The essential journalist news source
Back
23.
April
2020.
Ymlaen â’r gân i gerddorion ifanc Caerdydd

23/4/2020

 

Mae cerddorion ifanc Caerdydd a’r Fro yn gallu parhau i ddysgu, ymarfer a mwynhau cerddoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd sydd ohoni.

Mae Gwasanaeth Cerdd Cyngor Caerdydd a Bro Morgannwg wedi datblygu nifer o ddulliau digidol o gyflwyno hyfforddiant cerddorol, gwersi un i un ac ymarferion.

Mae staff wedi addasu i’r dulliau newydd o weithio, gan drefnu cyfarfodydd ac ymarferion rhithwir fel y gall bandiau, corau a cherddorfeydd barhau i gyd-chwarae yn ogystal â chynnig cyfleoedd i deuluoedd fwynhau cerddoriaeth gyda’i gilydd.

Dywedodd Emma Coulthar, Pennaeth y Gwasanaeth:    “Mae cerddoriaeth yn uno pawb ac o ran lles yr unigolyn alla i ddim meddwl am unrhyw beth arall sy’n well. 

“Rydym mor falch o allu sicrhau bod ein disgyblion yn gallu parhau i chwarae ac yn gyffro i gyd o fod yn defnyddio technoleg newydd i gyrraedd hyd yn oed mwy o ddisgyblion.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn y cyfnod anarferol a heriol hwn, gall cerddoriaeth wir helpu i godi calon a chyfleu ymdeimlad o fod yn un sydd ei angen yn fawr.

"Mae'r gwasanaeth cerddoriaeth wedi gweithio'n galed i sicrhau y gall plant a phobl ifanc barhau gyda'u hyfforddiant cerddoriaeth, sy'n sicr o fod yn ffordd werthfawr a phleserus o wario amser tra bydd yr ysgolion ar gau."

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

(ends)

Cardiff Council Media Advisor Danni Janssens Tel: 029 20872965

Email: danni.janssens@cardiff.gov.uk