The essential journalist news source
Back
14.
February
2020.
Cyllideb Caerdydd yn hwb i ieuenctid, ysgolion a chenedlaethau'r dyfodol

14/02/20 

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig cyllideb a gynlluniwyd i ddiogelu a gwella cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, i helpu i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd a gosod prifddinas Cymru ar y llwybr i fod yn ddinas ddi-garbon. 

Er gwaethaf gorfod arbed bron i £10 miliwn, byddai'r cynigion yn gweld mwy o arian yn cael ei wario ar flaenoriaethu gwasanaethau allweddol ar gyfer dyfodol y ddinas gan gynnwys projectau ynni a thrafnidiaeth gwyrdd, ysgolion Caerdydd, gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion, a phlant sy'n derbyn gofal. 

Mae cynigion y gyllideb ar gyfer 2020/21 yn cynnwys:

  • Buddsoddiad o £333 miliwn mewn tai cymdeithasol gan gynnwys cartrefi cyngor newydd;
  • £248.4 miliwn i adeiladu ysgolion newydd o dan Raglen Band B Ysgolion yr 21ainGanrif;
  • Buddsoddiad o £78.4 miliwn i ddatblygu llwybrau beicio strategol, gwella'r seilwaith trafnidiaeth ac annog pobl i gerdded a beicio yn y ddinas;
  • Buddsoddiad o £46.4 miliwn yn yr ystad ysgolion bresennol;
  • Cymorth ychwanegol gwerth £10.4 miliwn ar gyfer ysgolion i dalu costau (cynnydd blynyddol o 4.3%);
  • Gwariant o £14.6 miliwn ar brojectau cynhyrchu ynni cynaliadwy;
  • £6.3 miliwn i fynd i'r afael â llifogydd ac erydu arfordirol;
  • Ymrwymiad o £3.2 miliwn i hybu ailgylchu a gwasanaethau cymdogaeth;
  • Cymorth ychwanegol gwerth £7 miliwn i Wasanaethau Plant a £4 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Oedolion;
  • Cymorth ychwanegol gwerth £500,000 ar gyfer Addewid Caerdydd a Dinasoedd sy'n Dda i  Blant;
  • Cyllid gwerth £500,000 ar gyfer darpariaeth ieuenctid;
  • Cymorth ychwanegol gwerth £200,000 i ddarparu cymorth mentora a thiwtora i blant sy'n derbyn gofal.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rydym am gyflwyno cyllideb sy'n diogelu cenedlaethau'r dyfodol, yn amddiffyn pobl ifanc a'r rhai sy'n agored i niwed, ac un sy'n nodi ein bwriad yn glir ar sut y gallwn ddechrau taclo'r argyfwng hinsawdd yma yng Nghaerdydd. 

"Mae Llywodraeth Cymru am i bob awdurdod lleol yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030.  Mae'n her rydym yn ei derbyn yn llwyr ac yn un yr ydym am i'r ddinas ei chymryd hefyd.  Rwy'n credu bod pawb yn sylweddoli bod yn rhaid i bethau newid ac mae'n bwysig fel Cyngor, ac fel prifddinas Cymru, ein bod yn cymryd rôl arweiniol.  Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyflwyno strategaeth Caerdydd Un Blaned a fydd yn nodi'r gwaith a wnaed gennym hyd yma mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd ac yn nodi gweledigaeth ar gyfer sut rydym yn sicrhau niwtraliaeth garbon erbyn 2030. Mae llawer i'w wneud ond mae gennym yr egni a'r ffocws i gyflawni'r agenda hwn ac i wneud y newidiadau y bydd eu hangen." 

Mae'r gyllideb hefyd wedi neilltuo £333 miliwn ar gyfer buddsoddi mewn tai cymdeithasol fforddiadwy, gan gynnwys cartrefi cyngor newydd. Mae'r Cyngor wedi addo adeiladu 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2022 ac mae ganddo gynlluniau i 1,000 arall i ddilyn ar ôl hynny, a bydd gwaithar ddatblygu tai yn y dyfodol a fydd yn darparu mwy na 200 o gartrefi carbon isel yn dechrau fis nesaf. 

Bydd y cynllun arloesol,y datblygiad mwyafym Mhartneriaeth Cartrefi Caerdydd rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential,yn darparu 214 o eiddo newydd - 65 o gartrefi cyngor - ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain oddi ar Heol Casnewydd. Byddant yn eiddo di-nwy gan dynnu gwres o bympiau gwres o'r ddaear, ynni o baneli ynni haul a bydd pob un â phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Disgwylir iddynt wneud gwelliant cyfartalog o 95% yn erbyn safonau perfformiad ynni cyfredol y rheoliadau adeiladau. Mae arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi dweud ei fod am weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru'r math hwn o ddatblygiad o 200 o gartrefi i 20,000. 

Mae cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn cynnwys cymorth i ysgolion, pobl ifanc a phobl agored i niwed. 

Bydd £248 miliwn yn cael ei wario dros y pum mlynedd nesaf ar adeiladu ysgolion newydd o dan Raglen Band B Ysgolion yr 21ainGanrif a bydd buddsoddiad pellach o £43.4 miliwn yn yr ystad ysgolion bresennol. 

Bydd Gwasanaethau Plant yn derbyn £7.1 miliwn yn ychwanegol i ddelio â'r galw cynyddol a bydd bron i £4 miliwn ar gael yn 2020/21 ar gyfer grantiau addasiadau i'r anabl er mwyn galluogi pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. 

