15/5/2020
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu miloedd o ddyfeisiau digidol a donglau band eang drwy Gronfa Prosiect Technoleg Addysg Llywodraeth Cymru i gefnogi plant yng Nghaerdydd sydd wedi methu â dysgu ar-lein tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19.
Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gydag ysgolion ar draws y ddinas i gyflawni'r cynllun, a fydd yn gweld dros 5000 o ddyfeisiau Chromebook neu i-Pad yn cael eu benthyg gan ysgolion sy'n bodoli eisoes neu eu prynu, a 2500 o ddonglau band eang yn cael eu harchebu.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd o fynd i'r afael ag amddifadedd digidol, er mwyn i blant a phobl ifanc barhau i fanteisio ar ddysgu ar-lein, tra bod ysgolion ar gau.
"Rydym wedi bod yn casglu gwybodaeth i bennu faint yn union o ddisgyblion sydd angen cymorth digidol ac mae tîm prosiect penodol wedi'i sefydlu i gyflwyno'r cynllun newydd gyda chymorth ein hysgolion.
"Yn bwysig, yn ogystal â sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu parhau i ddysgu ac ymgysylltu ag addysg yn ystod yr argyfwng iechyd, rydym hefyd yn bwriadu i hyn fod yn rhan o ateb hirdymor i gefnogi dysgu o bell ar ôl y cloi mawr."