Back
8.
April
2020.
Gwylwyr y Glannau EM yn dweud wrth drigolion Caerdydd am aros gartref
Ni fyddech fel arfer yn gweld Gwylwyr y Glannau
ei Mawrhydi ar strydoedd Caerdydd, ond mae hynny ar fin newid fel rhan o
gynlluniau i helpu i arafu ac atal trosglwyddo COVID19. O ddiwedd yr wythnos
hon, bydd yr asiantaeth llywodraeth yn dechrau cefnogi Cyngor Caerdydd a
Heddlu De Cymru drwy fynd o stryd i stryd yn y ddinas gyda neges glir dros
uchelseinydd - ‘Arhoswch Gartref, Achubwch Fywydau'.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a
Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydym yn ddiolchgar i'n partneriaid
yng Ngwylwyr y Glannau EM am y cynnig hwn o gyd-gymorth, a fydd yn ein galluogi
i ehangu ar y patrolau presennol y mae ein ceidwaid parciau a'r heddlu'n eu
cynnal.
"Mae'n bwysig iawn bod yr holl drigolion
yn gwrando ar y neges hon, ac yn amddiffyn y GIG drwy aros gartref a dilyn y
cyfarwyddiadau ar ymbellhau cymdeithasol. Yn y pen draw, bydd yn achub
bywydau."
Bydd y neges lawn i'w darlledu yn dweud:
"Arhoswch Gartref, Achubwch Fywydau. Cofiwch gadw at y gofynion ymbellhau
cymdeithasol y tu allan a chadw 2 fetr i ffwrdd o eraill. Helpwch i
amddiffyn y GIG".
Contact
Newyddion CaerdyddCategory