The essential journalist news source
Back
26.
May
2020.
Diweddariad COVID-19: 26 Mai

Yn y diweddariad COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; mae Neuadd Llanofer sesiynau blasu ar-lein i'r teulu ar Zoom; staff hybiau yn cefnogi ein cymunedau; a Thîm Asbestos Caerdydd yn newid rolau i gyflenwi cyflenwadau Cyfarpar Diogelu Personol.

 

Yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma

Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu ar  Ddydd Gwener yn cael casgliad gwastraff gardd  ddydd Sadwrn yma, 30 Mai.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

I weld cwestiynau ac atebion am y casgliadau gwastraff gardd untro yn ystod mis Mai, ewch i:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23726.html

 

Mae Neuadd Llanofer sesiynau blasu ar-lein i'r teulu ar Zoom

Mae Neuadd Llanofer yn cynnal sesiynau blasu ar-lein i'r teulu ar Zoom. Dysgwch hobi newydd gyda Origami Hwyliog i'r Teulu ddydd Mercher 27 Mai a chreu Dyluniadau Geometregol Anhygoel, ddydd Mercher 10 Mehefin.

Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Gofrestru:

https://www.adultlearningcardiff.co.uk/cy/

 

Staff hybiau yn cefnogi ein cymunedau

Drwy gydol y naw wythnos diwethaf, mae staff yn y pedwar hyb sydd wedi aros ar agor drwy apwyntiad neu ar gyfer achosion brys  wedi bod yn gweithio'n galed ar y rheng flaen dros gymunedau Caerdydd yn ateb ymholiadau gan gwsmeriaid a helpu'r bobl hynny sydd ei angen.

Mae'r gwasanaeth rhagorol a gyflawnir ganddynt er gwaethaf argyfwng COVID-19 yn cynnwys y gwasanaethau canlynol:

  • Parseli bwyd a hanfodion
  • Bagiau ailgylchu gwyrdd a bagiau gwastraff bwyd
  • E-adnoddau ar Facebook (mwy isod)
  • Ateb galwadau a dderbynnir ar y Llinell Gyngor
  • Ffonio pawb sy'n hunan-warchod i wneud yn siŵr bod ganddynt fwyd a'r cymorth sydd ei angen

Mae'r timau wedi llunio gweithgareddau ar gyfer y cyfnod cloi gan gynnwys amser odli ac adnoddau Hanes Ymarferol i roi rhagflas i bobl o'r cyfoeth o e-adnoddau hanes lleol a threftadaeth sydd ar gael a chanllawiau 'sut i' i helpu defnyddwyr i wneud yn fawr o'r catalog ar-lein.

Llinell Gyngor

Rydym wedi cael dros 11,500o alwadau i'n Llinell Gyngor ers dechrau argyfwng COVID-19 gan gwsmeriaid sydd angen help i gael bwyd ac eitemau hanfodol, gyda budd-daliadau ac incwm, a hefyd help gyda dyledion a chyngor ar y gwasanaethau I Mewn I Waith a Chredyd Cynhwysol. 

Os ydych yn nabod rhywun sydd angen help ac nad yw'n gallu defnyddio'r rhyngwyd rhowch ein rhif Llinell Gyngor iddo/iddi 029 2087 1071.www.caerdydd.gov.uk/llinellgyngor

Parseli Bwyd

Un o effeithiau penodol argyfwng COVID-19 yw'r galw cynyddol am gyflenwadau bwyd sylfaenol, yn benodol i gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed, naill ai'r rheiny sy'n hunan-ynysu neu'r rheiny sy'n dioddef o effaith economaidd yr argyfwng.

Ers 20 Mawrth mae 485 o barseli bwyd wedi eu casglu o'n Hybiau. Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn wasanaeth hanfodol i'r rheiny sydd ei angen.

 

Tîm Asbestos Caerdydd yn newid rolau i gyflenwi cyflenwadau Cyfarpar Diogelu Personol

Mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws, cafodd Tîm Asbestos Caerdydd eu hadleoli i helpu Tîm Iechyd a Diogelwch Caerdydd a'r Gwasanaethau Hybiau a Llyfrgelloedd i gyflenwi cyflenwadau CDP hanfodol.

Mae'r tîm wedi bod yn casglu nwyddau glanhau, cyflenwadau glanhau sy'n addas ar gyfer Covid-19 a CDP oddi wrth gyflenwyr fel Screentec, PK Safety, Adcock Janitorial and Catering Supplies a BCB International.

Mae Tîm Iechyd a Diogelwch Caerdydd a'r Gwasanaethau Hybiau a Llyfrgelloedd yn gweithio'n galed bob wythnos i gael hyd i gyflenwadau angenrheidiol i'r bobl sydd eu hangen er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol y Cyngor. Pan fydd yr archebion wedi'u paratoi, bydd Tîm Asbestos Caerdydd yna'n dosbarthu offer hanfodol a CDP i Gartrefi Gofal, darparwyr cymorth yn y cartref a'n Hysgolion Ardal.

Fel arfer bydd Andrew Griffin, Chris Bolton a Paula Griffin yn cynnal arolygon asbestos ar adeiladau'r Cyngor, yn rheoli gwybodaeth am asbestos ac yn darparu cyngor a chymorth ar asbestos i reolwyr adeiladu. Mae'r cyfnod cloi wedi golygu y caewyd llawer o'n hadeiladau a gohiriwyd pob gwaith adeiladu ond y rhai hanfodol. Bu'r tîm yn hapus i addasu eu rolau a helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel yn ystod pandemig Covid-19.