The essential journalist news source
Back
24.
January
2020.
£2,424 o ocsid nitraidd yn cael ei dynnu oddi ar strydoedd Caerdydd

Ddoe, llwyddwyd i dynnu 2424 o gapsiwlau o ocsid nitraidd oddi ar strydoedd Caerdydd yn sgil gorchymyn fforffediad llwyddiannus a gyflwynwyd gan Lys Ynadon Caerdydd.

Dyw ocsid nitraidd - sy'n aml yn cael ei alw'n nwy chwerthin - ond yn gyfreithlon cyn belled ag y cydsynnir ag amodau cyfreithiol o'i ddefnyddio i liniaru poen neu pan y defnyddir y nwy yn y diwydiant arlwyo i awyru hufen i wneud ewyn.

Dywedodd y Cynghorydd Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd yng Nghyngor Caerdydd: "Yn anffodus, mae'r caniau ocsid nitraidd, sydd fel arfer yn cael eu gwerthu am £1 yr un, yn cael eu camddefnyddio gan bobl sy'n anadlu'r nwy - yn aml gan ddefnyddio balŵn - i deimlo dan ddylanwad y cyffur ac yna, teflir y caniau arian hyn ymaith fel sbwriel mewn parciau, mannau agored a strydoedd ar draws y brifddinas.

Ddoe, aeth Mufeed Mohammed Ali, 33 oed, o Coed Cae Street, Grangetown, Caerdydd i Lys Ynadon Caerdydd gan gytuno y dylid dinistrio'r caniau a'r offer a ddefnyddir i anadlu'r nwy.

O'i gyfweld, cyn y gwrandawiad llys, eglurodd Mr Ali i swyddogion y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir y deuwyd o hyd i'r caniau o ocsid nitraidd yn stordy ei siop yn Clifon Street, eiddo a brynodd yn ddiweddar.

Heb unrhyw dystiolaeth i'r gwrthwyneb, derbyniodd y Cyngor sylwadau Mr Ali felly ni ddyfarnwyd Mr Ali yn euog o unrhyw drosedd.

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Pan wnaeth y swyddogion o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i'r siop ym mis Gorffennaf 2019, aethpwyd a'r caniau hyn ymaith o dan y Rheoliadau Nwyddau Cyffredinol a Diogelwch. Mae gennym y pwerau i wneud hyn, felly, os oes gan unrhyw un wybodaeth am unrhyw siop yng Nghaerdydd sy'n gwerthu'r mathau hyn o nwyddau, cysylltwch â ni a byddwn yn ymchwilio ymhellach i unrhyw wybodaeth a ddaw i law.

"Hefyd, hoffwn atgoffa unrhyw berchennog siop sy'n gwerthu eitemau anghyfreithiol bod gennym dîm safonau masnach gweithgar iawn sy'n ymchwilio'n drwyadl i unrhyw wybodaeth a geir. Os bydd digon o dystiolaeth, rydym bob amser yn cyflwyno'r achosion hyn gerbron y llys er mwyn gallu ymwared â nwyddau peryglus oddi ar y strydoedd gyda'r golwg o erlyn y rheini sy'n gyfrifol."