The essential journalist news source
Back
21.
May
2020.
Diweddariad COVID-19: 21 Mai

Dyma ddiweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: y newyddion bod canolfannau ailgylchu yn ailagor, manylion ar sut i archebu slot i'w defnyddio a'r eitemau y gallant eu derbyn; mae casgliadau gwastraff yn mynd rhagddynt fel arfer ddydd Llun, er gwaethaf Gŵyl y Banc; a beth i'w wneud os ydych yn derbyn e-bost neu destun gyda chyngor ar y dreth gyngor.

 

Cyfle i archebu ar-lein i ddefnyddio canolfannau ailgylchu Caerdydd ar gyfer eitemau cyfyngedig yn unig

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu y bydd canolfannau ailgylchu Caerdydd yn ailagor i waredu eitemau cyfyngedig yn unig, ond am resymau diogelwch, bydd gofyn i breswylwyr archebu apwyntiad mewn amser penodol gyda Chyngor Caerdydd.

Bydd Canolfan Ailgylchu Clos Bessemer yn ailagor ddydd Mawrth nesaf, 26 Mai, ac yna bydd Canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby yn ailagor ddydd Sul, 31 Mai.

Mae system archebu ar-lein wedi'i chreu a bydd rhaid i unrhyw un sydd angen ymweld â chanolfan ailgylchu wneud apwyntiad. Bydd y system archebu ar-lein ar gael i'r cyhoedd ei defnyddio o 12.30pm fory - 22 Mai.

Yr unig eitemau y gellir eu cyflwyno i'r canolfannau ailgylchu am y tro yw cardfwrdd, pren, gwastraff gardd, metel sgrap, eitemau trydanol bach a phlastigau caled.

I helpu preswylwyr i waredu eitemau mwy o faint bydd gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor yn ailddechrau hefyd o ddydd Llun, 1 Mehefin.

Mae cynlluniau manwl wedi eu rhoi ar waith i sicrhau y rheolir ymweliadau'r preswylwyr â'r canolfannau ailgylchu mewn modd diogel gan gydymffurfio â rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Bydd y canolfannau ailgylchu ar agor rhwng 8:30am a 4:30pm saith diwrnod yr wythnos. Dim ond ar-lein y gall preswylwyr archebu apwyntiad www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchuNi chaniateir mynediad i'r safle i unrhyw berson a ddaw i'r canolfannau heb apwyntiad.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu yng Nghyngor Caerdydd, y Cynghorydd Michael Michael: "Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod nawr yn gallu ailagor y canolfannau ailgylchu a hoffwn ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd. Fodd bynnag, mae'r rheolau ymbellhau cymdeithasol newydd yn golygu nad yw'n bosib cynnal y gwasanaeth fel yr oeddem yn ei wneud cyn argyfwng COVID-19.

"Rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein preswylwyr a'n staff yn ddiogel yn y cyfleusterau hynny. Bu'n rhaid ail-ddylunio'r safleoedd fel y gellir cydymffurfio â'r rheolau ymbellhau cymdeithasol a bu'n rhaid i ni gyflwyno system archebu fel y gallwn reoli pobl trwy'r broses wrth gadw pawb yn ddiogel."

Mae'r rheolau newydd a gynlluniwyd i gadw preswylwyr a staff yn ddiogel yn cynnwys y canlynol:

  • Mae'n ofynnol archebu apwyntiad ar-lein o leiaf 24 awr ymlaen llaw ac ni ddylai preswylwyr gyrraedd y safle tan 5 munud cyn slot eu hapwyntiad. Bydd angen i breswylwyr sefydlu cyfrif a rhoi eu cyfeiriad cartref a rhif cofrestru eu cerbyd. I gofrestru a threfnu apwyntiad cliciwch:  www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu 
  • Rhaid dod â'r e-bost cadarnhau ynghyd â dogfen adnabod sy'n profi eich bod yn breswylydd Caerdydd, i'w cyflwyno i'r aelod staff a fydd yn cwrdd â chi ar y safle. Cewch le i barcio wrth gyrraedd. Os nad yw aelod staff ar gael, dilynwch yr arwyddion rheoli traffig i barcio eich cerbyd.
  • Cynghorir preswylwyr i ddod â'u menig neu eu glanweithydd dwylo eu hunain, er bydd glanweithydd ar gael ar y safle.  Dim ond un person a gaiff adael y cerbyd i ollwng gwastraff a gofynnwn i breswylwyr ddefnyddio glanweithydd dwylo cyn ac ar ôl iddyn nhw adael eu heitemau. Caniateir dim mwy na 10 munud i bob cerbyd ar gyfer dadlwytho ar y safle.
  • Dim ond ceir a ganiateir ar y safle; ni chaniateir cerbydau ochrau uchel, na faniau ac ôl-gerbydau.
  • Dim ond un person a gaiff fynd at sgip a bydd rhaid i'r holl breswylwyr gadw at bellter dau fetr oddi wrth staff a phreswylwyr eraill.
  • Yr unig eitemau ygellireu cyflwyno i'r canolfannau ailgylchu yw cardfwrdd, pren, gwastraff gardd, metel sgrap, eitemau trydanol bach a phlastigau caled.
  • Ni chewch ddod â'r holl eitemau eraill gan gynnwys y canlynol: cyfrifiaduron, ffonau symudol, batris, tiwbiau fflworolau a bylbiau golau, rwbel, pridd, bwrdd plastro, ffenestri UPVC, beiciau, carpedi, teiars, gwastraff y cartref, cemegau cartref a gardd, gwydr cymysg, pecynnu plastig, offer trydanol mwy o faint, oergelloedd a rhewgelloedd, setiau teledu a monitorau, olew llysiau, olew injan wedi'i ddefnyddio, batris ceir, llyfrau a photeli nwy i'r safleoedd hyn.
  • Mae cyfyngiadau wedi eu rhoi ar waith i sicrhau y gellir dosbarthu'r slotiau yn deg. Bydd y system archebu'n sicrhau bod pob aelwyd ond yn gallu ymweld â chanolfan ddeuddeg gwaith y flwyddyn.
  • Os oes gan berson neu unrhyw un yn ei aelwyd symptomau COVID-19, ni ddylai drefnu apwyntiad i ddod i'n canolfannau ailgylchu. 

