeth.

 

Wythnos Gwirfoddolwyr: Amser dweud diolch

Yr wythnos hon, rydyn ni'n dathlu gwirfoddolwyr o bob rhan o Gaerdydd, gan gynnwys criw Gyda'n gilydd dros Gaerdydd sy'n 1,200 o bobl, a ddaeth i lenwi'r bwlch pan oedd angen ar y ddinas.

Yn ystod dathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr (Mehefin 1-7) yr wythnos hon, mae'r Cyngor yn achub ar y cyfle i ddangos diolchgarwch i bawb a wirfoddolodd, yn arbennig i'r bobl hynny a helpodd gydag ymdrechion y ddinas i ofalu am y bobl sy'n agored i niwed a'r rheiny oedd mewn angen yn ystod y cyfnod cloi.

Sefydlwyd y cynllun Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd gan y Cyngor ar ddechrau'r argyfwng COVID-19 ac ymatebodd llu o drigolion ar draws y ddinas i helpu eraill yn ystod yr adeg anodd hon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Eleni, mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn digwydd mewn adeg argyfyngus, pan fo pandemig byd-eang wedi effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau, pan ddaeth cymdogion, aelodau'r gymuned a gwirfoddolwyr lleol yn bwysicach nag erioed yn cefnogi y bobl hynny sydd mewn angen.

"Felly mae hi'n bwysicach nag erioed cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr yn ystod yr argyfwng hon a'u cyfraniad bob dydd yn ein dinas. Diolch. Rydych chi yn gwneud gwaith anhygoel a rydyn ni'n hynod falch ohono."

Erbyn hyn, mae mwy na 1,200 o bobl wedi eu cofrestru gyda chynllun Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd sy'n gweithredu fel gwasanaeth brocera, yn paru pobl sydd eisiau helpu gyda chyfleoedd gwirfoddoli ledled y ddinas, gan gynnwys cymorth i dimau'r cyngor ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r bobl hynny sydd mewn angen.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23980.html