The essential journalist news source
Back
29.
May
2020.
Diweddariad COVID-19: 29 Mai

Croeso i ddiweddariad COVID-19 olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: y diweddaraf am wasanaethau gwastraff ac ailgylchu yng Nghaerdydd; newidiadau i'r cyfyngiadau symud; a mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn canfod ffyrdd newydd o gefnogi pobl ifanc.

 

Y diweddaraf am wasanaethau gwastraff ac ailgylchu yng Nghaerdydd

Olaf y casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro a wnaed Mai

Bydd trigolion Rhiwbeina, Llanisien, Llys-faen, y Mynydd Bychan a'r Eglwys Newydd yn derbyn eu casgliad gwastraff gardd ddydd Sadwrn (30 Mai) sef cam olaf y casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro a wnaed yn ystod mis Mai.

Bydd casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau ym mis Mehefin a'r wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd y casgliadau untro ar gyfer gwastraff gardd bellach yn cael eu hymestyn i fis Mehefin ac wythnos gyntaf mis Gorffennaf, gyda phob cartref yn y ddinas yn cael casgliad arall ar ddydd Sadwrn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23974.html

Newidiadau i gasgliadau gwastraff oddi ar ymyl y ffordd o 1 Mehefin

O ddydd Llun 1 Mehefin, bydd casgliadau wythnosol wrth garreg y drws ar gyfer deunydd ailgylchadwy a gwastraff bwyd yn dychwelyd i'r gwasanaeth arferol, a dylai preswylwyr gofio i roi'r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir fel y gall y Cyngor ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl.

Gofynnir i breswylwyr ddechrau defnyddio eu cadis bwyd brown ar ymyl y ffordd unwaith eto o ddydd Llun, a gwneud yn siŵr bod eu holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn mynd i mewn i'w bagiau gwyrdd i'w casglu.

Mae cyfleuster didoli ailgylchu Caerdydd, lle caiff bagiau gwyrdd y ddinas eu didoli a'u prosesu i'w hailgylchu, yn cael eu hailagor sy'n golygu na fydd gwastraff ailgylchadwy yn cael ei anfon i gyfleuster adfer ynni mwyach.

Rhoddwyd y mesur hwn ar waith er mwyn diogelu ein staff a'r cyhoedd yn ystod ymateb y Cyngor i'r pandemig COVID-19.

Bydd gwastraff a gesglir yn y biniau du neu fagiau streipiau coch yn awr yn mynd yn ôl i gael ei gasglu unwaith bob pythefnos a dylai preswylwyr gofio na fydd unrhyw wastraff ochr yn cael ei gasglu.

Mae rhestr o gwestiynau ac atebion ar y newidiadau i gasgliadau ymyl y ffordd yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23900.html

Casglu eitemau swmpus

O ddydd Llun, bydd preswylwyr yn gallu archebu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus drwy ffonio canolfan gyswllt C2C ar 02920 872088. Fel arall, gellir archebu unrhyw gasgliadau swmpus am ddim drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Bydd apwyntiadau'n dechrau ar 8 Mehefin ac mae trigolion yn cael eu hatgoffa i fod yn amyneddgar, gan y disgwylir y bydd galw mawr am y gwasanaeth hwn.

Canolfannau Ailgylchu

Mae Canolfan Ailgylchu Bessemer Close wedi bod ar agor drwy apwyntiad yn unig ar gyfer mathau penodol o wastraff ers dydd Mawrth, 26 Mai. Mae Canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby hefyd yn ailagor yn yr un modd o ddydd Sul, 31 Mai.

Mae rheolau newydd wedi bod ar waith yng nghanolfannau ailgylchu Caerdydd i sicrhau y gellir dilyn gofynion ymbellhau cymdeithasol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch fynd ag ef i'r canolfannau ailgylchu a'r rheolau newydd sydd ar waith yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23933.html

 

Newidiadau i'r cyfyngiadau symud

Mae arweinwyr cyngor heddiw wedi croesawu agwedd pwyllog y Prif Weinidog heddiw wrth gymryd camau cymedrol i leddfu'r clo yng Nghymru yn araf bach.

O ddydd Llun ymlaen, bydd pobl o ddau gartref gwahanol yn yr un ardal leol yn gallu cwrdd tu allan tra'n cynnal y rheol o aros 2 fedr ar wahân.

Bydd yn rhaid i bawb yng Nghymru gydymffurfio â'r canllawiau newydd sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.wlga.cymru/covid-response-a-marathon-not-a-sprint

 

Mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn canfod ffyrdd newydd o gefnogi pobl ifanc

Mae Mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 yn gweithio'n galed yn cefnogi pobl ifanc, er gwaethaf cyfyngiadau cloi 'Covid-19' sy'n eu hatal rhag gweithio mewn cyswllt uniongyrchol â'u cleientiaid.

Mae pob yn y tîm yn parhau i gadw mewn cyswllt â'u cleientiaid unigol gan gynnig cymorth fel eiriolaeth a broceriaeth, gan roi blaenoriaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae'r tîm wedi dosbarthu parseli bwyd argyfwng tra'n cynnal yr archwiliadau lles arferol.

Mae un o'n Mentoriaid wedi bod yn gweithio ar y cyd â Grassroots i gynhyrchu fideos coginio llawn gwybodaeth. Mae'r fideos sydd i'w gweld ar YouTube (dolen isod) wedi bod yn dysgu pobl ifanc sut i gynhyrchu prydau blasus, maethlon a fforddiadwy.

Mae cyswllt rheolaidd wedi'i gynnal hefyd â'r rhieni ifanc sy'n rhan o'r prosiect Babyroots, sy'n cynyddu llesiant rhieni ifanc, yn hyrwyddo rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, yn lleihau unigedd ac yn creu llwybrau i addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli. Maent i gyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd at y ddarpariaeth pan fydd pethau'n mynd yn ôl i'r arfer ac y bydd yn agor unwaith eto.

https://www.youtube.com/channel/UCGOUjc1asziIvYT-q8Mjdnw

https://www.facebook.com/CardiffYouthService