The essential journalist news source
Back
25.
March
2020.
Diweddariad COVID-19: 25 Mawrth

Mae'r diweddariad heno yn cynnwys y diweddaraf ar addysg, gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol, Parcio am ddim i Weithwyr Allweddol mewn meysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor,help llaw i'r rhai sydd mewn angen, Treth Gyngor, paratoi cartrefi ar gyfer pobl digartref, Cartref Cŵn Caerdydd, a diweddariad ar waith priffyrdd a chyfleustodau. 

COVID-19: Cadw plant a phobl ifanc yn dysgu pan fo'r ysgolion ar gau.

Mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu tîm penodol i helpu ysgolion, drwy gynnig llu o ddeunyddiau digidol a chynlluniau ar-lein arloesol, fydd yn eu galluogi i barhau i gyflwyno'r cwricwlwm yn ystod y cyfnod y bydd ysgolion ar gau yn sgil COVID-19.

Hyd yma, mae'r gwasanaethau cymorth ar-lein i athrawon sydd wedi cael eu sefydlu yn cynnwys gwefan i athrawon gael mynediad at gyngor a chefnogaeth yn ymwneud â dysgu o bell a grŵp dosbarth Google a grŵp WhatsApp lle gall athrawon rannu gwybodaeth ac adnoddau gyda'i gilydd.

Mae tîm o gydlynwyr TGCh wedi'u recriwtio i helpu i gefnogi holl ysgolion Caerdydd gyda dysgu ar-lein drwy ystafell ddosbarth rithwir ac mae pob ysgol wedi sicrhau bod gwaith ar gael ar-lein i'w disgyblion a'u rhieni ei ddefnyddio, drwy lwyfan yr hwb yn bennaf.

Yn ogystal, mae gwasanaeth e-ddysgu Caerdydd, Addewid Caerdydd a'r gwasanaeth ieuenctid yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu llwyfan i bobl ifanc i barhau mewn cysylltiad a rhannu profiadau dysgu yn ystod y cyfnod y bydd yr ysgolion ar gau. 

Darpariaeth cyn-ysgol

Mae yna nifer o leliadau preifat, annibynnol a gwirfoddol sydd yn dal i weithredu ac sydd â llefydd ar gael i blant o oed cyn-ysgol. Dylai gweithwyr allweddol o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol neu'r gwasanaethau brys nad sydd ag unrhyw ddewis arall ar gyfer gofal plant gysylltu â Phorth y Teulu ar 03000 133 133 neuCyswlltFAS@caerdydd.gov.uk

Atgoffir rhieni neu ofalwyr sydd yn defnyddio'r ddarpariaeth i lynu wrth ymbellhau cymdeithasol wrth ollwng neu gasglu eu plant. Gofynnwn eich bod yn cadw pellter o ddwy fetr rhyngoch â'r staff ac aelodau eraill y cyhoedd. 

Parcio am ddim i Weithwyr Allweddol mewn meysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor

Ni fydd angen i Weithwyr Allweddol dalu mwyach i barcio eu cerbydau ar y stryd neu ym meysydd parcio'r Cyngor dan fesurau newydd a gyhoeddwyd heddiw er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn haint COVID-19. 

Mae gweithwyr allweddol yn cyflawni swyddi hanfodol er mwyn sicrhau bod y gymdeithas yn gallu parhau i weithredu yn yr argyfwng parhaus. 

Meysydd parcio'r Cyngor sydd am ddim i weithwyr allweddol yw:

  • Meysydd parcio Treganna (sef meysydd Stryd Wellington, Heol Lecwydd; Severn Road; Grey Street a Harvey Street)
  • Maes Parcio Stryd Havannah
  • Maes Parcio'r Morglawdd
  • Maes Parcio Gerddi Sophia
  • Maes Parcio Heol y Gogledd
  • Maes Parcio Stablau'r Castell
  • Maes Parcio Stryd Fawr Llandaf
  • Maes Parcio Caeau Pontcanna
  • Maes Parcio Caeau Llandaf 
  • Maes Parcio Parc y Mynydd Bychan - staff y GIG yn unig.

 

Help llaw i'r rhai sydd mewn angen

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael, o siopa am fwyd i'r rhai na allant adael eu cartrefi eu hunain, i ddarparu parseli bwyd brys a hanfodion eraill i bobl sy'n cael trafferth ariannol. Ymatebodd nifer fawr o wirfoddolwyr i alwad y Cyngor ar i gymunedau ddod ynghyd er mwyn helpu ei gilydd o dan y cynllun, Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd. Bydd y gwirfoddolwyr yma yn helpu i ddarparu'r cymorth hwn i breswylwyr. 

