The essential journalist news source
Back
3.
April
2020.
1,000 o wirfoddolwyr yn ymuno â Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd


 3/4/20

Erbyn hyn, mae aelodaeth grŵp gwirfoddolwyr Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yn cynnwys 1000 o breswylwyr o bob rhan o'r ddinas sydd wedi ymrwymo i neilltuo eu hamser a'u gwasanaethau i helpu pobl mewn angen yn ystod argyfwng COVID-19.

 

O fewn pythefnos yn unig, mae'r cynllun wedi derbyn llu o gynigion o gefnogaeth a chymorth wrth i'r ddinas fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan argyfwng y coronafeirws ac mae'n ceisio sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn gallu cael y darpariaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Wedi'i chynnwys ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd, mae Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yn gweithredu fel gwasanaeth brocera, gan baru pobl a hoffai helpu â chyfleoedd gwirfoddoli ledled y ddinas. Gall y rhai sy'n chwilio am gymorth hefyd chwilio am help yn eu hardal leol ar y wefan.

 

Mae llawer o'r gwirfoddolwyr hyn yn cefnogi gwaith timau'r Cyngor, er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol i'r rhai sydd mewn angen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Ers ei lansio ar 20 Mawrth, ymwelwyd â thudalen gwe'r cynllun dros 42,100 o weithiau ac mae 1,026 o unigolion bellach wedi cofrestru i wneud yr hyn a allant i helpu eraill yn ystod yr argyfwng. 

 

Yn ogystal â'r wefan, mae Llinell Gyngor y Cyngor wedi derbyn 2,181 o alwadau gan unigolion y mae angen cymorth arnynt i gael eitemau hanfodol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r ymateb i Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd wedi bod yn syfrdanol ac mae'n wych gweld pobl ar hyd a lled y ddinas yn barod i fynd allan o'u ffordd i helpu eraill. Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwneud gwaith mor anhygoel.

 

"Mae'r Cyngor bellach yn cydlynu gweithrediadau sylweddol i helpu pobl mewn angen. Mae gwirfoddolwyr o blith ein staff a'r gymuned yn cefnogi pobl sy'n ei chael yn anodd prynu bwyd oherwydd yr effaith mae'r argyfwng wedi'i chael ar eu harian, yn ogystal â'r rhai na allant fynd allan i siopa oherwydd eu bod yn hunanynysu.

 

"Mae llawer o staff y Cyngor o wahanol adrannau wedi cael eu hadleoli i'n gweithgareddau strategaeth fwyd, gan gasglu rhoddion bwyd, codi a phecynnu bwyd a dosbarthu'r eitemau i hybiau ac i gartrefi pobl. Hoffwn dalu teyrnged i'w hymdrechion diflino hefyd, ynghyd â rhai ein gwirfoddolwyr. Rydym i gyd yn ceisio sicrhau bod gan ein cyd-ddinasyddion yr hyn mae ei angen arnynt i ddod drwy hyn. Diolch.

 

"Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r busnesau sydd wedi ein cefnogi gyda rhoddion ac rydym yn awyddus i weithio gyda mwy o sefydliadau sy'n gallu ein cefnogi."

 

Mae rhan o waith y Cyngor yn ymwneud â chefnogi Banc Bwyd Caerdydd ac mae parseli bwyd brys ar gael i bobl heb arian mewn pedwar hyb yn y ddinas, sef Trelái a Chaerau, Llaneirwg, y Powerhouse yn Llanedern a Hyb y Llyfrgell Ganolog. Mae mwy na 134 o barseli wedi'u casglu o'r hybiau hyn yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mae bron 1,000 o barseli bwyd a hanfodion wedi'u dosbarthu i aelwydydd sy'n hunanynysu ac sy'n methu fforddio prynu hanfodion ac sydd heb rwydwaith teulu na rhwydwaith cymorth i'w helpu.

 

Mae'r cymorth sydd ar gael fel a ganlyn, gan ddibynnu ar anghenion unigolyn/teulu.

 

PoblNADydynt yn hunanynysu sydd heb arian

  • Ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu ewch i wefan Banc Bwyd Caerdydd  https://cardiff.foodbank.org.uk/i gael gwybodaeth am sut i gael taleb Banc Bwyd Caerdydd. Mae sefydliadau sy'n dal talebau wedi'u rhestru ar y wefan, yn ogystal â lleoliadau lle y gellir casglu parseli bwyd
  • Gellir casglu parseli bwyd brys o bedair hyb hefyd - sef Trelái a Chaerau, The Powerhouse yn Llanedern, Llaneirwg, a Hyb y Llyfrgell Ganolog. Bydd y Llinell Gyngor yn cysylltu ag unrhyw un sy'n mynd i hyb er mwyn trafod y rheswm pam mae angen parsel arno/arni ac i gynnig cymorth gydag ymholiadau ynglŷn â budd-daliadau ac ati.

Pobl sy'n hunanynysu sydd ag arian

  • Pryd ar Glud(os bodlonir y meini prawf gofynnol). Mae prisiau'n dechrau o £3.90 Ffôn: 02920 537 080 E-bost:prydarglud@caerdydd.gov.uk
  • Ewch i dudalennau Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd

www.gwirfoddolicaerdydd.co.uk  Cliciwch ar 'Dod o hyd i help gerllaw' ac yna dewiswch yr ardal a'r math o help sydd ei angen arnoch. Bydd amrywiaeth o grwpiau/busnesau lleol yn cael eu dangos y gellir cysylltu â nhw yn uniongyrchol i gael cymorth.

  • I'r rhai sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu er mwyn cael mwy o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Gyngor a fydd yn cyfeirio pobl at grwpiau cymorth lleol cymeradwy: 02920 871 071.

Pobl NAD ydynt yn hunanynysu sydd heb arian

  • Ffoniwch neu e-bostiwch y Llinell Gyngor ar 02920 871 071 neu hybcynghori@caerdydd.gov.uk i ddosbarthu parsel bwyd/eitemau hanfodol. Caiff taleb banc bwyd ei chwblhau'n 'rhithwir' gan staff ar gyfer cwsmeriaid

 

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne, "Mae pobl sy'n derbyn ein help yn gwerthfawrogi'r gwaith hwn yn fawr.  Ar ôl derbyn parsel, cymerodd un cleient yr amser i alw'r tîm i ddweud diolch a chanmol y gwaith gwych maen nhw oll yn ei wneud. Dywedodd wrthym bod ei wraig wedi marw yr adeg hon chwe blynedd yn ôl a'i fod wedi ei hael yn anodd yn ddiweddar, ond dywedodd fod y cymorth roedd wedi'i dderbyn wedi bod o'r radd flaenaf. Mae adborth fel hynny'n amhrisiadwy ac yn gwneud i bawb sylweddoli pa mor hanfodol yw'r gwaith rydym yn ei wneud."

    

I ymuno â'r cynllun Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd, ewch iwww.gwirfoddolicaerdydd.co.ukneu ffoniwch02920 871 071