Mae diweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd ar gyfer heddiw yn cynnwys y diweddaraf o ran y cymorth sy'n cael ei ddarparu i fusnesau, adran holi ac ateb wedi'i diweddaru ar y trefniadau newydd ar gyfer casglu gwastraff, a chyfyngiadau taliadau bathodynnau glas.
Bron i £20 miliwn o grantiau wedi eu dosbarthu i fusnesau lleol yng Nghaerdydd
Mae £20 miliwn wedi'i ddosbarthu i fusnesau Caerdydd mewn cymorth grant gan Gyngor Caerdydd yn y pedwar diwrnod diwethaf fel rhan o becyn achub COVID-19.
Ymgeisiodd 1,300 o gwmnïau am y cymorth sy'n cael ei weinyddu gan y Cyngor yng Nghaerdydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae'n dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf am becyn cymorth gwerth £1.4 biliwn ar gyfer busnesau yng Nghymru i'w helpu i oroesi yn ystod yr achos.
Ers y penwythnos, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cymorth pellach i gwmnïau yr effeithiwyd arnyn nhw. O heddiw ymlaen (dydd Llun, 30 Mawrth), gyda £500 miliwn ychwanegol yn cael ei ryddhau i helpu cwmnïau nad ydynt wedi manteisio ar y cynlluniau a gyhoeddwyd hyd yn hyn.
Caiff rhagor o wybodaeth ei rhyddhau am y cynllun grant newydd cyn gynted ag y bydd ar gael, ond mae Cyngor Caerdydd yn annog unrhyw fusnes sy'n gymwys i gael y grantiau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i gysylltu â'r Cyngor cyn gynted â phosibl.
Dyma'r busnesau sy'n gymwys am y grantiau hyn:
- Bydd pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn grant o £10,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwchymai gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.
- Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn derbyn grant o £25,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwchymai gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.
Mae'r cymorth ariannol a gynigir gan y grantiau hyn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad ardrethi annomestig a gyhoeddwyd ar gyfer 2020-21.
Mae'n sicrhau na fydd yn rhaid i'r holl fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai dalu eu hardrethi busnes am un flwyddyn.
Nid oes angen i fusnesau wneud cais am y cynllun rhyddhad ardrethi annomestig, gan y bydd hyn yn cael ei weinyddu'n awtomatig gan y Cyngor drwy Gynllun Ardrethi'r Cyngor.
Dan fesurau pellach a gyhoeddwyd heddiw, bydd Cronfa Banc Datblygu Cymru gwerth £100 miliwn ar gael i gwmnïau sy'n cael problemau llif arian. Bydd y banc newydd yn cynnig benthyciadau - yn seiliedig ar gyfradd llog ffafriol - rhwng £5,000 a £250,000 i gwmnïau sydd angen cymorth ariannol brys.
Cyhoeddwyd 'pot argyfwng' o £400 miliwn hefyd, sy'n caniatáu i fusnesau yr effeithiwyd arnyn nhw gan argyfwng COVID-19 gael gafael ar gronfeydd argyfwng yn seiliedig ar nifer y bobl y maent yn eu cyflogi.
Dyma'r grantiau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw:
- Mae grant gwerth £10,000 ar gael i fusnesau sy'n cyflogi hyd at 9 o bobl
- Mae grantiau hyd at £100,000 ar gael i gwmnïau sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl.
Bydd y cynllun newydd hwn hefyd yn rhoi cymorth i gwmnïau o Gymru sydd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd allweddol.
Newid i gasgliadau gwastraff wythnosol
Fel y cyhoeddwyd yn llawn yma, https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/c25/23490.html , o heddiw ymlaen, dydd Llun 30 Mawrth, symudodd Caerdydd i gasgliad newydd, wythnosol, wrth ymyl y ffordd, sy'n golygu y caiff pob gwastraff cartref (ac eithrio gwastraff gardd) ei gasglu ar yr un pryd.
Bydd y diwrnodau casglu ar gyfer eich ardal yn aros yr un fath, ond mae'r ffordd y caiff gwastraff ei drin yn newid i helpu i reoli effaith COVID-19 a sicrhau lles y trigolion a'r gweithlu.
Mae'n rhaid i'r holl drigolion sydd â biniau olwynion du roi eu gwastraff bwyd a'u gwastraff hylendid (cewynnau/gwastraff meddygol ac ati) yn y bin du i'w casglu. Peidiwch â defnyddio eich cadi bwyd. Bydd y casgliadau yn digwydd ar y diwrnod arferol ar gyfer eich ardal.
Mae'n rhaid i drigolion sy'n byw mewn ardaloedd, nad oes biniau olwynion du ynddynt, roi'r gwastraff hylendid (cewynnau/gwastraff meddygol ac ati) yn eu bagiau streipiau coch ar gyfer gwastraff cyffredinol. Dylai'r gwastraff bwyd mewn ardaloedd â bagiau barhau i gael ei roi yn eich cadi bwyd i atal anifeiliaid ac adar rhag gwasgaru gwastraff ar hyd y strydoedd.
Bydd casgliadau ailgylchu yn parhau yn ôl yr arfer a dylid rhoi bagiau ailgylchu allan yn wythnosol ar yr un pryd â'r gwastraff arall.
Mae'r adran holi ac ateb a gyhoeddwyd ar https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/ddydd Gwener, wedi cael ei diweddaru ymhellach.
Cliciwch yma i ddarllen yr adran holi ac ateb: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23517.html
Cyfyngiadau Ceisiadau Post a Thalu ar gyfer Trwyddedau Parcio a Bathodynnau Glas
Mae'n bosibl na fydd rhai taliadau neu geisiadau am drwyddedau parcio preswyl neu Fathodynnau Glas a wneir drwy'r post yn cael eu gweithredu i rai pobl oherwydd y cyfyngiadau presennol sydd ar waith ar gyfer teithio nad yw'n hanfodol. Bydd hyn yn golygu na fydd unrhyw sieciau neu Archebion Post a anfonir drwy'r post yn cael eu clirio nes i'r cyfyngiadau gael eu codi. Dylai cwsmeriaid sicrhau bod ganddynt ddigon o arian yn eu cyfrifon er mwyn sicrhau bod eu taliadau'n gallu clirio a hefyd sicrhau na fyddant mewn dyled o ganlyniad.
Os oes modd, gwnewch unrhyw gais am drwyddedau parcio preswyl neu Fathodynnau Glas gan ddefnyddio cyfleusterau ar-lein y Cyngor, mae'r rhain yn cael eu monitro a'u prosesu.
Ni ellir prosesu unrhyw geisiadau drwy'r post nes i'r cyfyngiadau cael eu codi. Os daeth eich trwydded neu'ch Bathodyn Glas i ben ym mis Mawrth, yna parhewch i ddefnyddio'ch trwydded neu'ch bathodyn a chyflwyno'ch cais ar-lein cyn gynted â phosibl.
Adnewyddu cais: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Trwyddedau-parcio/Adnewyddu-eich-trwydded/Pages/default.aspx
Bathodynnau glas:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Trefniadau-parcior-Bathodyn-Glas/Sut-i-wneud-cais/Pages/default.aspx