The essential journalist news source
Back
4.
February
2020.
Llwyddiant Estyn i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant


 4/2/2020

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant ym Mhentwyn wedi cael 'da' ymhob un o'r pump maes a arolygwyd gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St Davids CIW\CF0221-16.jpg

 

Yn ystod ymweliad diweddar, canfu arolygwyr fod disgyblion yn 'gwneud cynnydd da wrth ddatblygu eu medrau wrth iddynt symud drwy'r ysgol a'u bod yn ymddwyn yn dda iawn, yn gwrtais, yn ofalgar ac yn barchus tuag at ei gilydd ac at oedolion.'

 

Mae'r adroddiad yn nodi'n arbennig bod gan blant 'agweddau cadarnhaol at ddysgu' a bod 'addysgu yn effeithiol, bod gwersi'n ysgogol a bod disgyblion yn ymroi'n dda i dasgau.'

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St Davids CIW\cf0221-94 (1).jpg

 

Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod 'y rhan fwyaf o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn cyflawni'n dda a bod bron pob disgybl yn rhoi sylw i'w hathrawon a'u bod yn awyddus i wneud yn dda gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn datblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol i safon uchel. 

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St Davids CIW\cf0221-67 (1).jpg

 

Tynnodd yr ymweliad sylw at y weledigaeth glir a'r arweinyddiaeth gref a hyrwyddwyd gan y Pennaeth a'r gefnogaeth werthfawr gan uwch arweinwyr a chorff llywodraethu'r ysgol.  

 

 

Wrth ystyried y llwyddiant, dwedodd y Pennaeth Mrs Claire Cook: "Mae Ysgol Dewi Sant yn lle arbennig iawn lle mae plant a staff yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hyn o ganlyniad i dîm cryf iawn sy'n darparu addysg feithrin a heriol, tra ar yr un pryd yn darparu profiadau dysgu sy'n hyrwyddo ethos Cristnogol ein hysgol.

 

"Mae'r staff a'r Corff Llywodraethu yn fodlon iawn ar ein hadroddiad arolygu sy'n cydnabod gwerthoedd y plant a'u brwdfrydedd tuag at eu dysgu.  Hoffwn gydnabod yn gyhoeddus ymroddiad ein staff, llywodraethwyr, rhieni a phartneriaid. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb am gyfoethogi bywydau ein disgyblion ac wrth wneud hynny, cryfhau'r gymuned ehangach.

 

"Rwyf wrth fy modd gyda chanfyddiadau'r arolwg diweddaraf, fodd bynnag nid wyf yn hunanfodlon a'r her yn awr yw parhau i ymdrechu tuag at ragoriaeth. Rwyf am i bob plentyn sy'n ymuno â Dewi Sant gyflawni ei orau. Mae staff yn ein hysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn addysgu a dysgu o'r ansawdd uchaf ac mae'r profiadau dysgu a ddarperir yn paratoi ein plant ar gyfer byd sy'n newid yn barhaus. "

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\St Davids CIW\cf0221-83 (1).jpg

 

Ychwanegodd Cadeirydd y Llywodraethwyr;Lee Davies;"Mae'r Corff Llywodraethu yn falch iawn o'r cynnydd a wnaed dros y 18 mis diwethaf. Hoffem ddiolch i'r staff am eu gwaith caled parhaus a'u hymroddiad wrth wella ein hysgol. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i waith caled ac ymroddiad Mrs Cook, y Pennaeth, sydd, gyda'i gweledigaeth gref, ei chadernid a'i hymroddiad, wedi helpu i lywio ein hysgol er mwyn galluogi ein plant a'n staff i wireddu eu potensial. "

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae hwn yn ganlyniad gwych i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant ac mae'n dangos y gwelliannau rhagorol sydd wedi cael eu gwneud yn yr ysgol mewn cyfnod byr.

 

"Mae hyn wedi dibynnu ar waith caled, brwdfrydedd ac ymroddiad y Pennaeth, y staff a'r llywodraethwyr a hoffwn eu llongyfarch i gyd ar y llwyddiant hwn."