The essential journalist news source
Back
26.
March
2020.
COVID-19: Parcio am ddim i Weithwyr Allweddol mewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r cyngor

26/03/20

Ni fydd angen i Weithwyr Allweddol dalu mwyach i barcio eu cerbydau ar y stryd neu ym meysydd parcio'r Cyngor dan fesurau newydd a gyhoeddwyd heddiw er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn haint COVID-19.

Mae gweithwyr allweddol yn cyflawni swyddi hanfodol er mwyn sicrhau bod y gymdeithas yn gallu parhau i weithredu yn yr argyfwng parhaus.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol: "Mae'r rhain yn amseroedd digynsail. Mae ein gweithwyr allweddol yn gwneud gwaith rhagorol ac rydym eisiau gwneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi, gan wneud ein gorau hefyd i sicrhau ein bod yn arafu ac yn atal trosglwyddiad y feirws.

"Fe ddechreuon ni drwy gau maes parcio Parc y Mynydd Bychan i'r cyhoedd, i sicrhau mai dim ond staff y GIG allai ei ddefnyddio a bellach rydyn ni'n gwneud yr holl feysydd parcio talu ac arddangos a'r rhai sy'n eiddo i'r cyngor ar gael yn rhad ac am ddim i bob gweithiwr allweddol. Bydd hyn yn parhau drwy gydol y cyfyngiadau symud sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth y DG."

Meysydd parcio'r Cyngor sydd am ddim i weithwyr allweddol yw:

  • Meysydd parcio Treganna (sef meysydd Stryd Wellington, Heol Lecwydd; Severn Road; Grey Street a Harvey Street)
  • Maes Parcio Stryd Havannah
  • Maes Parcio'r Morglawdd
  • Maes Parcio Gerddi Sophia
  • Maes Parcio Heol y Gogledd
  • Maes Parcio Stablau'r Castell
  • Maes Parcio Stryd Fawr Llandaf
  • Maes Parcio Caeau Pontcanna
  • Maes Parcio Caeau Llandaf 
  • Maes Parcio Parc y Mynydd Bychan - staff y GIG yn unig.