The essential journalist news source
Back
31.
March
2020.
10 newid allweddol yng ngwasanaethau Caerdydd mae angen i bob preswyliwr wybod amdanynt
Er mwyn ymateb i'r argyfwng COVID-19 presennol, a pharatoi at yr heriau sydd o'n blaenau, mae gwasanaethau Cyngor Caerdydd wedi mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio yn gyflym er mwyn sicrhau y parheir i ddarparu gwasanaethau hanfodol, er mwyn diogelu ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a chyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Dyma drosolwg ar y 10 prif newid yn y gwasanaethau y mae angen i bawb wybod amdanynt:

  1. Symudodd Caerdydd i drefn newydd wythnosol o gasglu gwastraff ymyl y ffordd a chaiff yr holl wastraff cartref (ac eithrio gwastraff gardd) ei gasglu ar yr un pryd.

Bydd y diwrnodau casglu ar gyfer eich ardal yn aros yr un fath, ond mae’r ffordd y caiff gwastraff ei drin yn newid i helpu i reoli effaith COVID-19 a sicrhau lles y trigolion a’r gweithlu.

Rhagor o wybodaeth yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23490.html

  1. Mae darpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol Caerdydd sy'n gwneud gwaith hanfodol yn ystod argyfwng COVID-19 wedi newid i system yn seiliedig ar hybiau.

Er mwyn lleihau'r siawns bod COVID-19 yn lledu drwy gymuned yr ysgol, a galluogi'r Cyngor i ganolbwyntio ar ei drefniadau glanhau, ymarfer diogel, ac ymbellhau cymdeithasol, mae 12 ysgol yn aros ar agor fel hybiau gofal plant, mae'r gweddill ar gau.

Dim ond ar ôl ystyried pob ffurf arall o gymorth plant y caiff y ddarpariaeth hon ei defnyddio. Os yw'n bosibl rhoi gofal diogel i blant gartref, yn y cartref y dylent fod.

Cewch fanylion yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23505.html

  1. Mae darpariaeth ychwanegol ar gyfer y digartref wedi'i sicrhau yng ngwesty OYO ar Clare Street yn ardal Glan-yr-afon, ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd a'r rhai sy'n byw mewn llety brys, lle bydd pobl yn cysgu mewn mannau a rennir ac nid yw’n bosibl hunan-ynysu.

Bydd y llety newydd hwn yn galluogi unrhyw unigolion sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol, neu sy'n dangos symptomau’r Coronafeirws COVID-19, i hunan-ynysu.

Mae gwesty OYO hefyd yn darparu tri phryd y dydd i breswylwyr, ac â chymorth ar gael ddydd a nos i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddiogel a bod cyngor a chymorth priodol ar gael bob amser. 

Cewch wybod mwy am ein darpariaeth ar gyfer y digartref ar hyn o bryd yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23460.html

  1. I helpu i arafu ac atal trosglwyddo'r feirws, dim ond pedwar Hyb craidd – Llaneirwg, Trelái, the Powerhouse (Llanedern), a Hyb y Llyfrgell Ganolog – sy'n parhau i fod ar agor.

Hyb y Llyfrgell Ganolog

Dydd Llun i Dydd Mercher, 9am - 6pm
Dydd Iau, 10am - 7pm
Dydd Gwener, 9am - 6pm
Dydd Sadwrn, 9am - 5.30pm

Llaneirwg

Dydd Llun i dydd Mawrth, 9am - 6pm
Dydd Mercher, 10am - 7pm
Dydd Iau i Dydd Gwener, 9am - 6pm

Trelái

Dydd Llun i Dydd Mercher, 9am - 6pm
Dydd Iau, 10am - 7pm
Dydd Gwener, 9am - 6pm

Y Pwerdy

Dydd Llun i Dydd Mercher, 9am - 6pm
Dydd Iau, 10am – 7pm

Dydd Gwener, 9am – 6pm

Dim ond drwy apwyntiad y ceir mynediad i'r Hybiau hyn nawr, oni bai eich bod yn casglu parseli banc bwyd neu'n codi bagiau ailgylchu gwyrdd.

