The essential journalist news source
Back
21.
February
2020.
Cyngor teithio ar gyfer Cymru yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm Principality

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Ffrainc, i dorfa lawn, yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn 22 Chwefror.

Bydd y gic gyntaf am 4.45pm a bydd ffyrdd ar gau'n llwyr yng nghanol y ddinas o 1.15pm tan 7.45pm i ddiogelu'r cyhoedd.

Bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 1.45pm a chynghorir yr holl gefnogwyr i gyrraedd y stadiwm yn gynnar, er mwyn osgoi colli'r gic gyntaf.

Cynghorir y rhai fydd yn mynychu'r gêm i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir yn  principalitystadium.wales   cyn teithio i'r ddinas.

Cauffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas, am 1.15pm.

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Tudor Street (caniateir mynediad i drigolion a masnachwyr.)
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.

Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Dyma'r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Sylwch:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.

Trenau

Mae Network Rail yn cynghori pob cwsmer nad oes gwaith peirianyddol wedi'i gynllunio ar ddydd Sadwrn 22 Chwefror, ond bydd cyfyngiadau ar waith oherwydd y difrod a achoswyd gan storm Dennis.

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw yn  www.nationalrail.co.uk  neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Ar gyfer holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch i  www.tfwrail.cymru ar ddiwrnod eich taith i sicrhau bod eich gwasanaeth yn rhedeg neu dilynwch Trafnidiaeth Cymru ar twitter drwy @tfwrail.

Dydd Sadwrn, 22 ChwefrorBydd rheilffordd Aberdâr ar gau yn llwyr ar gyfer y digwyddiad a rhagwelir y bydd y llwybr hwn yn ail-agor i Aberpennar erbyn 5am ddydd Llun 24 Chwefror.

Mae gwaith atgyweirio yn parhau i gael ei wneud ar linell Glynebwy, yn ogystal â'r llinell rhwng y Fenni a Henffordd a disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn 5am ddydd Gwener Chwefror 21 (Glyn Ebwy) a 4am dydd Sadwrn Chwefror 22 (y Fenni i Henffordd).

Bydd holl lwybrau Rheilffordd y Cymoedd sy'n weddill sy'n dod i mewn i Gaerdydd yn weithredol ar gyfer y digwyddiad.

Dydd Sul 23 ChwefrorHysbysir y rhai sy'n bwriadu aros dros nos yng Nghaerdydd bod gwaith peirianyddol ar y gweill ar ddydd Sul 23 Chwefror.

Ddydd Sul, bydd bysiau yn lle trenau ar y llwybrau canlynol a fydd yn gadael o gefn yr orsaf reilffordd o'r maes parcio ar Heol Penarth.

  • Caerdydd Canolog i orllewin Cymru, sy'n cynnwys yr holl orsafoedd tuag at Ben-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chaerfyrddin.
  • Caerdydd Canolog i Faesteg
  • Pen-y-bont ar Ogwr a Llanilltud Fawr i'r Rhws (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd)

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd ar Ddydd Sadwrn 22 Chwefror. Cynghorir y sawl sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm adael digon o amser ar gyfer eu taith.

Bydd system rheoli torfeydd lawn ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd holl wasanaethau'r Cymoedd yn gadael o gefn yr orsaf ym maes parcio Heol Penarth. Bydd gan wasanaethau gapasiti ychwanegol lle y bo'n bosib.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £12 os byddwch yn archebu ymlaen llaw drwy'r ddolen hon:  cliciwch yma neu £15 ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig).

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Cost: £25 ar y dydd neu £25 os cadwch le o flaen llaw:  cliciwch yma 

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad yn Lecwydd

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw:  cliciwch yma 

Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle. Y man gollwng yw Fitzhamon Embankment.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os cadwch le ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig)

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 9.30am, gyda'r safle yn agor am 10am a'r bws cyntaf yn gadael am 10am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 8.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 9pm.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia(ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost - £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Hoffai Bws Caerdydd roi gwybod i gwsmeriaid y bydd gwasanaethau canol y ddinas yn mynd o leoliadau gwahanol o 1pm tan 8.30pm, ac eithrio Heol Eglwys Fair Isaf a fydd ar gau o 8.30pm ar gyfer yr economi nos.

Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:  https://www.cardiffbus.com/principality-stadium 

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcioi Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 1.15pm ac yn ailagor am 7.45pm.