The essential journalist news source
Back
20.
March
2020.
Diweddariad Coronafeirws (COVID-19) - 20 Mawrth 2020

Mae'r diweddariad diweddaraf hwn yn ymdrin ag ysgolion, y porth gwirfoddoli, a chymorth i fusnesau.

 

Ysgolion

Bydd ysgolion yn cael eu hailbwrpasu o ddydd Llun. O ystyried y pwysau di-baid ar ofal iechyd, bydd y Cyngor yn y lle cyntaf yn canolbwyntio ar weithwyr allweddol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a'r gwasanaethau brys, y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim, a phlant sy'n agored i niwed. 

Mae llesiant plant sy'n agored i niwed yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a bydd y Cyngor yn sicrhau bod pob plentyn agored i niwed yn cael ei nodi a bod mesurau goruchwylio priodol yn cael eu darparu ar eu cyfer. Bydd rhagor o gymorth ar gael hefyd pe bai angen i unrhyw fater gael ei uwchgyfeirio. 

Ar gyfer y 12,000 o blant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim, a phlant gweithwyr allweddol mewn ysgolion, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y byddant yn cael prydau bob dydd yn ystod yr wythnos.  

Cyhoeddir diweddariadau pellach yn fuan ar https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/ a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor.

 

Y Porth Gwirfoddoli - Gyda'n Gilydd dros Caerdydd

Mae gwaith i ddiweddaru'r Porth Gwirfoddoli - Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd ar fin cael ei gwblhau. Bydd y safle newydd yn mynd yn fyw yn fuan, a chaiff hyn ei gyhoeddi ar https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/ ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

 

Cymorth i Fusnesau

Mae tîm datblygu economaidd y Cyngor yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, prifddinas-ranbarth Caerdydd a FOR Caerdydd, i sefydlu ymateb i'r argyfwng Coronafeirws. Ar hyn o bryd, mae cynlluniau cymorth busnes yn cael eu sefydlu gan Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru, a chynghorir busnesau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ymweld â gwefan Busnes Cymru.  

Yn y cyfamser, mae'r Cyngor yn gweithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i nodi pa gymorth pellach y tu allan i'r cynlluniau cenedlaethol y gellir ei sefydlu, wedi'i deilwra i anghenion lleol a rhanbarthol.