The essential journalist news source
Back
16.
December
2019.
Gallai Arena Dan Do gael ei chodi a’i rhoi ar waith erbyn Haf 2023

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi caniatáu i'r Cyngor brynu safle hamdden Red Dragon ym Mae Caerdydd er mwyn galluogi bwrw cynlluniau yn eu blaen ar gyfer arena dan do newydd gyda lle i 15,000 o bobl.

Bydd cael rheolaeth dros y safle'n darparu'r holl dir mae ei angen ar y Cyngor i adeiladu'r cyfleuster newydd a gallai'r arena gael ei chwblhau erbyn haf 2023.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Bydd creu'r ddêl yma ar gyfer tir yn ein galluogi i roi sicrwydd pendant i'r datblygwyr sydd am adeiladu a gweithredu'r arena newydd bod y safle ar gael ac yn barod i gael ei ddatblygu.

"Mae'r broses dendro i ddod o hyd i'r consortiwm newydd i godi a gweithredu'r arena dan do newydd ar waith a derbyniodd y cyngor y ‘datrysiadau amlinellol' gan y ddau gynigydd sydd ar ôl yn y broses ddechrau mis Rhagfyr.

"Yn y cam nesaf, bydd y cynigwyr yn cyflwyno eu ‘datrysiadau manwl'. sydd â chost dylunio a dichonolrwydd sylweddol i'r ddau gynigydd.  Mae'n hanfodol felly bod y Cyngor yn gallu rhoi sicrwydd i'r ddau gynigydd sy'n weddill bod y safle mae ei angen ar gyfer yr arena newydd wedi ei sicrhau."

Mae'r safle ar gyfer yr arena newydd a datblygiadau cysylltiedig yn rhyw 25 erw ac mae'n cynnwys safle 13 erw Canolfan Red Dragon a safle 12 erw Neuadd y Sir.  Mae Penawdau'r Telerau wedi eu cytuno gyda'r perchnogion presennol ac mae disgwyl y bydd y ddêl yn cael ei chwblhau ym mis Ionawr 2020.

Nod y Cyngor yw cwblhau'r broses gaffael i apwyntio partner datblygu a gweithredwr ar gyfer yr arena newydd erbyn Ebrill 2020, gyda'r bwriad bod cais cynllunio manwl yn cael ei gyflwyno gan y datblygwr cyn mis Medi 2020.  Os aiff popeth yn iawn, gallai gwaith ar y safle ddechrau erbyn Mai 2021, a gallai'r arena fod wedi ei chodi a'i rhoi ar waith erbyn haf 2023.