Dyma'r wybodaeth COVID-19 ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymdrin â: Bydd gwasanaethau angladd 45 munud yn cael eu cynnal unwaith eto; Gofal plant i weithwyr allweddol; Bydd Stryd Wood yn newid; a holiadur i helpu plant a phobl ifanc i ddweud wrth Lywodraeth Cymru am eu teimladau am gloi i lawr.
Gwasanaethau angladd yn dychwelyd i'r drefn cyn Covid19
Bydd gwasanaethau angladd 45 munud yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd unwaith eto ar ôl iddynt gael eu cyfyngu i 30 munud am ugain diwrnod.
Cyflwynwyd gwasanaethau byrrach, ar ben y penderfyniad i gynnal angladdau ar chwe diwrnod yr wythnos, i gynyddu nifer yr angladdau y gellid eu cynnal yn ystod y pandemig Covid-19 a sicrhau nad oedd angen i bobl mewn profedigaeth aros yn rhy hir am wasanaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae ein tîm Gwasanaethau Profedigaeth, a'r nifer o staff ychwanegol sydd wedi cael eu hadleoli i'r gwasanaeth, wedi gwneud gwaith gwych yn ystod cyfnod hynod heriol.
"Mae eu tosturi a'u proffesiynoldeb wrth ddelio â thrasiedi Covid-19 yn haeddu ein diolch a'n cydnabyddiaeth, ond fe wn i, fel pawb arall, y bydd y tîm yn falch ein bod unwaith eto'n gallu cynnig ychydig bach o amser ychwanegol i bobl gael galaru dros eu hanwyliaid."
Bydd gwasanaethau 45 munud yn cael eu hailgyflwyno o 26 Mai.
Gofal plant i weithwyr allweddol
Mae Caerdydd nawr yn gweithredu 25 canolfan ysgol sydd ar agor ledled y ddinas i blant gweithwyr allweddol, ac sydd wedi cynnig 20,000 o oriau o ofal plant yr wythnos ers i'r ysgolion gau yn y lle cyntaf.
Bydd y canolfannau cynradd, uwchradd, arbennig a blynyddoedd cynnar yn gweithredu yn ôl yr arfer dros y gwyliau hanner tymor yr wythnos nesaf.
Dylai gweithwyr allweddol sy'n hanfodol i'r ymateb i COVID-19 wybod mai dim ond os nad oes math diogel arall o ofal plant ar gael y dylid defnyddio darpariaeth gofal plant.
Mae'r ddarpariaeth yn dal i flaenoriaethu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn hosteli i'r digartref ac allgymorth) a'r gwasanaethau brys. Fodd bynnag, bydd y trefniadau nawr yn ceisio darparu ar gyfer categorïau ehangach o weithwyr allweddol hefyd, lle bo modd.
I gael rhagor o wybodaeth am ofal plant i weithwyr allweddol ewch I:
Bydd Stryd Wood yn newid
Mae lle ychwanegol yn cael ei wneud i gerddwyr gerdded ar draws Stryd Wood.
Ar ddydd Iau. 21 Mai, caiff 60 metr o le ar y ffordd ei dynnu o'r ffordd gerbydau wrth yr hysbysfyrddau ar gyfer y Pencadlysoedd BBC newydd.
Cofiwch ymarfer ymbellhau cymdeithasol wrth gerdded o gwmpas Caerdydd.
Holiadur cenedlaethol i blant a phobl ifanc
Mae na holiadur pwysig iawn i helpu plant a phobl ifanc i ddweud wrth Llywodraeth Cymru am eu teimladau ynglyn â‘rlockdown: sut mae hyn wedi amharu ar eu hiechyd, unrhyw bryderon sydd ganddynt; a'r effeithiau posib ar eu haddysg, ac hefyd unrhyw deimladau cadarnhaol sydd ganddynt o'r profiad hyn. Datblygwyd hyn ar y cyd rhwng Lywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Phlant yng Nghymru.
Mae'r holiadur wedi cael ei ddatblygu a'i wirio gan blant a phobl ifanc. Bydd y holiadur yn helpu'r Llywodraeth i ymateb wrth i'r sefyllfa ddatblygu yn y ffordd orau posib, ac i wybod sut i siarad ac i gyd-weithio â phlant a phobl ifanc yn ystod a thu hwnt i'r argyfwng yma.
Rydyn ni angen eich help er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc ar draws Cymru yn cael y cyfle i ddweud eu dweud.
Mae'n bwysig nodi bod yr holiadur yn helpu plant i gael help os ydy elfennau ohonno yn achosi iddyn nhw i boeni neu teimlo'n isel.
Disgwylir iddo gymryd 15 munud i'w gwblhau ac mae'n bosib i'w wneud ar unrhyw ddyfais wrth ddilyn y ddolen. Bydd yn cau ar y 27ain o Fai.
Gweler y holiadur yma: