Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd:mae torri gwair wedi ailgychwyn ym mharciau'r ddinas ac ar hyd priffyrdd lle mae angen gwneud hynny am resymau diogelwch; video Iaith Arwyddion Prydain yn cyfeirio at wasanaethau; a mwy na 7,500 o alwadau i'n Llinell Gyngor.
Ailgychwyn torri gwair yng Nghaerdydd
Mae torri gwair, a ataliwyd dros dro gan Gyngor Caerdydd ers dechrau argyfwng Covid-19, wedi ailgychwyn ym mharciau'r ddinas ac ar hyd priffyrdd lle mae angen gwneud hynny am resymau diogelwch, ond oherwydd Covid-19 dywedir wrth drigolion i beidio â disgwyl yr un lefel o dorri porfa ag y byddent wedi'i weld yn y blynyddoedd blaenorol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Efallai bod popeth arall wedi stopio yn ystod y cyfyngu ar symud ond fel y gŵyr garddwyr brwd, mae'r glaswellt yn dal i dyfu. Os na ddechreuwn ni ei dorri nawr, yna bydd ein parciau, yr ydym wir eisiau eu cadw ar agor i breswylwyr nad ydynt yn ddigon ffodus i gael gofod awyr agored eu hunain allu eu defnyddio yn ystod y cloi, yn dechrau dioddef go iawn."
"Fodd bynnag, gan ein bod yn gweithredu gyda lefelau staff sylweddol is o ganlyniad i Covid-19 ac mae angen i ni sicrhau bod ein tîm parciau yn cadw at ofynion ymbellhau cymdeithasol, eleni byddwn yn torri'r ardaloedd o laswelltir yn llawer llai aml."
"Fodd bynnag, mae'n hanfodol torri gwair. Os nad ydy rhywun yn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd, buan y gall ardaloedd fynd allan o reolaeth a pho hiraf y gadewch chi bethau, yr hiraf y cymer i fynd yn ôl i siâp. Mae hynny'n arbennig o wir am ein meysydd chwaraeon. Os nad ydym yn eu cynnal nawr, gallai gymryd peth amser a buddsoddiad sylweddol i'w gwneud yn addas ar gyfer chwarae eto."
Bydd torri glaswellt ar ymylon priffyrdd yn canolbwyntio ar ardaloedd lle gallai gormod o dyfiant achosi problemau gwelededd ac effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr y ffordd a cherddwyr.
Fideo Iaith Arwyddion Prydain yn cyfeirio at wasanaethau sydd ar gael gan y Cyngor
Mae Cyngor Caerdydd a Gwasanaeth Cyfieithu Cymru wedi cynhyrchu fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) sy'n cyfeirio at y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn ystod yr argyfwng presennol.
Mae'r fideo'n egluro sut y gall pobl gysylltu â'r Cyngor drwy ddefnyddio BSL ac mae'n tynnu sylw at y gwasanaethau sydd ar gael i breswylwyr, fel cymorth i'r rhai sy'n cael trafferth i gael bwyd ac eitemau hanfodol, neu ble i gael bagiau ailgylchu gwyrdd.
Mae'n cyfeirio trigolion at wefan y Cyngor lle gall pobl gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau, gan hefyd gyfeirio at wasanaethau defnyddiol eraill fel Dewis Cymru.
Gallwch wylio neu rannu'r fideo yma:
https://www.youtube.com/watch?v=hSxKzvBqhEc
Llinell Gyngor
Rydyn ni wedi ateb mwy na 7,500 o alwadau i'n Llinell Gyngor ers dechrau'r argyfwng #COVID19.
Help i:
- gael bwyd
- hawlio budd-daliadau
- help gyda dyled a
- cyngor i mewn i waith a Credyd Cynhwysol
Os nad oes gennych arian nac unrhyw un i'ch helpu, ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.