Bydd y casgliadau wythnosol o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a gwastraff bwyd oddi ar ymyl y ffordd yn dychwelyd i'r gwasanaeth arferol o 1 Mehefin.
Gofynnir i breswylwyr ddechrau defnyddio eu cadis bwyd brown ar ymyl y ffordd unwaith eto o'r dyddiad hwn, a gwneud yn siŵr bod eu holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn mynd i mewn i'w bagiau gwyrdd i'w casglu. Bydd gwastraff a gesglir yn y bin du neu fagiau streipiau coch yn cael ei gasglu bob pythefnos.
Ond mae'r casgliadau o wastraff gardd gwyrdd, casgliadau swmpus a'r arbrawf gyda photeli a jariau gwydr yn dal wedi'u gohirio nes y nodir yn wahanol.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'n trigolion am weithio gyda ni ers i'r cyfyngiadau symud ddechrau. Maen nhw wedi bod yn wych ac wedi addasu i'r drefn newydd o gasglu, gan ledaenu'r newyddion yn eu cymunedau am y newidiadau.
"Rydym bob amser wedi dweud y byddem yn ceisio dychwelyd at y trefniadau gwasanaeth arferol cyn gynted ag y gallem, ac rydym nawr yn barod i ddechrau gwneud hynny.
"Rwy'n deall y gall fod rhywfaint o bryder nad yw'r gwasanaeth cyflawn a gynigiwyd gennym cyn y cyfnod cloi yn ddigon parod i ddychwelyd eto, ond gofynnaf i bawb fod yn amyneddgar â ni. Rydym yn gweithio ar gynlluniau i adfer ein holl wasanaethau cyn gynted ag y gallwn gan gynnwys ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, casgliadau gardd gwyrdd min ffordd a chasgliadau gwastraff swmpus.
"Er hynny, rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dechrau ailgylchu eto. Rwy'n gwybod ei fod wedi poeni llawer o drigolion ac rwyf am ddiolch iddynt i gyd am eu hamynedd."
Gofynnir i drigolion sy'n byw yn y 14,000 o gartrefi sy'n rhan o'r cynllun peilot 'poteli a jariau gwydr' barhau i roi eu poteli a'u jariau yn eu bagiau gwyrdd, yn hytrach na'u cadi glas nes y ceir rhybudd pellach.
Bydd yr holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a gesglir yn y bagiau gwyrdd nawr yn cael eu hailgylchu. Bydd yr holl wastraff bwyd, y mae'n rhaid ei gyflwyno i'w gasglu yn y cadis bwyd brown, yn cael ei brosesu mewn Safle Treulio Anaerobig i wneud trydan gwyrdd a chompost.
"Rydym yn sylweddoli y bydd preswylwyr yn siomedig na allwn gasglu gwastraff gardd gwyrdd oddi ar ymyl y ffordd ar hyn o bryd, ond dyna pam y cynigion ni'r casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro yn ystod y penwythnosau ym mis Mai. Rydym yn gweithio ar system archebu a fydd yn ein galluogi i agor ein CAGCau cyn gynted â'i bod yn ddiogel gwneud hynny. Bydd preswylwyr yn cael y dewis o fynd â gwastraff gardd i'r canolfannau ailgylchu ar ôl i'r cynllun hwn gael ei roi ar waith."
Gair i'r Golygydd:
- Gan y bydd y biniau du a'r bagiau streipiau coch yn cael eu casglu bob pythefnos o 1 Mehefin, mae'n bwysig bod trigolion yn gwybod pryd y bydd eu casgliad cyntaf. Mae'r tablau isod yn rhoi'r dyddiadau ar gyfer pob ward yn y ddinas
Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD LLUN:
Ardal | Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du) |
Creigiau/Sain Ffagan Y Tyllgoed Radur/Pentre-poeth Pentyrch Tongwynlais
| 8 Mehefin 22 Mehefin 6 Gorffennaf 20 Gorffennaf
|
Trelái Caerau | 1 Mehefin 15 Mehefin 29 Mehefin 13 Gorffennaf
|
Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD MAWRTH:
Ardal | Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du) |
Butetown Grangetown Glan-yr-afon | 2 Mehefin 16 Mehefin 30 Mehefin 14 Gorffennaf
|
Ystum Taf Llandaf Felindre Treganna | 9 Mehefin 23 Mehefin 7 Gorffennaf 21 Gorffennaf |
Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD MERCHER:
Ardal | Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du) |
Gabalfa Cathays Pen-y-lan | 3 Mehefin 17 Mehefin 1 Gorffennaf 15 Gorffennaf |
Pentwyn Plasnewydd Cyncoed | 10 Mehefin 24 Mehefin 8 Gorffennaf 22 Gorffennaf |
Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD IAU:
Ardal | Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du) |
Tredelerch Adamsdown Sblot | 4 Mehefin 18 Mehefin 2 Gorffennaf 16 Gorffennaf
|
Pontprennau/Pentref Llaneirwg Llanrhymni Trowbridge | 11 Mehefin 25 Mehefin 9 Gorffennaf 23 Gorffennaf |
Os mai eich diwrnod casglu ywDYDD GWENER:
Ardal | Gwastraff cyffredinol (bagiau streipiau coch/biniau du) |
Rhiwbeina Llys-faen Llanisien | 12 Mehefin 26 Mehefin 10 Gorffennaf 24 Gorffennaf |
Y Mynydd Bychan Yr Eglwys Newydd | 5 Mehefin 19 Mehefin 3 Gorffennaf 17 Gorffennaf |