The essential journalist news source
Back
21.
May
2020.
Cwestiynau ac atebion ar ganolfannau ailgylchu Caerdydd.

21/05/20 

Cwestiwn 1: Beth yw ystyr y term 'hanfodol'? Mae gennyf ormod o wastraff yn fy eiddo ac rwyf am gael gwared ohono.

Mae'n derm a ddefnyddir gan y Llywodraeth ac yn y cyd-destun hwn mae'n golygu y dylech wneud apwyntiad i ymweld â chanolfan ailgylchu dim ond os nad ydych yn gallu storio'r eitemau'n ddiogel yn eich tŷ neu'ch gardd neu os yw'r gwastraff yn creu perygl amgylcheddol.

Cwestiwn 2: Sut ydw i'n trefnu hyn ar-lein?

Os oes angen i chi wneud apwyntiad, cofrestrwch drwy'r system archebu ar-leinwww.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu.Mae'n rhaid gwneud hyn 24 awr o flaen llaw a bydd gofyn i chi gofrestru gan roi eich cyfeiriad cartref a manylion cofrestru eich cerbyd.Bydd y system archebu ar-lein ar gael i'r cyhoedd ei defnyddio o 12.30pm fory - 22 Mai

Cwestiwn 3: Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda fi i brofi fy "apwyntiad" a fy mod i'n byw yng Nghaerdydd?

Oes - bydd angen i chi ddod â'r e-bost cadarnhau y byddwch yn ei dderbyn pan fydd eich amser wedi'i gadarnhau a phrawf o'ch cyfeiriad presennol.

Cwestiwn 4: Beth sy'n digwydd os oes llawer o draffig i fynd i mewn i'r ganolfan ailgylchu a fy mod i'n colli fy amser? A gaf i ollwng yr eitemau o hyd?

Os yw'r oedi o ganlyniad i faterion gweithredol, er enghraifft ni'n symud y sgipiau a bod hyn yn achosi oedi, byddwch dal yn cael gollwng yr eitemau. Yr eithriad yw yn ystod yr amser cau, gan y bydd y mynediad olaf i'r safle am 4.15pm fan hwyraf. Byddwn yn cadarnhau amseroedd tra bod cerbydau yn ciwio a chaiff unrhyw gerbyd heb amser ei droi i ffwrdd, bydd hyn yn ein helpu i reoli ciwiau ac i brosesu cerbydau o fewn y slot amser a ddyrannwyd iddynt.

Cwestiwn 5: Pam,os ydw i wedi trefnu slot  hanner awr, fy mod i ond yn cael 10 munud ar y safle?

Mae'r slot hanner awr i breswylwyr fynd ar y safle, gollwng eu heitemau a gadael y safle. O ganlyniad i ofynion ymbellhau cymdeithasol, dim ond nifer penodol o bobl fydd yn cael eu caniatáu ar y safle ar unrhyw un adeg, felly bydd yn rhaid i breswylwyr giwio yn amyneddgar.

Cwestiwn 6: Pam yr ydych yn cyfyngu'r eitemau y gellir dod â nhw i'r canolfannau ailgylchu?

Roedd yn rhaid ail-fodelu'r canolfannau ailgylchu i sicrhau y gellir bodloni gofynion ymbellhau cymdeithasol, sy'n golygu bod llai o le ar gyfer sgipiau yn y canolfannau. O ystyried hyn, mae'n rhaid i ni gyfyngu'r eitemau y gellir eu cyflwyno i'r cyfleusterau hyn. 

Cwestiwn 7: Pam ydych chi wedi cyflwyno system cadw amser ar-lein?

Mae'n rhaid i ni gyfyngu ar nifer y bobl ar y safle i sicrhau y gellir dilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol. Rhaid inni hefyd sicrhau y gall cerbydau gweithredol gyrraedd y safle, yn benodol Ffordd Lamby, neu gallai casgliadau wrth ymyl y ffordd gael eu hoedi i bobl ledled y ddinas.Bydd y system archebu ar-lein ar gael i'r cyhoedd ei defnyddio o 12.30pm fory - 22 Mai

Cwestiwn 8: Pa eitemau y gellir dod â nhw i'r canolfannau ailgylchu?

  • Cardfwrdd
  • Pren
  • Gwastraff gardd (bydd angen rhoi'r gwastraff hwn yn rhydd i mewn i'r sgip, os caiff ei gludo mewn bagiau rhaid i chi fynd â'ch bagiau i ffwrdd â chi)
  • Metel sgrap
  • Eitemau trydanol bach (tegellau, tostwyr neu eitemau o faint tebyg)
  • Plastigau Caled 

Cwestiwn 9: Pa eitemau na ellir dod â nhw i'r canolfannau ailgylchu?

Cyfrifiaduron, ffonau symudol, batris, tiwbiau fflworolau a bylbiau golau, rwbel, pridd, bwrdd plastro, ffenestri UPVC, beiciau, carpedi, teiars, gwastraff y cartref, cemegau cartref a gardd, gwydr cymysg, pecynnu plastig, offer trydanol mwy o faint, oergelloedd a rhewgelloedd, setiau teledu a monitorau, olew llysiau, olew injan wedi'i ddefnyddio, batris ceir, llyfrau a photeli nwy i'r safleoedd hyn.

Cwestiwn 10: Pam na allaf ddod â'm bagiau du a bagiau gwyrdd i'r canolfannau ailgylchu mwyach?

Rhoddir gwasanaeth ar garreg y drws i breswylwyr ar gyfer eu bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bin du (bagiau streipiau coch). Ni ddylai fod angen dod â'r gwastraff hwn i'r ganolfan ailgylchu.