Ar gyfer pobl NAD sy'n ynysu eu hunain ond yn methu â fforddio nwyddau hanfodol 

Mae gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd y ddinas yn cefnogi'r Banc Bwyd, gan ddosbarthu parseli brys o bedair canolfan graidd yn y ddinas - Hyb Trelái a Chaerau, y Pwerdy yn Llanedern, Hyb Llaneirwg neu Hyb y Llyfrgell Ganolog. Pan fydd yr hybiau wedi cau ar gyfer mynediad cyffredinol i'r cyhoedd, gall preswylwyr gnocio ar ddrws yr Hyb a gall y staff helpu drwy roi parsel o fwyd a hanfodion.

I bobl sydd YN hunan-ynysu ac heb deulu na chymorth ganddynt

Dylai unrhyw un yn y sefyllfa hon sydd angen cymorth i brynu nwyddau ffonio'r llinell Gynghori ar 029 2087 1071 i gael ei rhoi mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr sy'n gallu helpu gyda siopa. Mae'r gwasanaeth hwn ond ar gael ar gyfer y rhai sydd heb neb arall ar gael i helpu. 

I'r rhai sydd am gynnig help

Mae cyfleoedd ar gael ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd ynwww.gwirfoddolicaerdydd.co.uk

Ers lansio Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yr wythnos diwethaf, mae'r Cyngor wedi cael ei synnu gan nifer y bobl sy'n cynnig eu gwasanaethau a'u hamser i helpu eraill. Bellach, mae gan y wefan fanylion nifer o sefydliadau sy'n chwilio am wirfoddolwyr y gall unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â nhw yn uniongyrchol. Mae llawer o grwpiau wedi'u sefydlu ar lefel cymdogaeth sy'n caniatáu i wirfoddolwyr allu helpu pobl sy'n byw gerllaw. 

Ar gyfer busnesau sydd awydd helpu 

Mae'r Cyngor yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw fusnesau a hoffai gefnogi'r ymdrechion i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn y ddinas, drwy gyfrannu bwyd neu eitemau hanfodol.  Ffoniwch ein llinell wirfoddoli ar 029 2087 1239 neu e-bostiwchgwirfoddoli@caerdydd.gov.uk. 

COVID-19: Annog trigolion i gysylltu â'r Cyngor os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor

Anogir trigolion Caerdydd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor i gysylltu â'r Cyngor drwy'r wefan -www.caerdydd.gov.uk- a defnyddio ffurflenni ar-lein i roi gwybod i'r awdurdod am unrhyw newid yn eu hamgylchiadau.

Mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu cyfyngiadau rhannol ar symud i geisio arafu ac atal lledaeniad COVID-19. Mae hyn wedi effeithio ar gyfleoedd gwaith nifer fawr o bobl, yn arbennig y rheiny sy'n hunan-gyflogedig neu'n gweithio ar gontractau dim oriau, ac mae rhai cwmnïau wedi gorfod diswyddo gweithwyr.

Yn ddiweddar, galwodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, ar Lywodraeth y DU i gyflwyno ateb cenedlaethol ar gyfer y rheiny sy'n ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23434.html

Mae'r Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid yng Nghyngor Caerdydd, nawr yn gofyn i drigolion sy'n ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor, oherwydd bod achosion o Covid-19 wedi effeithio ar eu trefniadau gwaith, gysylltu â'r cyngor i weld a all yr awdurdod fod o gymorth mewn unrhyw ffordd. 

Dywedodd y Cynghorydd Weaver: "Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn ofidus iawn a hoffwn iddyn nhw wybod y byddwn yn gwneud popeth y gallwn ni i helpu. Mae ein canolfan gyswllt yn hynod brysur ar hyn o bryd, yn derbyn nifer sylweddol o alwadau gyda gweithlu llai, felly, os yw'n bosib i chi wneud, a fyddech cystal â gwneud ymholiadau drwy ein gwefan. Gallwch gysylltu â thîm y dreth gyngor yn uniongyrchol drwytrethgyngor@caerdydd.gov.uk

"Os ydych ar incwm isel, neu os yw eich incwm wedi gostwng, efallai y bydd gennych hawl i gael gostyngiad y dreth gyngor a gall trigolion gael gwybod mwy am hyn ar ein gwefan. Gwnewch gais ar-lein drwyhttps://www.caerdydd.gov.uk/CYM/preswylydd/Budd-daliadau-a-Grantiau/Budd-dal-Tai/cais-fudd-dal-tai-neu-ostyngiad-treth-cyngor/Pages/default.aspxFel arall gall trigolion roi gwybod i ni am unrhyw newid drwy www.caerdydd.gov.uk/newidbudd-daliadau. " 

Cofrestriadau geni newydd

Bydd cofrestriadau geni newydd yn cael eu hatal o ddiwedd heddiw yn unol â chanllawiau ar gyfer y DU gyfan gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Mae hyn yn cael ei wneud i sicrhau nad yw babanod newydd-anedig yn cael eu hamlygu i'r risgiau presennol sy'n gysylltiedig â mynychu Swyddfeydd Cofrestrfa gyda'u teuluoedd.

