The essential journalist news source
Back
17.
March
2020.
Datganiad gan Arweinydd Cyngor Caerdydd ar Coronafeirws (COVID-19) - 17/03/20

Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Rydym am sicrhau trigolion y byddwn ni, mewn cydweithrediad â'n partneriaid, yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau lles ein cymunedau. 

"Ar hyn o bryd mae gwasanaethau'r Cyngor yn aros ar agor. Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth ddoe, byddwn yn asesu'r sefyllfa ac yn gwneud cyhoeddiadau eraill manylach. 

"Canllawiau'r Llywodraeth yw y dylai ysgolion aros ar agor am y tro. Y neges i rieni yw y bydd ysgolion, fel mewn rhannau eraill yng Nghymru, yn agor yn ôl yr arfer ac y bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n barhaus. 

"Anogir trigolion a rhieni i ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol diwygiedig y Llywodraeth a dylai unrhyw un sy'n profi symptomau barhau i ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd i'w weld yma: https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/ 

"Rwyf am ddweud eto wrth drigolion Caerdydd ein bod wedi bod yn gweithio ar gynlluniau a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol ac amddiffyn y rhai agored i niwed a'r henoed, gan sicrhau bod y Cyngor yn parhau i wasanaethu a chefnogi'r ddinas yn ystod yr amseroedd anodd hyn."