17/4/20
Mae Llinell Gyngor y Cyngor wedi derbyn dros 4,600 o alwadau gan drigolion o bob rhan o Gaerdydd yn chwilio am gymorth a chefnogaeth yn ystod argyfwng COVID-19, ac mae'r Tîm Bwyd wedi darparu 1,900 o barseli bwyd.
Mae'r Llinell Gyngor ar agor chwe diwrnod yr wythnos i helpu pobl ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys cael gafael ar fwyd aceitemau hanfodol, hawlio budd-daliadau ac incwm, cyngor I Mewn i Waith, cyngor ar Gredyd Cynhwysol a help gyda dyledion.
Ers cyhoeddi'r cyfyngiadau symud yn y DU ar 23 Mawrth, mae'r tîm wedi ateb 4,609 o alwadau ac maen nhw'n cyflawni rôl hollbwysig yn ymateb y ddinas i sicrhau darpariaeth ar gyfer pobl mewn angen sy'n agored i niwed yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae'r cymorth sydd ar gael fel a ganlyn:
Os ydych yn hunanynysu a heb arian nac unrhyw un i'ch helpu chi:
Gall ein Llinell Gyngor helpu i sicrhau bod bwyd ac eitemau hanfodol eraill yn cael eu hanfon atoch chi. Ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwchhybcynghori@caerdydd.gov.uk
Mae ein llinellau ar agor rhwng dydd Llun a dydd Mercher, a dydd Gwener, 9am - 6pm
Dydd Iau 10am - 7pm
Dydd Sadwrn - 9am - 5:30pm
Os ydych yn hunanynysu ac angen help gyda siopa / danfoniadau bwyd.
Ewch iwww.gwirfoddolicaerdydd.co.uki weld sefydliadau/busnesau yn eich ardal leol i'ch helpu ar y tudalennau Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd/Together for Cardiff. Ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw help yn agos atoch chi.
Os nad oes gennych arian ar gyfer bwyd a hanfodion ond nad ydych yn hunanynysu
Ffoniwch ein Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu galwch heibio un o'n pedwar Hyb isod i gael taleb a pharsel. Bydd angen i chi egluro pam mae angen taleb arnoch
- Hyb y Llyfrgell Ganolog
- Hyb Llaneirwg
- Hyb Trelái a Chaerau
- Powerhouse, Llanedern
Ar ôl i chi gael y parsel, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cynnal gwiriad incwm a budd-dal llawn.
Yn ogystal â'r cymorth hwn, mae canolfannau dosbarthu banc bwyd Caerdydd yn dal ar agor.
Mae manylion darparwyr talebau ar gael yma:
www.cardiff.foodbank.org.uk/get-help/foodbank-vouchers/a chanolfannau dosbarthu yma: www.cardiff.foodbank.org.uk/locations/
Bydd angen i chi gael taleb i gael bwyd o'r ganolfan ddosbarthu.
Os ydych wedi cael llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol yn dweud y dylech fod yn eich "gwarchod" eich hun.
Byddwch yn derbyn galwad ffôn gan y Llinell Gyngor i ofyn a oes angen help arnoch chi. Os nad ydych wedi derbyn galwad eto ac angen help i gael yr hanfodion oherwydd nad oes gennych unrhyw un i'ch helpu, ffoniwch 029 2023 4234.
Y Tîm Bwyd
Mae dros 1,900 o barseli bwyd a hanfodion argyfwng eisoes wedi'u dosbarthu i breswylwyr mewn angen ar hyd a lled y ddinas, ac mae 279 o barseli eraill wedi'u casglu o hybiau. Mae ein Tîm Bwyd yn cael ei redeg gan staff y Cyngor ynghyd â nifer fawr o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o'u hamser i sicrhau bod trigolion Caerdydd yn cael y bwyd a'r eitemau hanfodol sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae ein Llinell Gynghori'n achubiaeth go iawn i bobl sy'n cael anawsterau yn ystod yr argyfwng. Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i ni i gyd, ond mae help ar gael.
"Mae staff a gwirfoddolwyr ein Tîm Bwyd yn gweithio'n ddiflino i ddewis, pacio a darparu parseli brys ac rydym wedi helpu cannoedd o bobl yn barod. Mae'r gwerthfawrogiad a'r adborth cadarnhaol rydyn ni'n eu cael yn fendigedig - pob clod i'r timau sy'n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod gan bobl mewn angen yr hyn sydd ei angen arnyn nhw.
"Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i fanc bwyd Caerdydd am eu cefnogaeth barhaus i bobl ledled y ddinas a'r cyfraniad maen nhw'n ei wneud i'n gweithrediadau hefyd. Diolch hefyd i'r busnesau a'r unigolion amrywiol sydd wedi rhoi naill ai bwyd neu arian. Rydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd dros Gaerdydd, i helpu ein cymunedau i fynd drwy'r argyfwng hwn. "
I roi rhodd i Apêl Bwyd Caerdydd, ewch iwww.cardiff.gov.uk/appeal
Bydd 100% o'r arian a roddir yn cael ei wario ar fwyd a hanfodion ar gyfer pobl mewn angen.
Os hoffech gefnogi'r gwaith i helpu pobl mewn angen ar draws y ddinas drwy wirfoddoli, ewch i www.gwirfoddolicaerdydd.co.uk a chliciwch ar y tudalennau Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd/Together for Cardiff i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru.