The essential journalist news source
Back
16.
December
2019.
Adeiladu Dinas Glyfar i roi dyfodol gwell i Gaerdydd
16/12/19


Llai o lygredd aer, amseroedd teithio gwell, gwelliant effeithlonrwydd ynni, llai o allyriadau carbon a gwell gwasanaethau gofal cymdeithasol yw rhai yn unig o’r buddion y gall
technoleg ddigidol clyfara data agored ei ddwyn i fywydau pobl yn byw, gweithio ac ymweld â Chaerdydd.

Mae technoleg glyfar eisoes yn rheoli 15,000 o oleuadau stryd cysylltiedig LED yng Nghaerdydd, gan arwain at £800,000 o leihad ar fil ynnir ddinas, ac mae parcio yn faes arall sydd eisoes yn cael ei fonitro gan dechnoleg clyfar sy’n defnyddio 3,300 o synwyryddion o amgylch y ddinas er mwyn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i system gwmwl. Caiff y data wedyn ei gasglu er mwyn cynllunio gwelliannau i reolaeth trefniadau parcior ddinas.

Nawr mae Map Ffordd Dinas Glyfarnewydd drafft a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd yn gosod dyheadau’r dyfodol ger bron i wella cydweithio, gyrru arbedion, gwella gwasanaethau, harneisio grym data a thrawsnewid y ddinas yn Ddinas Glyfar.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: Caerdydd yw economi gyrfa Cymru a’r ddinas graidd sydd yn tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain. Daw’r twf â chyfleoedd a heriau, ac mae ein map ffordd dinas glyfar uchelgeisiol yn gosod pum maes ger bron i ganolbwyntio arnynt, hyrwyddo gweithio mewn cydweithrediad, penderfynu ar sail data ac ehangu ar gysylltedd er mwyn helpu i wneud Caerdydd yn fwy gwydn yn wyneb heriau a gwella bywydau dyddiol ei dinasyddion.

Mae’r cyngor eisoes yn defnyddio technoleg glyfar -er enghraifft rydym yn defnyddio data ynni a gasglwyd gyda mesuryddion clyfar i’n helpu i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon yn ein hadeiladau, mae synwyryddion yn monitro ansawdd yr aer yn y ddinas ac mae ein systemau goleuo Led yn arbed arian a lleihau namau, ond wrth i dechnoleg ddatblygu ac wrth i fwy o ddata gael ei gasglu Rydym eisiau sicrhau ein bod ni’n ei ddefnyddio’n ddeallus, ac i’w botensial yn llawn.

Mae dinasoedd clyfar llwyddiannus yn cydweithredu’n barhaus - gyda dinasyddion, busnesau, prifysgolion, busnesau entrepreneuraidd newydd, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus -  gyda gweithlu technegol parod a’i Cyfnewidfa Rhyngrwyd ei hun credwn fod Caerdydd mewn lle da i elwa o’r manteision newydd a ddaw yn sgil ymagwedd clyfar

Y pum cenhadaeth, a nodwyd yn y map ffordd yw:

Cenhadaeth 1: Dinas gydweithredol.

Caniatáu i arloeswyr gyflwyno syniadau clyfar i wella’r ddinas, cynnal gweithdai, hacathons a grwpiau ffocws i nodi a datrys heriau dinas glyfar, mewn partneriaethau â phrifysgolion a busnesau.

Cenhadaeth 2: Dinas a yrrir gan ddata.

Defnyddio dadansoddeg data, gwyddoniaeth data, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wella penderfynu, cynnig gwell gwasanaethau a hyrwyddo arloesi.

Cenhadaeth 3: Dinas gysylltiedig.

Bwriad y cyngor yw gweithio mewn cydweithrediad â chwmnïau telegyfathrebu, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i wella seilwaith ffibr, gan sicrhau cyflwyno 5G yn ddiffwdan a rhoi gwell signal symudol.

Cenhadaeth 4: Dinas symudol a chynaliadwy.

Mae’r Map Ffordd Dinas Glyfar yn sefydlu cynlluniau i leihau tagfeydd ac allyriadau trwy brofi a gwneud y gorau o dechnoleg glyfar mewn ‘labordai byw ar rannau o rwydwaith trafnidiaeth y ddinas gan helpu i siapio ymddygiad teithio yn y ddinas.

Cenhadaeth 5: Dinas iach.

Sefydlu Bwrdd Iechyd Digidol gyda phartneriaid a defnyddio data iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithiol i wella canlyniadau i ddinasyddion.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: Disgwylir i boblogaeth Caerdydd - dyfu gan tua 20% erbyn 2039 mae hynny tua 74,000 o bobl ychwanegol yn defnyddio seilwaith ynni a thrafnidiaeth y ddinas. Gall technoleg clyfar chwarae rhan bwysig yn cadw Caerdydd yn symud a sicrhau fod twf y ddinss yn gynaliadwy.

Yn dilyn gwaith i fynd i’r afael â phroblemau yn ymwneud ag ymddiriedaeth y cyhoedd a hawliau deiliaid data, mae’r cyngor hefyd yn bwriadu cyhoeddi setiau data agored trwyddedig y gall busnesau, busnesau entrepreneuraidd newydd ac academyddion eu defnyddio i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Mae’r dull hwn wedi ei ddefnyddio’n llwyddiannus gan sefydliadau fel Transport for London (TfL) y mae eu data cyhoeddedig ar feysydd fel ansawdd aer, amseroedd y tiwb a tharfu ar deithio wedi arwain at gannoedd o wasanaethau trafnidiaeth newydd ac apiau sydd o fudd i deithwyr.

Rydym hefyd am ymchwilio i weld sut gall technoleg helpu pobl i fyw yn annibynnol gyhyd â phosibl gan ddefnyddio technoleg bresennol a newydd fel technoleg y gellir ei wisgo, dysgu peirianyddol, cynorthwywyr rhithwir a synwyryddion. Credwn fod technoleg glyfar yn cynnig cyfleoedd go iawn ym meysydd iechyd, gofal a llesiant. Bydd sefydlu Bwrdd Iechyd Digidol gyda phartneriaid a defnyddio data iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithiol i wella canlyniadau i ddinasyddion yn chwarae rhan allweddol yn ein helpu ni i ddeall beth gellid ei gyflawni.

Os caiff ei gymeradwyo yr wythnos nesaf yn y cyfarfod Cabinet, disgwylir i’r cyngor ddechrau ar ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos o hyd ar y map ffordd drafft, casglu barn rhanddeiliaid a phreswylwyr.