Dyma'r crynodeb COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: llythyr o ddiolch i bob gweithiwr y sector cyhoeddus; timau Cyngor Caerdydd yn cefnogi'r gwaith i drawsnewid Stadiwm Principality yn ysbyty dros dro; arhoswch gartref, achubwch fywydau; a casgliadau gwastraff ac ailgylchu dros y Pasg
Bydd Diweddariad COVID-19 yn ôl ddydd Mawrth, 14 Ebrill.
Llythyr o ddiolch i bob gweithiwr y sector cyhoeddus
Mae llythyr o ddiolch wedi'i anfon at staff Cyngor Caerdydd, a gweithwyr y sector cyhoeddus eraill, gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, yn ogystal ag arweinwyr eraill ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae'r llythyr yn dechrau â'r canlynol:
Annwyl gydweithwyr,
Ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, rydym yn ysgrifennu i ddweud yn syml: diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am eich ymdrechion i gadw pobl ein dinas yn ddiogel ac yn dda, am eich gwaith yn diogelu a chynorthwyo ein pobl fwyaf agored i niwed ac am eich gwaith yn cadw'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i fynd wrth i ni wneud popeth y gallwn ni i atal lledaenu'r feirws.
Diolch yn fawr am eich ymdrechion i gadw pobl ein dinas yn ddiogel ac yn dda, am eich gwaith yn diogelu a chynorthwyo ein pobl fwyaf agored i niwed ac am eich gwaith yn cadw'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i fynd wrth i ni wneud popeth y gallwn ni i atal lledaenu'r feirws.
I ddarllen y llythyr yn llawn, cliciwch yma:
Timau Cyngor Caerdydd yn cefnogi'r gwaith i drawsnewid Stadiwm Principality yn ysbyty dros dro
Gyda help gan Staff Cyngor Caerdydd, mae Stadiwm Principality yn cael ei drawsnewid yn ysbyty dros dro fel y gellir cynnnig cyfleusterau Gofal Dwys digonol i'r GIG, fel rhan o'r ymateb parhaus i 'COVID-19'.
Disgwylir i'r ysbyty dros dro, sydd wedi ei enwi'n Ysbyty Calon y Ddraig, agor y Sadwrn hwn ar 11 Ebrill, gyda lle i 300 o welyau. Gellir cynyddu nifer y gwelyau yn yr ysbyty i 2000 os bydd angen.
Bydd ein Tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, o'r enw Y Fyddin Binc, yn ehangu eu presenoldeb i'r Ysbyty Calon y Ddraig. Byddant yn darparu cefnogaeth hanfodol i ystod o gleifion sy'n cael eu rhyddhau. Bydd hyn yn digwydd yn ychwanegol at eu cefnogaeth barhaus i gydweithwyr Iechyd a chleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i flaenoriaethu gwaredu gwastraff y GIG o 40 safle ledled y ddinas. Nid yw'r gwasanaeth llogi sgipiau ar gael mwyach i'r cyhoedd, gan fod yr holl sgipiau bellach wedi'u cadw ar gyfer y GIG a chwsmeriaid gwasanaethau hanfodol eraill.
Bydd y gwaith i drawsnewid y stadiwm yn ysbyty yn orchwyl 24/7 er mwyn sicrhau bod gwelyau ar gael pan fydd eu hangen.
Mae llythyr wedi'i ddanfon gan staff at yr holl breswylwyr sy'n byw ar Heol y Porth a Fitzhamon Embankment heddiw, ar ran y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Fe'i gwnaed yn glir iawn nad oes mwy o berygl i breswylwyr sy'n byw yng nghyffiniau'r cyfleuster dros dro. Mae cwestiynau ac atebion wedi'u darparu, yn ogystal â manylion cyswllt, rhag ofn bod gan y preswylwyr bryderon ychwanegol.
Bydd aelodau lleol yn parhau i gael y newyddion diweddaraf am y project wrth iddo fynd rhagddo a rhoddir rhagor o gymorth os bydd angen.
Arhoswch Gartref. Achubwch Fywydau
Diolch i'r mwyafrif o ddefnyddwyr ein parciau sydd wedi bod yn cydymffurfio â gofynion ymbellhau cymdeithasol.
Ry'n ni eisiau cadw parciau'r ddinas ar agor cyn hired â phosib, fel y gall pobl ymarfer corff a chael awyr iach - felly plîs, defnyddiwch nhw'n gyfrifol.
O ddiwedd yr wythnos hon, bydd yr Gwylwyr y Glannau EM yn dechrau cefnogi Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru drwy fynd o stryd i stryd yn y ddinas gyda neges glir dros uchelseinydd - ‘Arhoswch Gartref, Achubwch Fywydau'.
Bydd y neges lawn i'w darlledu yn dweud: "Arhoswch Gartref, Achubwch Fywydau. Cofiwch gadw at y gofynion ymbellhau cymdeithasol y tu allan a chadw 2 fetr i ffwrdd o eraill. Helpwch i amddiffyn y GIG".
Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu dros y Pasg
Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un peth yn ystod y Pasg eleni, ond mae'n bosibl y bydd amseroedd casglu yn newid felly sicrhewch fod eich gwastraff allan erbyn 6am.
Bydd gwasanaethau casglu gwastraff yn gweithredu ar Ddydd Gwener y Groglith (10 Ebrill) a Dydd Llun y Pasg (13 Ebrill).
Bydd ein casglwyr sbwriel yn gweithio ar draws gwyliau banc y Pasg i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau.
Ailgylchu
Rydym yn gofyn i chi barhau i wahanu deunyddiau ailgylchadwy, yn union fel y byddech fel arfer, oherwydd rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw le yn eich bin du/ bagiau streipiau coch ar gyfer yr eitemau hynny pe na baech yn cael casgliad bagiau ailgylchu.
Mae Caerdydd am fod y ddinas ailgylchu orau yn y byd, felly rydym am i chi barhau i ailgylchu yn eich bagiau gwyrdd ailgylchu, er mwyn cynnal arferion da ar gyfer pan fydd yr argyfwng drosodd.
Gall yr eitemau canlynol fynd yn eich bag ailgylchu gwyrdd:
Blychau Cardfwrdd Wyau Pasg
Pecynnu plastig o flychau wyau Pasg
Ffoil (gwnewch yn siŵr ei fod yn lân ac wedi ei wasgu yn belen.
Os nad ydych chi'n siŵr a ellir ailgylchu eitem, gwiriwch ein A-Y ailgylchu:
https://www.caerdydd.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx