The essential journalist news source
Back
18.
May
2020.
Diweddariad COVID-19: 18 Mai

Yn y diweddariad COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: bydd y casgliadau wythnosol o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a gwastraff bwyd oddi ar ymyl y ffordd yn dychwelyd i'r gwasanaeth arferol o 1 Mehefin; yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; a gweithio gyda dros 130 o rieni plant ifanc i gefnogi perthnasoedd teuluol, ymddygiad plant a datblygu plant.

 

Newidiadau i gasgliadau gwastraff oddi ar ymyl y ffordd o 1 Mehefin

Bydd y casgliadau wythnosol o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a gwastraff bwyd oddi ar ymyl y ffordd yn dychwelyd i'r gwasanaeth arferol o 1 Mehefin.

Gofynnir i breswylwyr ddechrau defnyddio eu cadis bwyd brown ar ymyl y ffordd unwaith eto o'r dyddiad hwn, a gwneud yn siŵr bod eu holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn mynd i mewn i'w bagiau gwyrdd i'w casglu. Bydd gwastraff a gesglir yn y bin du neu fagiau streipiau coch yn cael ei gasglu bob pythefnos.

Ond mae'r casgliadau o wastraff gardd gwyrdd, casgliadau swmpus a'r arbrawf gyda photeli a jariau gwydr yn dal wedi'u gohirio nes y nodir yn wahanol.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'n trigolion am weithio gyda ni ers i'r cyfyngiadau symud ddechrau.  Maen nhw wedi bod yn wych ac wedi addasu i'r drefn newydd o gasglu, gan ledaenu'r newyddion yn eu cymunedau am y newidiadau.

"Rydym bob amser wedi dweud y byddem yn ceisio dychwelyd at y trefniadau gwasanaeth arferol cyn gynted ag y gallem, ac rydym nawr yn barod i ddechrau gwneud hynny.

"Rwy'n deall y gall fod rhywfaint o bryder nad yw'r gwasanaeth cyflawn a gynigiwyd gennym cyn y cyfnod cloi yn ddigon parod i ddychwelyd eto, ond gofynnaf i bawb fod yn amyneddgar â ni. Rydym yn gweithio ar gynlluniau i adfer ein holl wasanaethau cyn gynted ag y gallwn gan gynnwys ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, casgliadau gardd gwyrdd min ffordd a chasgliadau gwastraff swmpus.

"Er hynny, rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dechrau ailgylchu eto.  Rwy'n gwybod ei fod wedi poeni llawer o drigolion ac rwyf am ddiolch iddynt i gyd am eu hamynedd."

Gofynnir i drigolion sy'n byw yn y 14,000 o gartrefi sy'n rhan o'r cynllun peilot 'poteli a jariau gwydr' barhau i roi eu poteli a'u jariau yn eu bagiau gwyrdd, yn hytrach na'u cadi glas nes y ceir rhybudd pellach.

Bydd yr holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a gesglir yn y bagiau gwyrdd nawr yn cael eu hailgylchu.  Bydd yr holl wastraff bwyd, y mae'n rhaid ei gyflwyno i'w gasglu yn y cadis bwyd brown, yn cael ei brosesu mewn Safle Treulio Anaerobig i wneud trydan gwyrdd a chompost.

"Rydym yn sylweddoli y bydd preswylwyr yn siomedig na allwn gasglu gwastraff gardd gwyrdd oddi ar ymyl y ffordd ar hyn o bryd, ond dyna pam y cynigion ni'r casgliadau gwastraff gardd gwyrdd untro yn ystod y penwythnosau ym mis Mai. Rydym yn gweithio ar system archebu a fydd yn ein galluogi i agor ein CAGCau cyn gynted â'i bod yn ddiogel gwneud hynny. Bydd preswylwyr yn cael y dewis o fynd â gwastraff gardd i'r canolfannau ailgylchu ar ôl i'r cynllun hwn gael ei roi ar waith."

 

Casgliadau Gwastraff Gardd Untro ar ddydd Sadwrn yn parhau

Dyma nodyn i'ch atgoffa y cynhelir casgliadau gwastraff gardd untro ar ddydd Sadwrn y mis hwn.

Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu arDdydd Iauyn cael casgliad gwastraff garddddydd Sadwrn yma, 23 Mai.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

I weld cwestiynau ac atebion am y casgliadau gwastraff gardd untro yn ystod mis Mai, ewch i:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23726.html

 

Rhieni a Mwy yn rhedeg gwasanaeth rhianta o bell yn ystod y cyfnod cloi

Mae Rhieni a Mwy yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg i blant dan 4 oed a'u teuluoedd mewn ardaloedd Dechrau'n Deg. Ers dechrau cyfnod cloi Covid-19, mae'r gwasanaeth wedi newid ei wasanaeth rhianta ymweld â chartrefi'n gyflym er mwyn cynnig ymyriadau rhianta 1:1 pwrpasol dros y ffôn neu ar alwadau fideo. 

Mae'r tîm wrthi'n gweithio gyda dros 130 o rieni plant ifanc i gefnogi perthnasoedd teuluol, ymddygiad plant a datblygu plant. Yn ogystal â hyn, mae'r tîm hefyd yn cynnig 'galwadau lles' wythnosol i deuluoedd sydd eu hangen.

Dywed rheolwr y tîm, Dr Nicola Canale, fod ei thîm wir wedi ymrwymo i gefnogi rhieni a'u plant ifanc yn ystod y cyfnod hwn, "Mae pob aelod o staff wedi bod yn bositif ac yn broffesiynol wrth addasu'n gyflym i'r newidiadau roedd angen eu gwneud er mwyn parhau i gefnogi rhieni tra'n rheoli newidiadau sylweddol yn eu cartrefi eu hunain hefyd.  Rwyf wedi ein gweld gwerth craidd ar waith, sef bod yn dîm sy'n seiliedig ar gryfder, yn fwy nag erioed dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac rwy'n teimlo'n falch o'r tîm cyfan".

Cysylltodd rhiant â'r tîm yn ddiweddar am un o Ymarferwyr Rhieni a Mwy gan ddweud, "Mae hi wedi fy helpu mewn ffyrdd na allwn eu dychmygu. Mae hi wedi bod yn drylwyr ac yn gyson ac mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda hi. Mae hi wir yn deall yr hyn rwy'n mynd trwyddo ac mae wedi fy nghefnogi cymaint, ac yn parhau i wneud felly dros y ffôn yn ystod y cyfnod cloi. Gwnaeth hi gyflwyno technegau TGY (therapi gwybyddol ymddygiadol) i fi sydd wedi fy helpu i herio'r meddyliau (negyddol) hynny. Rwyf mor falch i mi ddefnyddio eich gwasanaeth a chyfarfod â hi. Mae hi'n wych ac ni alla'i ddiolch digon iddi".

I gael mwy o wybodaeth am Rhieni a Mwy ewch i wefan Dechrau'n Deg:

https://www.flyingstartcardiff.co.uk/cy/gwasanaethau/gwasanaeth-rhieni-a-mwy/