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Roedd rhaid i ni roi'r systemau hyn ar waith er mwyn rheoli'r safleoedd yn effeithiol. Mae'n bosib iawn y gallai fod mwy o draffig na'r arfer wrth nesáu'r cyfleuster, felly bydd angen i bawb fod yn amyneddgar. Mae'n bwysig nad yw pobl yn cyrraedd yn rhy gynnar, eu bod yn dod dim ond os oes ganddynt apwyntiad, a'u bod yn dod dim ond ag eitemau a dderbynnir yn bresennol yn y cyfleusterau hyn.

"Rwy'n sicr bod llawer ohonom ni wedi gweld y ffordd y mae archfarchnadoedd wedi newid eu ffordd o weithredu i ddarparu ar gyfer ymbellhau cymdeithasol. Mae systemau ciwio wedi eu rhoi ar waith a dyma'n union beth sydd angen i ni ei wneud yma. Rwy'n gofyn i bawb fod yn amyneddgar a pheidio â threfnu apwyntiad oni bai bod gwir angen arnoch. Gofynnwch i chi eich hun a yw hyn yn hanfodol yn y lle cyntaf.

"Mae'n werth cofio bod bagiau ailgylchu gwyrdd yn cael eu casglu'n wythnosol erbyn hyn o ymyl y ffordd a byddwn yn ailddechrau'r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus o 1 Mehefin."

Cwestiynau ac atebion ar ganolfannau ailgylchu Caerdydd.

 

Gŵyl y Banc Diwedd Mis Mai - Dim Newid i Ddyddiadau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un fath dros Ŵyl y Banc diwedd mis Mai, ond mae'n bosibl y bydd amseroedd y casgliad yn newid felly gofalwch eich bod yn rhoi eich gwastraff allan erbyn 6am. 

Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff ar waith ddydd Llun 25 Mai ac ni fydd unrhyw newid i ddyddiadau casglu am weddill yr wythnos.

Bydd ein tîm casglu gwastraff yn gweithio drwy gydol gŵyl y banc i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau'n effeithiol.

Ailgylchu

Gofynnwn i chi barhau i wahanu deunyddiau ailgylchu, yn union fel y byddech yn ei wneud fel arfer, oherwydd rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw le yn eich bin du/ bagiau streipiau coch ar gyfer yr eitemau hynny pe na baech yn cael casgliad bagiau ailgylchu.

Mae Caerdydd am fod y ddinas ailgylchu orau yn y byd, felly rydym am i chi barhau i ddefnyddio eich bagiau gwyrdd ailgylchu, er mwyn cynnal arferion da ar gyfer pan fydd yr argyfwng drosodd.

Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunydd ailgylchu a gwastraff bwyd yn dychwelyd i'r arfer o ddydd Llun 1 Mehefin.

Mae hynny'n golygu:

  • Bydd bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bwyd yn cael eu casglu o bob eiddo bob wythnos, gyda gwastraff bagiau du a gwastraff hylendid yn cael eu casglu bob pythefnos

 

  • Bydd gwastraff gardd gwyrdd, casgliadau swmpus a'r treial gwydr yn parhau i fod wedi'u hatal dros dro nes clywir yn wahanol 

 

  • Bydd casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro yn parhau i gael eu cynnal dros y penwythnos/au olaf ym mis Mai

 

  • Rydym yn bwriadu ailagor ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Ffordd Lamby a Bessemer Close cyn gynted ag y bo modd.

Os nad ydych yn siŵr os oes modd rhoi eitem benodol yn eich bag ailgylchu gwyrdd, darllenwch ein canllaw Ailgylchu A-Y.

 

Cyngor ar y Dreth Gyngor - Negeseuon Testun ac E-byst

Fel arfer, ar ddiwedd mis Ebrill, bydd Cyngor Caerdydd yn anfon llythyrau atgoffa i'r trigolion hynny sydd heb dalu rhandaliad Treth Gyngor cyntaf y flwyddyn ariannol newydd, ac i'r rhai sydd mewn dyled iddynt mewn perthynas â Threth Gyngor y flwyddyn gynt.

Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni gyda COVID-19, nid yw Cyngor Caerdydd wedi anfon llythyrau atgoffa eleni, ac yn hytrach mae wedi dechrau anfon negeseuon testun ac e-byst at y trigolion hynny sydd wedi darparu rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost.

Yn dilyn cynllun peilot yn y Mynydd Bychan, Treganna a Phontprennau yr wythnos diwethaf, mae'r Cyngor wedi dechrau anfon negeseuon testun ac e-byst i ardaloedd eraill, gyda thrigolion sy'n byw yn in Radyr, Fairwater, Llanishen, Sain Ffagan, Tongwynlais, Trowbridge, Eglwys Newydd, Grangetown and Thornhill bellach yn dechrau eu derbyn.

Os yw'r dull hwn yn ddull effeithiol o annog trigolion i fanteisio ar yr help a'r gefnogaeth sydd ar gael, gan gynnwys gwneud cais i gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, bydd rhagor o destunau ac e-byst yn cael eu cyflwyno.

Help a Chymorth