The essential journalist news source
Back
16.
December
2019.
Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn cyfarfod am y tro cyntaf
16/12/19



Cyfarfu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd am y tro cyntaf heddiw.

Ddydd Llun, 16 Rhagfyr yn Neuadd y Ddinas cyfarfu 22 aelod y bwrdd, sydd â'r gwaith o fod ynbencampwyr dros fywyd cerddorol y ddinas. Eu gwaith yw gwarchod a hybu cerddoriaeth o'r amaturiaid i'r cerddorion proffesiynol, a datblygu Strategaeth Gerddorol i Gaerdydd.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae hon yn foment arwyddocaol yn hanes diwylliannol Cymru, lle bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant a'r llywodraeth yn dechrau'r gwaith o wireddu'r uchelgais o droi Caerdydd, prifddinas Cymru yn Ddinas Gerddoriaeth Ryngwladol, yn cwmpasu pob arddull, o bob safon, ac i bob person sy'n byw yn y ddinas gyfan.  

"Rydym yn uchelgeisiol dros ddyfodol cerddoriaeth yng Nghaerdydd.  Mae'r sector gerddoriaeth eisoes yn gwneud llawer dros y ddinas, yn ddiwylliannol ac yn economaidd, ond rydym am wneud y mwyaf o'r gwerth hwnnw ac am harneisio grym cerddoriaeth er lles y ddinas a'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddi ac yn ymweld â hi.

"Bydd y Bwrdd Cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hynny. Roedd yr adroddiad ‘Sound Diplomacy' a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cynnig amlinelliad o'r ffordd y gall Caerdydd chwarae rhan flaenllaw yn y mudiad Dinasoedd Cerdd byd-eang, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r bwrdd am y tro cyntaf, a chlywed eu barn ar sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i yrru'r cynlluniau yma ymlaen. 

Dewiswyd aelodau'r bwrdd i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithasol Caerdydd, ac mae'n cynnwysun o DJs radio mwyaf blaenllaw Cymru, prif leisydd band byw ffrwydrol, cyfarwyddwr elusen cerddoriaeth gymunedol flaenllaw, ac un o'r tîm y tu ôl i gyflwyno polisi Cyfrwng Newid yng Nghymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Sector greadigol Caerdydd yw un o'i chryfderau - mae eisoes yn creu dros £1 biliwn o werth i'r economi ac mae twf sector cerddoriaeth fyw y DU yn golygu bod gwir gyfle yma i Gaerdydd - a chyda'r sgiliau a'r profiad amrywiol sydd gennym ar y bwrdd, rydym mewn lle da i fanteisio arni.

"Roedd cyflwyno Bwrdd Cerddoriaeth yn un o brif argymhellion yr adroddiad Sound Diplomacy, ac mae dau argymhelliad arall, sef creu digwyddiad cerddorol o fri a chyflwyno parthau i gerddorion lwytho a dad-lwytho offer, ar yr agenda yn y cyfarfod cyntaf. 

"Mae llawer o waith i'w wneud, ond mae'r cyfarfod cychwynnol hwn o'r bwrdd yn nodi carreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i ymgorffori cerddoriaeth ym mhob agwedd o strwythurau dinesig Caerdydd, o gynllunio i drwyddedu, llesiant cymdeithasol a thwristiaeth."


Llun gan: Peter Evans