The essential journalist news source
Back
24.
March
2020.
Y Cyngor yn cymryd awenau gwesty OYO i roi llety i rai sy'n cysgu ar y stryd

 24/03/20

Mae'r Cyngor yn cymryd meddiant ar lety yn y ddinas i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Mae'r Cyngor wedi cymryd meddiant arwestyOYO ar Stryd Clare yngNglan yr Afon, sef gwesty'r Wynford gynt, er mwyn sicrhau bod llety hunangynhwysol ar gael i rai sy'n cysgu allan yng Nghaerdydd.

Mae'r cynwysyddion llongau yn Nhrelái a Butetown agafoddeu haddasuar gyferteuluoedd digartref hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer pobl ddigartref sy'n dangos symptomau'r feirws  ac  angen hunan-ynysu arnynt.

Mae gan lety brys presennol y Cyngor ar gyfer y digartref nifero gynlluniau lle caiff unigolion eu cartrefu mewn gofod a rennir. Nid ywhyno gymorth i atal lledaeniad yCoronafeirws (COVID19)ac felly mae'r Cyngor yn chwilio am lefydd eraill yn hytrach na'r ddarpariaeth hon.

Mae'r Cyngor wedi bod yn trafod gyda nifer o berchnogion gwestyau i ddod o hyd i ddarpariaeth lety bosibl. Gwesty OYO yw'r ddarpariaeth gyntaf o'r fath i gael ei chymryd er mwyn sicrhau bod digon o lety addas yn ystod y pandemig. Mae sgyrsiau yn dal i fynd rhagddynt gyda pherchnogion gwestyau eraill yn y ddinas.

Mae'r llety OYO yn westy 41 gwely sydd â chyfleusterau ymolchi en-suite ym mhob ystafell, sy'n gwneud hunan-ynysu yn bosibl i'r rhai sydd ag angen y llety. Bydd staff cymorth ar gael ar y safle 24 awr y dydd er mwyn sicrhau bod y llety hwn yn ddiogel a bod cyngor a chymorth priodol ar gael.

Mae Tîm Allgymorth y Cyngor wedi bod yn gweithioâ'r rhai sy'n cysgu ar y stryd i'w cynghori am y feirws ac i'whannog i ddod i mewn i lety. Mae anghenion yr holl bobl ddigartref yn cael eu hasesu er mwyn sicrhau y gellir eu symud i'r llety mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Rwy'n falch ein bod wedi gallu sicrhau'r llety ychwanegol hwn i helpu'r rhai sy'n cysgu allan yng Nghaerdydd ar yr adeg anodd hwn"

"Drwy ddarparu llety argyfwng hunan-gynhwysol, rydym yn sicrhau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd ac sy'n dangos symptomau'r feirws yn gallu hunan-ynysu fel pawb arall sydd angen gwneud hynny.

"Rydym yn parhau i edrych ar adeiladau eraill y gallwn eu defnyddio dros dro i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae ein llety brys newydd yn y Parade, yng nghanol y ddinas bron wedi ei gwblhau, a chaiff ei ddefnyddio i helpu'r rhai sydd mewn angen yn ystod yr argyfwng hwn.

 

"Mae ein Tîm Allgymorth yn parhau i wneud gwaith rhagorol dan amodau anodd iawn ac rydym yn gofyn i bawb sy'n cysgu ar strydoedd Caerdydd i ddod mewni'r lletysydd ar gael iddyn nhw."