The essential journalist news source
Back
20.
May
2020.
Diweddariad COVID-19: 20 Mai

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd:ymateb cyflym yn paratoi'r ffordd i newid parhaus a chadarnhaol;gweithiwr gofal cael mynediad i adnoddau cwnsela a lles; tîm cogyddion dan hyfforddiant yn gweini prydau bwyd i bobl agored i niwed; ac mae Parc Bute wedi rhoi blanhigion.

 

Ymateb cyflym yn paratoi'r ffordd i newid parhaus a chadarnhaol

Mae ymateb cyflym Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid gwasanaethau digartrefedd i ddiogelu unigolion sy'n agored i niwed ar y strydoedd yn ystod argyfwng COVID-19 wedi dechrau dwyn buddion sylweddol.

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas wedi gostwng i ffigurau sengl ac mae mwyfwy o gleientiaid wedi bod yn barod i dderbyn ymyriadau cadarnhaol gan wasanaethau, yn enwedig gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, sy'n gallu helpu i roi eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.

Mae mwy na 140 o gleientiaid wedi cael eu cartrefu yn y ddau westy a gaffaelwyd gan y Cyngor ym mis Mawrth er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw mewn llety brys a'r rhai ar y strydoedd yn cael eu diogelu a'u gwarchod yn ystod y pandemig, a gallent ynysu eu hunain yn effeithiol.

Mae'r cartrefi cynwysyddion llongau mae'r Cyngor wedi'u datblygu fel llety dros dro i deuluoedd wedi cael eu defnyddio fel unedau ynysu ar gyfer unrhyw unigolion digartref sy'n arddangos symptomau coronafeirws, ac mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi'u haddasu'n gyflym i ddiwallu anghenion cleientiaid yn ystod y pandemig.

Mae'r cymorth wedi cynnwys clinigau rheolaidd dan arweiniad nyrsys yn y gwestai a'r hosteli presennol, mynediad at wasanaethau rhagnodi cyflym a'r defnydd o'r cyffur newydd a gwell yn lle Buvidal.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Heb os nac onibai mae pandemig y coronafeirws wedi rhoi heriau anodd i'n gwasanaethau ac roedd angen i ni symud yn gyflym iawn i helpu i symud pobl oddi ar y strydoedd i lety diogel, hunangynhwysol.   Roedd ein timau'n gwneud eu gorau glas ac maent yn gwneud gwaith arbennig trwy gydol y cyfnod anodd iawn.

"Dim ond pum cysgwr cyndyn iawn sy'n weddill ar y strydoedd nawr, a bydd ein tîm allgymorth yn parhau i weithio gyda'r unigolion hyn, ond pan ystyrir y bu'r ffigur yn yr 80au dim ond ychydig fisoedd yn ôl, mae hyn yn gamp aruthrol ac yn un mae'n rhaid ei chynnal i'r dyfodol. 

"Mae'r cyfyngiadau symud wedi creu set unigryw o amgylchiadau ac wedi rhoi cyfle gwirioneddol i ni ymgysylltu â chleientiaid sydd hyd yma wedi bod yn anodd iawn eu cyrraedd ac yn amharod derbyn cynigion o gymorth.

"Mae diffyg cyfleoedd i gardota yng nghanol y ddinas wedi golygu nad yw cleientiaid yn gallu fforddio prynu cyffuriau neu alcohol ac maen nhw wedi ymateb yn fwy cadarnhaol i'r cymorth sydd ar gael i'w helpu oddi ar y strydoedd am byth.  Mae llawer mwy o bobl wedi dechrau rhaglenni triniaeth am nad ydynt wedi gallu ariannu eu dibyniaeth niweidiol sydd wedi'u hatal rhag dod oddi ar y strydoedd yn y gorffennol.

"Rwy'n gwybod bod llawer o bobl sy'n bryderus yn credu eu bod yn helpu os byddant yn rhoi i rywun sy'n cardota; fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr arian hwn ond yn helpu'r person hwnnw i gynnal ffordd niweidiol o fyw.  Mae partneriaeth ddigartrefedd Caerdydd yn gwneud gwaith anhygoel i helpu pobl i weddnewid eu bywydau a gall y cyhoedd helpu gyda'r gwaith hwn drwy roi i un o'n helusennau partner neu i CAERedigrwydd, yn hytrach nag i'r rhai sy'n cardota ar y stryd.