Ni fydd ceisiadau am Fudd-dal Plant yn cael eu heffeithio. 

Os oes gennych apwyntiad, bydd ein Cofrestrwyr yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. 

Paratoi cartrefi ar gyfer pobl digartref

Ar hyn o bryd mae timau o weithwyr, gyda chefnogaeth LCB Construction a Mispace, yn gweithio'n galed ledled y ddinas i gael cartrefi cyngor gwag yn barod cyn gynted â phosibl i bobl sy'n profi digartrefedd symud i mewn. 

Er bod rhai preswylwyr a thenantiaid wedi mynegi pryderon am y gwaith hwn ar ol y mesurau a'r cyfyngiadau a ddaeth i fewn yn gynharach yr wythnos hon i helpu i atal Coronavirus rhag lledaenu, mae'r Cyngor eisiau sicrhau cymunedau bod y gwaith hwn yn hanfodol a'i fod yn cefnogi pobl mewn angen sylweddol ar y funud hon. 

DIWEDDARIAD COVID-19: Cartref Cŵn Caerdydd

Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn dal i dderbyn cŵn strae, ond nid yw'r safle ar agor ond i gerddwyr cŵn cofrestredig. Os dewiswch gerdded cŵn i ni, bydd hyn yn cyfrif fel eich cyfle dyddiol i gael ymarfer corff. Rhaid i slotiau amser gael eu trefnu ymlaen llaw drwy ffonio'r cartref, fel bod modd cadw at reolau ymneilltuo cymdeithasol. Byddwch yn cael cerdded y cŵn am hyd at awr.  

Diolch o galon i bawb sydd wedi cofrestru â'r Cartref Cŵn fel gofalwr maeth, mae gennym bellach ddigon o ofalwyr maeth i'n helpu i ofalu am gŵn Caerdydd yn ystod y sefyllfa barhaus â #COVID19. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ail-gartrefi ci'n barhaol, ewch i wefan y Cartref Cŵn am fanylion am yr holl gŵn sy'n aros i gael cartref newydd, a ffoniwch y tîm. Nid oes modd eich cyflwyno i gi ar hyn o bryd ond bydd y tîm yn cadw'ch manylion ac yn cysylltu pan fyddwn yn ail-gychwyn arni. 

Am ragor o wybodaeth ewch iwww.cardiffdogshome.co.uk 

Diweddariad ar waith priffyrdd a chyfleustodau

Ac eithrio'r gwaith hanfodol sy'n ofynnol ar draphont Southern Way, mae cynlluniau priffyrdd ac ailarwynebu'r Cyngor wedi'u hatal oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus. 

Mae'r cynlluniau canlynol wedi'u gohirio tan y rhoddir gwybod fel arall: 

  • Yr holl waith ailarwynebu ar y priffyrdd a throedffyrdd 
  • Yr holl waith a wneir gan Griffiths ar Western Avenue, Sloper Road a'r gwaith gwella yn Sblot a Ffordd Lamby (gwelliannau llifogydd arfordirol) 
  • Yr holl waith ffordd ar Llwyn-y-pia Road 
  • Cynlluniau Wales & West ar Merthyr Road, yr Eglwys Newydd; Tredelerch a Llanrhymni gan gynnwys Heol Casnewydd. 
  • Yr holl waith ar gyfer cynllun Plasdwr a gynhelir gan Griffiths ar Heol Llantrisant a Heol Isaf. 
  • Metro Bank, Ipswich Road 

Disgwylir i'r cynlluniau canlynol gael eu cadarnhau yn fuan:  

  • Gwaith sy'n cael ei wneud gan Calibre ar Heol Hir, Llanisien a Greenway Road a Rhyl Road, Tredelerch 
  • Gwaith rhagarweiniol gan Knights Brown yn y Sgwâr Canolog. 

Cau ffordd Southern Way:  

Southern Way, am allan, rhwng Rover Way a'r A48. Bydd gwyriad yn cael ei roi ar waith gydag arwyddion gan ddefnyddio Heol Casnewydd a chyffordd Heol Casnewydd/Southern Way.