Dywedodd y Cynghorydd Weaver:  "Fe wnaethom dderbyn setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ein galluogi i barhau i ddarparu'r gwasanaethau sydd o wir bwys i breswylwyr. Rydym hefyd wedi neilltuo arian ar gyfer strydoedd glanach (£1.4 miliwn) a gwelliannau i'n parciau (£0.5 miliwn). 

"Fodd bynnag, er gwaethaf yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i ni wneud arbedion o bron £10 miliwn. Mae'r £10 miliwn hwnnw'n cynrychioli'r arian y mae angen i ni ei gael i gadw ein gwasanaethau ar y lefel a ddisgwylir gan y preswylwyr, tra y gallwn ateb y galw cynyddol a ddaw yn sgil poblogaeth gynyddol sy'n heneiddio. Rydym wedi nodi gwerth bron £250 miliwn mewn arbedion yn ystod y 10 mlynedd diwethaf felly mae'n dod yn fwyfwy heriol i ddarganfod ffynonellau newydd ar gyfer yr arbedion newydd. Fodd bynnag, rydym wedi nodi arbedion effeithlonrwydd o dros £5 miliwn ond bydd yn rhaid i ni geisio cynyddu rhai o'r costau ar gyfer rhai gwasanaethau." 

Bydd y Cyngor yn dod o hyd i'r £10 miliwn sydd ei angen drwy:

Wneud arbedion effeithlonrwydd o £5 miliwn

Cynhyrchu incwm - £2.5 miliwn

Gwneud newidiadau i'r gwasanaethau a ddarperir - £2.5 miliwn 

Dywedodd y Cynghorydd Weaver:  Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, cafwyd cynnydd o 5% a 4.9% yn y dreth gyngor, ond rydym wedi llwyddo i ostwng hynny i 4.5% o gynnydd eleni. Bydd hyn yn golygu y bydd perchennog eiddo band D yn talu £1.05 yr wythnos yn ychwanegol.  Er ein bod yn gwybod bod hwnnw'n benderfyniad anodd, bydd hyn yn ein galluogi i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae ar ein trigolion eu heisiau, gan gynnwys cymdogaethau glanach, mynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd, tra'n diogelu cyllidebau ysgolion. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver, "Ar ben yr arian rydym yn ei ddarparu ar gyfer ysgolion newydd a gwelliannau i ysgolion hŷn, rydym hefyd yn cynyddu'r gyllideb ysgolion gan 4.3%, sef £10.4 miliwn yn fwy na'r llynedd. 

"Mae ysgolion Caerdydd nawr yn cyflawni rhai o'r canlyniadau gorau yn y wlad ac yn cymryd camau breision ymlaen. Rydyn ni'n benderfynol o roi pob cyfle i'n pobl ifanc a dyna pam ein bod ni hefyd yn rhyddhau £500,000 ar gyfer projectau ymrwymiad Caerdydd a dinasoedd sy'n ystyriol o blant, a £450,000 pellach ar gyfer darpariaeth ieuenctid sydd ei hangen yn fawr yn y ddinas.  Bydd plant sy'n derbyn gofal hefyd yn cael budd o £150,000 ychwanegol i ddarparu cymorth mentor a hyfforddiant. 

"Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i ysgolion wneud arbedion effeithlonrwydd o 0.5% neu tua £1.2 miliwn.  Credwn ei bod yn bwysig bod ysgolion yn edrych ar eu cyllidebau'n ofalus i sicrhau eu bod yn cael gwerth am arian ym mhopeth a wnânt a byddwn yn cydweithio'n agos â hwy i'w helpu i reoli eu cyllidebau mor effeithiol â phosibl." 

Cymerodd mwy na 2,000 o drigolion ran yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb a oedd yn ceisio barn ar bopeth o gyfundrefnau torri gwair i gynnydd ar gyfer prydau ysgol. 

Mae'r cynigion yn golygu y gallai costau rhai gwasanaethau godi, gan gynnwys:

  • Cynnydd o 10c ar brydau ysgol;
  • Cost claddedigaethau yn codi o £760 i £810;
  • Cost amlosgi yn codi o £640 i £700.  

Dywedodd y Cynghorydd Weaver:  "Yn wyneb y toriadau a'r galw cynyddol am wasanaethau, nid yw hon byth yn broses hawdd. Ond credwn ein bod wedi creu cyllideb sy'n ein gosod ar lwybr i ddechrau taclo'r Argyfwng Hinsawdd tra'n gosod agenda a fydd yn creu Caerdydd decach, un lle bydd gan bobl ifanc gyfle gwych i symud ymlaen. Mae'n diogelu'r gwasanaethau sydd o wir bwys i drigolion ac yn caniatáu i ni bwmpio arian y mae mawr ei angen i wasanaethau sydd wedi dioddef blynyddoedd o gyni. Mae'n ein galluogi i barhau i gyflawni ein hagenda Uchelgais Prifddinas i greu dinas o wir gydraddoldeb a chyfle, dinas sydd â mwy o swyddi gwell, dinas yr ydym yn benderfynol o'i gweld yn tyfu ac yn ffynnu." 

Bydd y cynigion nawr yn mynd ymlaen i'r Cyngor Llawn i'w cymeradwyo ddydd Iau, Chwefror 27.