The essential journalist news source
Back
19.
February
2020.
Gwasanaethau o ansawdd uchel yng nghalon y gymuned: Strategaeth Hybiau a Llyfrgelloedd 2019-2023

19/2/20

Datgelwyd cyfeiriad datblygu hybiau cymunedol a llyfrgelloedd yng Nghaerdydd, i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion cwsmeriaid dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Strategaeth Hybiau a Llyfrgelloedd 2019 - 2023, a fydd yn cael ei hystyried gan y Cabinet ar 20 Chwefror, yn nodi gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth a nifer o nodau ac ymrwymiadau allweddol i ddarparu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel yng nghalon y gymuned.

Gan ganolbwyntio'n gryf ar wasanaethau digidol a chynhwysiant, cefnogi plant a phobl ifanc, gwasanaethau cynghori a'r agenda iechyd a lles, un o nodau allweddol y strategaeth yw datblygu'r rhwydwaith o hybiau llwyddiannus yn barhaus i gynyddu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid a'r nifer sy'n manteisio ar y gwasanaethau hynny.

Mae gwaith eisoes ar y gweill i ymestyn y rhaglen hybiau i adeiladau llyfrgell cangen presennol yn y ddinas er mwyn gallu darparu gwasanaethau ychwanegol, gan ganolbwyntio ar les a chefnogi byw'n annibynnol. Mae gwaith ailfodelu yn cael ei wneud yn Llyfrgell Rhydypennau a Llyfrgell yr Eglwys newydd i'w galluogi i ailagor yr haf hwn, gan gynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau a gweithgareddau i gwsmeriaid.

Yn y cyfamser, i wella'r cymorth i blant a phobl ifanc, mae Pafiliwn Butetown yn cael ei ailwampio ar hyn o bryd i ddatblygu hyb ieuenctid cyntaf y ddinas.

Mae'r strategaeth yn disgrifio sut mae gwasanaethau llyfrgell yn cael eu hymgorffori yn y hyb, a sut mae Caerdydd yn perfformio'n dda yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, gan gael y sgôr uchaf yng Nghymru yn 2018/19 mewn pedwar dangosydd ansawdd gyda 91,000 o fenthycwyr gweithredol, 799,897 o ymweliadau rhithwir, 2,600,848 o ymweliadau a 214 o wirfoddolwyr.

Mae gwella'r cynnig digidol yn thema allweddol ym mhob rhan o'r strategaeth, nid yn unig o ran darparu adnoddau a gwasanaethau digidol ond hefyd drwy gefnogi cynhwysiant digidol ac ymestyn cymorth ar gyfer pob lefel o allu, gan gynnwys pobl ifanc sy'n chwilio am yrfa ym maes technoleg ddigidol.

Mae hefyd yr ymrwymiad i ehangu a gwella gwirfoddoli o fewn hybiau a llyfrgelloedd drwy adeiladu ar gyfleoedd a gynigir eisoes, i weithio gyda phartneriaid a grwpiau cymunedol lleol i gynnig digwyddiadau a gweithgareddau y tu allan i oriau agor craidd. Ni chaiff hyn ei ddefnyddio i ddisodli darpariaeth y Cyngor.

Mae'r strategaeth hefyd yn cydnabod bod gan rai ardaloedd yn y ddinas, fel Glan-yr-afon, lefelau sylweddol o amddifadedd ond nid oes ganddynt hyb cymunedol, felly cynigir adolygu'r ddarpariaeth yn y wardiau mwyaf difreintiedig sydd heb hyb i sicrhau y caiff anghenion lleol eu bodloni drwy alinio gwasanaethau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae hybiau a llyfrgelloedd eisoes yn gyfleusterau pwysig, sydd wrth galon eu cymunedau, gan ddarparu gwasanaethau cyngor a phartner o safon sy'n bodloni anghenion pobl leol.

"Gyda'r strategaeth newydd uchelgeisiol hon, rydym yn anelu at wella gwasanaethau ymhellach fyth dros y pum mlynedd nesaf drwy ddatblygu cymorth a darpariaeth ar gyfer ystod ehangach o gwsmeriaid, gan annog mwy o bobl i gael mynediad at wasanaethau gwell ac estynedig yn ein hybiau a llyfrgelloedd ffyniannus ar draws y ddinas."

Mae strategaeth 2019-2023 hefyd yn cynnwys polisi Casgliadau Llyfrgell drafft i lywio'r broses o brynu, cynnal, rhannu a gwaredu llyfrau llyfrgell ac adnoddau eraill.

Mae hyn yn amlinellu sut mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu casgliad cynhwysfawr a chyfredol o lyfrau ac adnoddau eraill a bwriad i ddarparu deunydd cyfeirio yn fwy ar-lein er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol.

Mae'r polisi drafft hefyd yn nodi cynigion i sicrhau bod casgliad etifeddiaeth Caerdydd o lawysgrifau a llyfrau hanesyddol yn cael eu storio a'u cadw'n briodol. Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy gadw rhannau o'r casgliad sydd ag arwyddocâd arbennig i Gaerdydd a rhannu rhannau eraill o'r casgliad gyda sefydliadau arbenigol, fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd, sydd mewn gwell sefyllfa i adfer a digideiddio'r adnoddau hyn. Ymgynghorir â rhanddeiliaid allweddol ar y polisi os cytunir arno gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf.