The essential journalist news source
Back
15.
January
2020.
Asiant yn cael ei erlyn wedi i archwiliad ddatgelu diffygion

 

Mae asiant gosod tai o Gaerdydd a fethodd â darparu gwybodaeth i Rentu Doeth Cymru ynghylch ei fusnes wedi cael ei ddirwyo gan Lys Ynadon Caerdydd.

 

Cafwyd Robert Bistula o 123-125 City Road, sy'n gweithredu fel Easy Rent, yn euog o fethuâdarparu gwybodaeth yn ôl cais Rhentu Doeth Cymru, yn groes i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Cymrwyd camau gorfodi yn dilyn archwiliad arferol asiantwyr o Easy Rent a ddatgelodd bod angen cymryd camau ar frys er mwyn cydymffurfio ag amodau trwydded yr asiant. Gofynnodd Rhentu Doeth Cymru am wybodaeth a thystiolaeth o Ddiogelu Arian Cleient ar gyfer eiddo y mae'n eu rheoli yn y ddinas.

 

Cynhelir archwiliadau asiantwyr er mwyn sicrhau bod asiantwyr trwyddedig masnachol yn cyflawni gweithgareddau gosod a rheoli eiddo ac yn diwallu amodau eu trwydded.  Mae'n rhaid sicrhau eu bod yn glynu wrth God Ymarfer Rhentu Doeth Cymru ac yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol. Mae unrhyw asiant sy'n perthyn i'r categori hwn yn cael ei archwilio o fewn cyfnod o bum mlynedd o gael ei drwydded; un o amodau'r drwydded yw ei fod yn cydymffurfio â'r cais hwn am archwiliad.

 

Mae'r proses yn golygu rhoi cyfradd yn dilyn cwblhau archwiliad, sy'n amrywio o weithredu ar frys i gyfradd arferion da.Yna, cyflwynir argymhellion ar gyfer gwella, beth bynnag bo lefel cyfradd yr asiant.

 

Methodd Mr Bistula â darparu unrhyw wybodaeth y gofynnwyd amdani ac yn dilyn gohirio'r achos sawl gwaith, llwyddodd Rhentu Doeth Cymru i'w erlyn yn Llys Ynadon Caerdydd.Cafodd ddirwy o £2,000, ynghyd â chostau o £2,400 a chost i'r dioddefwr o £170.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr unig awdurdod trwyddedu dros Rentu Doeth Cymru:"Mae archwilio asiantwyr yn offeryn pwysig i Rentu Doeth Cymru er mwyn sicrhau bod asiantwyr gosod eiddo masnachol yn cydymffurfio gydag amodau eu trwydded a'r Cod Ymarfer.Eu bwriad yw sicrhau bod asiantwyr yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel a phroffesiynol ac yn diwallu pob un o'u rhwymedigaethau cyfreithiol.  Wrth wneud hynny, maen nhw'n diogelu buddiannau'r tenantiaid a'r landlordiaid ac yn cyfrannu at welliant parhaus o ddiwylliant sector rhentu i denantiaid preifat yng Nghymru. 

 

"Fel y mae'r achos hwn yn Llys Ynadon Caerdydd yn dangos, mae sylw yn cael ei roi i asiantwyr sy'n methu â chydymffurfio â'r amodau o ganlyniad i archwiliad.Gall methu ag ymgysylltu â'r broses archwilio arwain at golli'r drwydded.  Felly, mae'n hanfodol bod asiantwyr yn sicrhau bod eu sefyllfa mewn trefn o ran eu harferion busnes a chydymffurfiant â Rhentu Doeth Cymru."