5.     Mae bagiau bwyd ac ailgylchu ar gael o hyd, fodd bynnag, dim ond pedwar Hyb craidd sydd ar agor erbyn hyn, a gofynnwyd i nifer o'n stocwyr lleol hefyd gau. Rydym wedi nodi nifer o siopau bwyd lleol sy'n parhau i fod ar agor, ac rydym yn cadw stoc gyda’r rhain.

Gallwch weld pwy ydy eich cyflenwr agosaf drwy roi rhif eich tŷ a’ch cod post yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx neu ar App Cardiff Gov.

Os na allwch gael gafael ar rai, cyhoeddwch rywbeth yn eich cymuned i weld a oes gan unrhyw un rai sbâr. Cofiwch gadw pellter cymdeithasol os oes rhywun yn ateb, efallai codwch nhw o du allan ei eiddo.

Gall fod cyflenwad gan gynghorwyr lleol hefyd. Unwaith eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal pellter cymdeithasol os ydych yn casglu bagiau.

6.     Er mwyn sicrhau gwasanaeth i denantiaid y Cyngor sydd â'r angen mwyaf, dim ond gwaith atgyweirio brys fydd yn cael ei wneud, ac ni ddylai tenantiaid gysylltu â ni ynghylch atgyweiriad ond os yw'n argyfwng. 

Caiff apwyntiadau presennol ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys eu gohirio tan ar ôl 15 Mehefin. 

Dylai tenantiaid sy'n cael problemau gyda thaliadau rhent ar yr adeg anodd hon gysylltu i drafod.

7.     Mae preswylwyr Caerdydd yn cael eu hannog i gysylltu â'r Cyngor drwy'r wefan – www.caerdydd.gov.uk – os ydynt yn cael trafferth talu eu treth gyngor oherwydd bod pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar eu trefniadau gwaith.

8.     Mae llinell gymorth i wirfoddolwyr wedi'i sefydlu ar gyfer pobl sy'n profi anawsterau gyda bwyd a darpariaethau hanfodol eraill fel rhan o ymateb y ddinas i'r pandemig. 

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael, o siopa am fwyd i'r rhai na allant adael eu cartrefi eu hunain, i ddarparu parseli bwyd brys a hanfodion eraill i bobl sy'n cael trafferth ariannol.

Os oes angen cymorth arnoch ac ni all unrhyw un arall helpu, ffoniwch 029 2087 1071.

  1. Mae terfynau wedi'u cyflwyno ar nifer y bobl sy'n mynychu angladdau ac mae gwasanaethau priodasau wedi'u canslo.

Gall uchafswm o ddeg o aelodau teulu agos fynychu angladdau ac amlosgiadau.

Mae pob seremoni briodas yn awr wedi ei chanslo ac oherwydd ôl-groniad yn ystod y gwanwyn yn sgil COVID-19, ni fydd archebion newydd ar gyfer priodasau yn cael eu derbyn ar gyfer dyddiadau sydd cyn mis Medi. Ni chymerir unrhyw hysbysiadau newydd o briodas ar hyn o bryd.

Mae’r holl wybodaeth am deithio ar gael yma:  https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23462.html

10.  Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth gwerth £1.4 biliwn i fusnesau yng Nghymru er mwyn helpu i fynd i’r afael ag effaith economaidd y Coronafeirws.

Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethadwy o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad o 100% ar ardrethi annomestig ar gyfer 2020-21. Bydd hyn yn cael ei weinyddu’n awtomatig drwy Gynllun Ardrethi’r Cyngor a chaiff ei weithredu’n awtomatig.

Yn ogystal â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £850m ychwanegol ar gael drwy gynllun grant newydd i fusnesau.

Bydd hyn yn golygu y bydd pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn grant o £10,000.

Os ydych yn credu eich bod chi’n fusnes cymwys cliciwch yma i gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn derbyn grant o £25,000.