The essential journalist news source
Back
17.
January
2020.
Gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau gofal yn y cartref

17.1.20

Caiff gweledigaeth newydd ar gyfer darparu gofal yn y cartref i oedolion a phlant yng Nghaerdydd ei hystyried gan y Cabinet yr wythnos nesaf.

 

Bydd y Cabinet yn trafod dull newydd arfaethedig o gomisiynu trefniadau ar gyfer gofal cartref a chymorth sesiynol yn y ddinas i sicrhau bod pobl sydd ag anghenion gofal yn cael eu cefnogi i fyw mor annibynnol â phosibl, cyhyd ag sy'n bosibl, yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Mae Caerdydd wedi ymgymryd â nifer o wahanol ddulliau o sicrhau gofal cartref dros y 14 o flynyddoedd diwethaf ac wedi dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda, bydd y dull newydd o gomisiynu gofal yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth mwy hyblyg, sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth a'u gofalwyr.

 

"Mae'r dull lleol yn y model newydd yn seiliedig ar fanteision gwasanaethau gofal yn y cartref a gweithio'n agos gyda gwasanaethau atal, timau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol, hybiau cymunedol a chlystyrau gofal sylfaenol mewn ffordd gydlynol er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau i bobl."

 

Bydd gweledigaeth newydd Caerdydd ar gyfer gofal yn y cartref, a'r gwasanaethau a gaiff eu comisiynu'n unol â'r weledigaeth honno, yn cefnogi pobl i fyw'r bywydau y dymunant eu byw gyda gofal a chymorth hyblyg sy'n adlewyrchu eu hanghenion.  Bydd gwasanaethau arbennig ym mhob rhan o'r ddinas i bobl sydd â dementia, anableddau dysgu yn ogystal ag ystod o wasanaethau newydd i blant a theuluoedd a gwasanaethau lleol.

 

 

Mae'r model wedi'i greu ar y cyd gyda darparwyr a phobl sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd ac mae'n adlewyrchu'r chwe ardal leol yn y ddinas sy'n ddrych i'r clystyrau gofal sylfaenol - Gorllewin Caerdydd, De-orllewin Caerdydd, Canol y Ddinas a De Caerdydd, De-ddwyrain Caerdydd, Dwyrain Caerdydd a Gogledd Caerdydd. Bydd darparwyr sydd am ddarparu gwasanaethau yng Nghaerdydd yn cydweithio mewn rhwydweithiau gofal cartref a reolir a fydd yn cyd-fynd â gwasanaethau mewnol y Cyngor.

 

 

Mae'r dull yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni ymrwymiadau Uchelgais Prifddinas y Cyngor i gefnogi unigolion i fyw bywydau annibynnol a boddhaol yn eu cymunedau. Mae hefyd yn cael ei arwain gan ‘Cymru Iachach; ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' Llywodraeth Cymru, sy'n gosod uchelgais ger bron ar gyfer gwasanaethau llesiant, iechyd a gofal cymdeithasol unedig wedi'u dylunio a'u darparu ar sail anghenion a hoffterau unigolion.

 

Bydd y Cabinet yn ystyried yr weledigaeth newydd ddydd Iau 23 Ionawr ac argymhellir ei fod yn awdurdodi ailgomisiynu gwasanaethau gofal cartref i sicrhau bod contractau ar waith erbyn mis Tachwedd eleni.

 

Disgwylir y caiff y model newydd ei gyflwyno yn raddol fesul cam dros dwy flynedd.  I sicrhau bod pobl yn parhau i dderbyn gofal, ni fydd eu darparwyr yn newid oni bai y bydd hynny er eu lles nhw.