The essential journalist news source
Back
15.
May
2020.
Caiff mesurau ymbellhau cymdeithasol eu gosod ar Stryd y Castell ddydd Sul

Caiff y lôn draffig ger Castell Caerdydd, ar Stryd y Castell, ei chau ddydd Sul yma, 17 Mai, er mwyn ymestyn y palmant i'r heol i'w ddefnyddio gan gerddwyr a beicwyr.

Dyma'r project cyntaf i'w roi ar waith yng nghanol y ddinas i gadw'r cyhoedd yn ddiogel a'u galluogi i gadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol ar rwydwaith y briffordd. Cafodd gwaith arall ei gyflwyno'n llwyddiannus yn gynharach o amgylch Llyn Parc y Rhath a oedd yn cynnwys creu llwybr cerdded unffordd o amgylch y llyn i gynorthwyo â mesurau ymbellhau cymdeithasol, a hefyd cafwyd gwared ar y mannau parcio i ymwelwyroedd yn agosaf at y llyn, i wneud lle ychwanegol i feicwyr a rhedwyr.

Bydd y man newydd hwn a rennir yn rhedeg o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol y Bont-faen, dros bont Treganna, ar hyd Stryd y Castell, Heol y Dug a hyd at gyffordd Heol y Gogledd a Boulevard de Nantes.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae rhaid i ni sicrhau bod unrhyw newidiadau rydym yn eu gwneud i ffyrdd a phalmentydd yn ddiogel i bawb sy'n defnyddio'r ffordd. Stryd y Castell yw'r cynllun ffordd cyntaf yn y ddinas. Caiff ei osod ddydd Sul ac rydym wrthi hefyd yn ystyried cyflwyno cynllun tebyg ar Stryd Wood.

"Mae'n amhosibl i ni weddnewid yr holl fannau cyhoeddus yn y ddinas dros nos, ond rydym yn gwneud popeth ag y gallwn, gyda'r adnoddau sydd ar gael, i gyflwyno'r cynlluniau ymbellhau cymdeithasol hyn cyn gynted â phosib.

"Gyda'r cynnydd arwyddocaol yn niferoedd y bobl sy'n beicio a cherdded i'r ddinas, mae'n bwysig, yn fwy nag erioed, fod pawb sy'n defnyddio gofod cyhoeddus yn parchu ac yn ofalgar tuag at eraill, yn enwedig at ddefnyddwyr sydd yn agored i niwed."

Pan gaiff y man newydd a rennir ei osod ar Stryd y Castell, caiff ei farcio dros dro gyda chonau traffig. Caiff y conau hyn eu hamnewid gyda chonau polyn wedi eu bolltio maes o law.

Caiff cynllun peilot ei lansio ar Welfiled Road, yn Plasnewydd yn fuan, i alluogi ymbellhau cymdeithasol mewn canolfannau siopa yn yr ardal. Mae'r cyngor wrthi'n gweithio gyda busnesau yn yr ardal i ddatblygu'r cynllun terfynol, ond bydd yn cynnwys dileu'r mannau parcio ar y naill ochr o'r ffordd i alluogi'r gwaith o ymestyn y palmant i roi ragor o le i gadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol.