The essential journalist news source
Back
21.
January
2020.
Cynnig i aildrefnu ysgol gynradd yng ngogledd-ddwyrain Caerdydd

21/1/2020

 

Bydd Cabinet y Cyngor yn cwrdd Ddydd Iau 23 Ionawr 2020 er mwyn ystyried cynigion gan Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg i adleoli ac i ehangu'r ysgol, ar safle newydd ar ddatblygiad newydd St Edeyrn.

Ym mis Mawrth 2019, cytunodd y Cabinet ar argymhelliad i ddwyn cynigion ymlaen i ail fantoli'r ddarpariaeth gynradd yn rhannau o ogledd-ddwyrain Caerdydd. Roedd hyn oherwydd fod gormod o leoedd ysgol ar gael yn ardal Llanrhymni a'r angen i gael mwy o leoedd ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau ar ôl cwblhau datblygiad tai St Edeyrn.

Fel rhan o ddatrysiad strategol, cytunodd y Cabinet i archwilio cynlluniau i adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg o'i safle bresennol yn Llanrhymni. Cynhaliodd Corff Llywodraethu'r ysgol ymgynghoriad cyhoeddus ac yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2019, cytunodd i fwrw ymlaen â'r cynigion canlynol;

  • I drosglwyddo'r ysgol o Dunster Road, Llanrhymni i safle adeilad newydd ar ddatblygiad tai newydd St Edeyrn.
  • I gynyddu capasiti'r ysgol o 105 lle i 210 lle.
  • I ymestyn ystod oedran yr ysgol o 4-11 oed, i 3-11 oed gan greu meithrinfa yn yr ysgol i alluogi cynnig 48 lle rhan amser.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Os aiff y cynlluniau rhagddynt, gallai adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg gynnig cyfle i'r disgyblion presennol fanteisio ar gyfleusterau modern, rhagorol yn ogystal â sicrhau ein bod yn diwallu'r cynnydd disgwyliedig am lefydd ysgol gynradd ym mhentref Llaneirwg.

"Byddai hyn hefyd yn help i fynd i'r afael a phroblem gormod o lefydd yn Llanrhymni, sydd wedi gosod straen sylweddol ar gyllidebau ysgol yn yr ardal.

"Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg wedi dangos yn gyson y gallu i gynnig addysg o safon uchel, ac mae wedi'i chydnabod gan ESTYN oherwydd safon yr addysgu a'r arweinyddiaeth. Os aiff y cynigion yn eu blaen, gallent gynrychioli cyfnod newydd cyffrous i'r ysgol, gan gynnig amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf am genedlaethau i ddod.

Byddai'r ysgol yn cael ei hadeiladu gan ddatblygwr St Edeyrn, yn rhan o'r cytundeb cynllunio â'r Cyngor, a'i hariannu drwy gyfraniadau Adran 106.

Os bydd cytundeb, byddai'r newidiadau yn cael eu gweithredu o fis Medi 2021, yn amodol ar gynllunio a chaffael.

 Mae copi llawn o'r adroddiadau ar gael i'w gweld ar-lein arwww.cardiff.gov/meetings