The essential journalist news source
Back
2.
April
2020.
COVID-19; Diweddariad i drefniadau ysgolion yn ystod y Pasg.

2/4/2020 

COVID-19; Diweddariad i drefniadau ysgolion yn ystod y Pasg.

 

Prydau Ysgol Am Ddim

Bydd y ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn newid i gynllun talebau o ddydd Llun 6 Ebrill ymlaen a chaiff ei ymestyn i gynnwys yr hyn a fyddai wedi bod yn gyfnod o bythefnos o wyliau Pasg i ysgolion.

Bydd y cynllun talebau newydd yn disodli'r pecynnau bachu bwyd a ddarparwyd i ysgolion ers dydd Llun 23 Mawrth.

Caiff rhieni a gofalwyr plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd daleb y gellir ei lawrlwytho gwerth £40 er budd eu plentyn/plant cymwys, a gellir ei wario yn un o'r archfarchnadoedd canlynol;

-         Tesco

-         Asda

-         Sainsbury's

-         Morrisons

-         Marks & Spencer

-         Waitrose.

Bydd y trefniadau ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim ar ôl toriad y Pasg yn cael eu cyfathrebu maes o law.

Mae'r Cyngor wedi llwyddo i ddarparu 45,000 o fagiau bachu i'w casglu a'u cymryd i'w bwyta oddi ar y safle, ond bydd y cynllun newydd yn cynorthwyo mesurau i leihau cyswllt cymdeithasol, fel y cyhoeddodd Llywodraeth y DG.

Bydd teuluoedd cymwys yn derbyn llythyr gyda manylion y daleb yn uniongyrchol gan y Cyngor. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â 029 20537250 neu e-bostiwchPrydauysgolamddim@caerdydd.gov.uk

Gofal Plant Gweithwyr Allweddol

Bydd darpariaeth canolfannau gofal plant yn parhau drwy gydol cyfnod gwyliau ysgol y Pasg, gan gynnwys Gwener y Groglith a Llun y Pasg.

Gobeithir y bydd hyn yn cynorthwyo gyda'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd a grwpiau gweithwyr allweddol eraill yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ers i ddarpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol Caerdydd newid i system wedi'i seilio ar hybiau, mae 734 o blant wedi'u cofrestru.

Yn ogystal, mae 228 o blant cyn oed ysgol yn derbyn gofal gan ddarparwyr gofal plant preifat, gwirfoddol ac annibynnol ar draws y ddinas.

Mae'r ddarpariaeth yn dal i flaenoriaethu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn hosteli i'r digartref a gwaith Allgymorth) a'r gwasanaethau brys. Fodd bynnag, bydd y trefniadau nawr yn ceisio darparu ar gyfer categorïau ehangach o weithwyr allweddol hefyd, lle bo modd.

Er mwyn darparu ar gyfer y niferoedd ychwanegol ac er mwyn cynnal mesurau pellhau cymdeithasol, mae nifer yr hybiau hyn bellach wedi eu cynyddu i 19. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth gynradd, uwchradd ac arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Er mwyn sicrhau bod trosglwyddiad COVID-19 yn cael ei arafu neu ei atal, mae gweithwyr allweddol a theuluoedd dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael gwybod y dylid ond defnyddio'r ddarpariaeth ysgolion pan nad oes unrhyw fath arall o gymorth plant ar gael, a lle bo'n bosib, dylid gofalu am blant gartref.

Bydd gofyn i weithwyr allweddol yng nghategorïau Gweithwyr Allweddol eraill Llywodraeth Cymru, gadarnhau gyda'u cyflogwyr bod eu rôl benodol yn ‘hanfodol' i barhad busnes wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod pandemig COVID-19, er mwyn bod yn gymwys i gael darpariaeth yn seiliedig ar hybiau.

Neu ewch i'n gwefan yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/Pages/default.aspx

Mae'r hybiau ar agor rhwng 8am a 5pm ac maent yn darparu brecwast, cinio a byrbryd prynhawn i'r plant.   Mae trefniadau gofal plant cyn-ysgol yn ddarostyngedig i gytundebau gweithredu darparwyr cofrestredig unigol.

 

E-ddysgu

Mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu tîm penodol gan gynnwys Cydlynwyr TGCH i helpu ysgolion, drwy gynnig llu o ddeunyddiau digidol a chynlluniau ar-lein arloesol, fydd yn eu galluogi i barhau i gyflwyno'r cwricwlwm yn ystod y cyfnod y bydd ysgolion ar gau. 

Yn ystod y cyfnod rhwng 1 - 29 Mawrth 2020, cyfanswm nifer y mewngofnodion i'r platfform dysgu ar-lein Hwb ar draws ysgolion Caerdydd oedd 213,273 gan gynnwys 161,802 mewngofnodiad gan fyfyrwyr. Mae hyn yn ychwanegol at ysgolion sy'n defnyddio eu llwyfannau eu hunain.

 

Bydd cymorth yn parhau drwy'r Pasg i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer tymor yr haf, gyda'r nod o ddarparu addysg o safon uchel, drwy lu o sianeli digidol.