The essential journalist news source
Back
27.
March
2020.
Grym y gwirfoddolwyr yn helpu cymunedau mewn angen


 27/03/20

Mae trigolion Caerdydd wedi camu i'r bwlch ac ymateb yn ysgubol i gefnogi pobl mewn angen ar draws y ddinas.

 

Ers lansio cynllun gwirfoddoli newydd, Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd, dim ond saith diwrnod yn ôl, mae dros 900 o bobl wedi gwirfoddoli i roi o'u hamser a'u gwasanaeth i helpu eraill yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

 

Sefydlwyd Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd i harneisio'r don o ysbryd cymunedol sydd wedi llifo drwy'r ddinas yn ystod yr argyfwng ac i baru pobl sydd eisiau helpu â'r rhai sydd angen cymorth, mewn ffordd ddiogel a reolir yn briodol.

 

Yn yr amser byr iawn y mae'r cynllun wedi bod ar waith, mae mwy na 900 o wirfoddolwyr wedi cynnig helpu tra bod mwy na 200 o wiriadau wedi'u cynnal ar unigolion i sicrhau eu bod yn addas i helpu, ac mae 30 o wirfoddolwyr eisoes allan yn y gymuned yn cefnogi eraill.

 

Bydd hyd yn oed mwy o wirfoddolwyr 'ar lawr gwlad' yn fuan iawn gan fod timau'r hybiau'n gweithio'n galed i gysylltu â phobl sydd wedi mynegi diddordeb i gael gwybod sut maent am helpu ac i wneud gwiriadau sylfaenol.

 

Mae Llinell Gyngor yr Hybiau, sydd fel arfer yn derbyn tua 25 galwad y dydd, wedi bod yn derbyn mwy na 200 o alwadau'r dydd, a chafwyd 29,163 o ymweliadau â'r safle Gwirfoddoli Caerdydd ers lansio'r cynllun.

 

Mae'r Cyngor yn cefnogi Banc Bwyd Caerdydd, gyda pharseli brys yn cael eu dosbarthu o bedwar hyb - Hyb Llaneirwg, Hyb Trelái a Chaerau, y Pwerdy yn Llanedern a Hyb y Llyfrgell Ganolog. 

 

Dros yr wythnosau nesaf, bydd gwirfoddolwyr yn helpu i gyflawni gwaith y Cyngor i sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus, sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar bethau, yn cael bwyd a hanfodion eraill. Mae help i siopa am fwyd hefyd ar gael i'r rhai sydd ddim yn gallu gadael eu cartref eu hunain.

 

Ers yr wythnos ddiwethaf, mae 46 o barseli Banc Bwyd wedi'u casglu o hybiau ac mae 534 o barseli wedi'u dosbarthu i'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n hunan-ynysu ac sydd heb arian.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Cafwyd ymateb rhyfeddol i'r cynllun Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd ac rydym wedi cael ein trochi gan don o gymorth.

"

"Gall argyfwng ddod â'r gorau allan o lawer o bobl ac mae hynny'n sicr yn wir wrth i ni geisio dod at ein gilydd i sicrhau bod anghenion ein gilydd yn cael eu bodloni yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae'r ffigyrau'n dweud y cyfan - anhygoel, diolch o galon, Gaerdydd!

 

"Nid dim ond unigolion sydd wedi estyn allan. Mae busnesau bach a mawr wedi rhoi bwyd ac eitemau hanfodol i'r achos hefyd ac rydym yn hynod ddiolchgar. Rydym yn croesawu unrhyw roddion o fwyd ac eitemau hanfodol eraill i gefnogi'r mwyaf agored i niwed ar draws y ddinas - cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda."

 

Dylai busnesau sy'n gallu rhoi bwyd ac eitemau hanfodol gysylltu â 07970 241 918 neu e-bostioCyswlltCyflogwyr@caerdydd.gov.uk

 

Gall unrhyw un sydd am wirfoddoli ymweld â'r tudalennau Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd ar wefan Gwirfoddoli Caerdyddwww.gwirfoddolicaerdydd.co.uki gael gwybod am gyfleoedd gyda sefydliadau lleol, neu gall unrhyw un sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.