The essential journalist news source
Back
31.
March
2020.
COVID-19: Bron i £20 miliwn o grantiau wedi eu dosbarthu i fusnesau lleol yng Nghaerdydd

Mae £20 miliwn wedi'i ddosbarthu i fusnesau Caerdydd mewn cymorth grant gan Gyngor Caerdydd yn y pedwar diwrnod diwethaf fel rhan o becyn achub COVID-19.

Ymgeisiodd 1,300 o gwmnïau am y cymorth sy'n cael ei weinyddu gan y Cyngor yng Nghaerdydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'n dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf am becyn cymorth gwerth £1.4 biliwn ar gyfer busnesau yng Nghymru i'w helpu i oroesi yn ystod yr achos.

Ers y penwythnos, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cymorth pellach i gwmnïau yr effeithiwyd arnyn nhw. O heddiw ymlaen (dydd Llun, 30 Mawrth), gyda £500 miliwn ychwanegol yn cael ei ryddhau i helpu cwmnïau nad ydynt wedi manteisio ar y cynlluniau a gyhoeddwyd hyd yn hyn.

Caiff rhagor o wybodaeth ei rhyddhau am y cynllun grant newydd cyn gynted ag y bydd ar gael, ond mae Cyngor Caerdydd yn annog unrhyw fusnes sy'n gymwys i gael y grantiau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i gysylltu â'r Cyngor cyn gynted â phosibl.

Dyma'r busnesau sy'n gymwys am y grantiau hyn:

  • Bydd pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn grant o £10,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwchymai gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.
  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn derbyn grant o £25,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwchymai gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.

Mae'r cymorth ariannol a gynigir gan y grantiau hyn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad ardrethi annomestig a gyhoeddwyd ar gyfer 2020-21.

Mae'n sicrhau na fydd yn rhaid i'r holl fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai dalu eu hardrethi busnes am un flwyddyn.

Nid oes angen i fusnesau wneud cais am y cynllun rhyddhad ardrethi annomestig, gan y bydd hyn yn cael ei weinyddu'n awtomatig gan y Cyngor drwy Gynllun Ardrethi'r Cyngor.

Dan fesurau pellach a gyhoeddwyd heddiw, bydd Cronfa Banc Datblygu Cymru gwerth £100 miliwn ar gael i gwmnïau sy'n cael problemau llif arian. Bydd y banc newydd yn cynnig benthyciadau - yn seiliedig ar gyfradd llog ffafriol - rhwng £5,000 a £250,000 i gwmnïau sydd angen cymorth ariannol brys.

Cyhoeddwyd 'pot argyfwng' o £400 miliwn hefyd, sy'n caniatáu i fusnesau yr effeithiwyd arnyn nhw gan argyfwng COVID-19 gael gafael ar gronfeydd argyfwng yn seiliedig ar nifer y bobl y maent yn eu cyflogi.