Cwestiwn 11: Rydych yn dweud mai dim ond un person all adael y cerbyd pan fydd ar y safle. Beth sy'n digwydd os yw rhywun yn oedrannus neu os oes ganddo anableddau, a fydd yn cael cymorth?

Bydd ein gweithredwyr ar y safle yn cynnal pellter o ddwy fetr rhwng y preswylwyr a'u cydweithwyr bob amser. Rydym yn gofyn i breswylwyr beidio â dod ag unrhyw eitem nad ydynt yn gallu ei chario ar eu pen eu hunain.

Os oes gennych gyflwr iechyd sylfaenol ac nad ydych yn gallu symud eitemau eich hun, byddwn yn caniatáu i ddau o bobl adael y cerbyd i ollwng yr eitemau, ond dim ond os gellir parhau i gynnal ymbellhau cymdeithasol ar gyfer gweddill y bobl ar y safle.

Cwestiwn 12: Pam ydych chi'n agor canolfan ailgylchu wahanol ar ddyddiadau gwahanol?

Roedd yn rhaid asesu canolfannau ailgylchu Ffordd Lamby a Bessemer Close i sicrhau eu bod yn ddiogel i'r cyhoedd eu defnyddio. Mae newidiadau'n cael eu gwneud a bydd Bessemer Close yn cael ei gwblhau cyn Ffordd Lamby felly rydym mewn sefyllfa i agor y safle hwn yn gynt.

Cwestiwn 13: Mae gen i eitemau swmpus a does gen i ddim lle i'w storio yn fy nhŷ. Beth ydw i'n fod i wneud gyda nhw gan nad ydw i'n gallu dod â nhw i ganolfan ailgylchu?

Os oes gennych eitemau swmpus ac nad ydych yn gallu eu storio yn eich tŷ yn ddiogel, gallwch drefnu casgliad swmpus o 1 Mehefin. Codir tâl am rai eitemau ac mae'r holl wybodaeth am y gwasanaeth hwn a sut i archebu ar gaelyma.

Cwestiwn 14: Nid yw'n ymddangos fy mod yn gallu cadw amser mewn canolfan ailgylchu, pa mor hir yw'r rhestr aros?

Er mwyn sicrhau bod pob preswylydd yn cael cyfle teg i gael apwyntiad, mae mesurau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod pob cartref yn gallu gwneud apwyntiad ddeuddeg gwaith y flwyddyn yn unig. Dim ond at ddibenion hanfodol y dylid defnyddio'r safleoedd hyn, ond gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar tra bydd y ffordd newydd hon o weithio'n cael ei sefydlu.

Cwestiwn 15: Am ba mor hir y bydd y cyfyngiadau hyn yn digwydd?

Byddant yn parhau am y dyfodol rhagweladwy. Hyd yn oed pan fydd y llywodraeth yn lleddfu'r cyfyngiadau, bydd angen dal i sicrhau ymbellhau cymdeithasol oddi wrth eraill. Bydd y mesurau'n parhau hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.

Cwestiwn 16: A allaf ddod â phridd gydag unrhyw wastraff gardd?

Na, ni ellir dod â phridd i'r canolfannau ailgylchu ar hyn o bryd. Pan fyddwch yn chwynnu eich gardd, gofynnwn i chi ysgwyd cymaint o bridd â phosibl.

Cwestiwn 17: Oes angen i mi wisgo mwgwd wyneb a menig wrth ymweld â'r safle?

Cyngor presennol y llywodraeth yw y dylai'r cyhoedd orchuddio eu hwyneb pan fyddant mewn mannau cyfyng fel trafnidiaeth gyhoeddus, felly dewis personol yw p'un a ydych yn gwisgo mwgwd i'r canolfannau.

Nid oes gofyniad ychwaith i wisgo menig, ond rydym yn cynghori preswylwyr i olchi eu dwylo cyn ac ar ôl iddynt ollwng eu heitemau.

Cwestiwn 18: A yw'r Cyngor yn darparu diheintydd dwylo i'r cyhoedd ar y safleoedd?

Bydd diheintydd dwylo ar gael yn y safleoedd, ond gofynnwn i breswylwyr ddefnyddio eu rhai eu hunain os oes ganddynt rai ac i olchi eu dwylo cyn iddynt adael am y safle a'u golchi eto cyn gynted ag y gallant ar ôl iddynt ollwng deunyddiau. Ni allwn sicrhau y bydd diheintydd dwylo ar gael i'r cyhoedd bob tro.

Cwestiwn 19: Pa mor ddiogel fydd hi i ymweld â'r safle?

Cynhaliwyd asesiadau risg manwl a gwnaed addasiadau i'r safleoedd hyn. Gofynnwn i breswylwyr gadw at y rheolau ar y safle er mwyn sicrhau diogelwch ein staff ac aelodau eraill o'r cyhoedd. Dylai unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 neu sy'n byw mewn cartref gyda rhywun â symptomau COVID-19 beidio ag ymweld â'r canolfannau ailgylchu.

Cwestiwn 20: Mae gen i gryn dipyn o wastraff gan fy mod i wedi gwneud gwaith adnewyddu ar fy eiddo yn ddiweddar. Pa wasanaethau mae'r Cyngor yn eu cynnig?

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth sgip drwy ein Tîm Gwastraff Masnachol ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan -www.cardiffcommercialwaste.co.uk.

Gallwch gysylltu â'r tîm gwastraff masnachol drwy e-bostc.services@caerdydd.gov.ukneu drwy ffonio 02920 717501.