The essential journalist news source
Back
20.
March
2020.
COVID-19: Galw am gynllun yn y DG i helpu’r rheiny sy’n cael trafferth i dalu’r dreth gyngor

 

 

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi galw ar Lywodraeth y DG i roi datrysiad cenedlaethol ar waith i helpu unrhyw un sy'n cael trafferth i dalu'r dreth gyngor gan fod COVID-19 wedi effeithio ar eu gallu i wneud gwaith cyflogedig.

 

Wrth wneud yr addewid, datgelodd y Cynghorydd Thomas y bydd Cyngor Caerdydd yn atal troi allan denantiaid cyngor oherwydd ôl-ddyledion rhent am dri mis o leiaf, wrth i'r haint fynd rhagddo.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Rydyn ni'n gwybod y bydd pobl yn poeni ac yn ansicr am yr hyn sy'n digwydd ac rwy'n gwybod y bydd rhai ohonoch yn poeni am filiau'r dreth gyngor. Os ydych yn cael trafferth talu byddwn yn cydymdeimlo wrth gwrs, ond ceisiwch ddeall bod y dreth gyngor yn rhan bwysig o refeniw'r cyngor ac rydym yn delio â biliau cynyddol ac annisgwyl wrth i ni geisio delio â'r argyfwng. Felly, rwy'n galw am ymateb gan Lywodraeth y DG i roi datrysiad cenedlaethol ar waith i helpu'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd i dalu eu biliau treth gyngor. Mae pobl yn mynd i boeni am sut y byddant yn ymdopi â'r argyfwng o'n blaenau. Mae'n bwysig fod y Llywodraeth yno i'w helpu nhw'n ariannol drwy'r cyfnod anodd hwn.

 

"Rwyf hefyd am i chi wybod fy mod wedi gofyn i swyddogion beidio â throi tenantiaid cyngor allan o'u tai am ôl-ddyledion rhent a hynny am o leiaf dri mis, i geisio cymryd y baich a'r pryder hwnnw oddi ar ysgwyddau pobl.

 

"Fel arweinydd y cyngor, hoffwn roi sicrwydd i breswylwyr fod y cyngor yn bwriadu wynebu'r her hyd eithaf ei allu. Bydd hynny'n golygu dadflaenoriaethu rhai gweithgareddau er mwyn rhyddhau adnoddau i allu parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt.

 

"Gwasanaethau fel gofal cymdeithasol i'r henoed, casgliadau gwastraff a glanhau, cyfeirio cymorth i fusnesau wrth iddynt geisio goroesi'r argyfwng hwn, a'r timau allgymorth sy'n mynd allan i edrych ar ôl pobl ddigartref. Dyma rai o'r gwasanaethau yr ydym yn gweithio'n galed i'w cynnal.

 

Dywedodd y Cyng. Thomas bod yr argyfwng yn sefyllfa ddeinamig oedd yn newid bob dydd, sy'n rhoi pwysau cynyddol ar y gweithlu ym mhob rhan o'r Cyngor.

 

Ychwanegodd: "Mae'r ysgolion yn cau. I ymateb i hynny - ddydd Llun - bydd plant yng Nghaerdydd sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn dal yn gallu cael y prydau hynny - cinio - bob dydd yn barhaus.  Rydym yn rhoi hwb i'r gwasanaeth ieuenctid fel bod gweithgareddau i ddenu sylw pobl ifanc yn ein cymunedau, ac rydym yn ceisio rhoi darpariaeth gofal plant ar waith i blant gweithwyr allweddol megis staff y GIG.

 

"Mae'r rhain yn heriau enfawr y mae'n rhaid inni eu hwynebu ac fe wnawn ni hynny orau pan fyddwn yn eu hwynebu gyda'n gilydd.

 

"Mae llawer ohonoch eisoes yn awyddus i wirfoddoli eich gwasanaethau felly rydym yn mynd i addasu porth gwirfoddoli presennol y cyngor a'i ddefnyddio fel gwasanaeth broceru i baru pobl sydd angen help gyda'r bobl sy'n cynnig help. Rydyn ni'n mynd i ddod drwy hyn ac rydyn ni'n mynd i wneud llawer iawn o ddaioni gyda'n gilydd wrth wneud hynny. Felly gadewch i ni aros yn gryf, yn unedig a gadewch i ni edrych ar ôl ein gilydd."