"Rydym wedi dod yn bell iawn mewn cyfnod byr ac eisiau sicrhau bod y newid hwn yn parhau drwy barhau i weithio gydag unigolion er mwyn atal dychwelyd i'r strydoedd, i gardota ac i gamddefnyddio sylweddau ar ôl i'r mesurau presennol gael eu codi."

Mae'r Cyngor wedi bod yn adolygu gwasanaethau digartrefeddedd ar gyfer pobl sengl, yn arbennig y rhai ag anghenion cymhleth iawn, am nifer o fisoedd ac mae wedi bod yn dysgu o arfer gorau yn y DU a thramor i ddatblygu amrywiaeth o opsiynau llety a chymorth yn y dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne, "Roedd ein cynllunio tymor hwy eisoes ar y gweill cyn yr argyfwng iechyd presennol, ond gallwn adeiladu ar y llwyddiant dros y misoedd diwethaf i wneud newid gwirioneddol er gwell ym mywydau pobl.

"Bu newid sylfaenol yn nifer y bobl sy'n manteisio ar wasanaethau sy'n gallu newid bywydau pobl ac mae'r wythnosau diwethaf hyn wedi dangos y llwyddiant y gellir ei gyflawni o ran mynd i'r afael â digartrefedd os yw'r llety a'r cymorth iawn ar gael.

"Ni ellir mynd yn ôl. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar adferiad a chynnal y cynnydd sylweddol a wnaed dros y cyfnod hwn."

Dysgwch am sut y gallwch gefnogi elusennau sy'n gweithio gydag unigolion digartref yma:https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Housing/rough-sleeping/how-you-can-help/Pages/default.aspx

 

Gweithiwr gofal cael mynediad i adnoddau cwnsela a lles

I gefnogi lles emosiynol a meddyliol gweithwyr allweddol yn y sector gofal ledled Caerdydd, mae'r Cyngor wedi ymestyn mynediad i Care First, y gwasanaeth cwnsela ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol gan yr awdurdod, i weithlu gofal y ddinas.

Cyflogir tua 3,500 o bobl yn y sector yn 21 cartref nyrsio, 54 cartref preswyl a 100 cynllun llety byw â chymorth y ddinas ac mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd gofalu am les pawb sy'n gweithio yn y sector hwn drwy gydol y dyddiau anodd hyn.

Mae Care First yn wasanaeth 24/7 sy'n cynnig Rhaglen Cymorth Gweithwyr lawn, sy'n cynnwys cwnsela, ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth lles.

 

Tîm cogyddion dan hyfforddiant yn gweini prydau bwyd i bobl agored i niwed

Mae cogyddion ifanc dan hyfforddiant ymMenter Bwydydd Ieuenctid Cyngor Caerdydd,menter ar y cyd ag undeb y GMB i ddarparu hyfforddiant arlwyo a gwasanaeth bwyd i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, wedi darparu mwy na 11,500 o brydau poeth a 12,000 o becynnau brechdan a chacen i bobl agored i niwed yn ystod yr argyfwng COVID-19.

Mae'r tîm o 10, sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, wedi sicrhau bod cleientiaid yn y llety brys ychwanegol ar gyfer unigolion digartref yn y ddinas, yn ogystal â'r henoed yn y ddinas, wedi cael eu bwydo'n dda trwy gydol yr argyfwng trwy baratoi'r bwyd maethlon, a ddarperir wedyn gan dîm Pryd ar Glud y Cyngor.

 

Parc Bute wedi rhoi blanhigion

Mae ein tîm ym Mharc Bute wedi rhoi 3,000 o blanhigion i'r gymuned - ac roedd y project ar BBC One neithiwr!

Roedd y planhigion i fynd yn wastraff oherwydd COVID-19 ond gyda help grwpiau tyfu cymunedol, cawsant eu dosbarthu ar draws y ddinas.

(18m55s):

www.bbc.co.uk/iplayer/episode/m000jf9t