The essential journalist news source
Back
5.
December
2019.
Wates Residential a Chyngor Caerdydd yn ennill gwobr dai genedlaethol am ddatblygiad Cartrefi Caerdydd

05/12/19

  • Dyfarnwyd gwobr ‘Cynllun Cartref Cychwynnol Gorau' i Wates Residential a Chyngor Caerdydd yng ngwobrau tai cenedlaethol WhatHouse?
  • Dywedodd y beirniaid fod safle Llanrhymni yn ‘enghraifft ddisglair' o'r hyn y gall partneriaethau ei gyflawni
  • Derbyniodd yr enillwyr eu gwobrau gan y gofodwr yr Uwchgapten Tim Peake a'r digrifwr Dara Ó Briain

 

Mae datblygiad newydd a adeiladwyd trwy raglen adeiladu tai flaenllaw Cyngor Caerdydd wedi cael ei wobrwyo gyda gwobr ‘Cynllun Cartrefi Cychwynnol Gorau' yng ngwobrau tai cenedlaethol WhatHouse? 

 

Enillodd safle Golwg-y-Môr a Rhodfa'r Capten yn Llanrhymni y Wobr Aur yn y seremoni ar 15 Tachwedd.

 

Y safle, a gyflwynodd 106 o gartrefi newydd gan gynnwys 40 eiddo cyngor newydd i'w rhentu, oedd y cyntaf i gyrraedd y cam cwblhau o dan raglen 'Cartrefi Caerdydd', partneriaeth 10 mlynedd rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl leol yn y ddinas.

 

Enillodd y wobr oherwydd ei heiddo gwerth am arian o ansawdd ar gyfer cyllidebau lefel mynediad, yn ogystal â'r amrywiaeth o opsiynau a cynlluniau a gynigiwyd i helpu prynwyr tro cyntaf i gam cyntaf yr ysgol dai. Yn Golwg-y-Môr, roedd tua 90% o brynwyr o radiws pedair milltir o Gaerdydd. Roedd 70% yn brynwyr tro cyntaf, a phrynwyd 63% gan ddefnyddio cynllun Cymorth i Brynu'r Llywodraeth.

 

Dywedodd y beirniaid fod y datblygiad yn ‘codi'r gêm' ar gyfer cartrefi cychwynnol gyda ‘phensaernïaeth gyfoes, cyfrannau hael a gerddi maint teulu'. Nodon nhw hefyd fod y cartrefi newydd yn cael eu prisio ‘yn is na'r cyfartaledd ym mhrifddinas Cymru' gan agor y posibilrwydd o eiddo dwy neu dair ystafell wely ar gyfer prynwyr tro cyntaf.

 

Aeth y beirniaid yn eu blaen i ddweud:"Mae Golwg-y-Môr a Rhodfa'r Capten... yn rhoi llawer mwy na'r cam cyntaf i brynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai; mae'n cynnig cyfle i bobl leol ymgartrefu yn eu cymuned, ac efallai na fydd llawer byth yn teimlo'r angen i symud eto. Mae Cartrefi Caerdydd yn enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy bartneriaethau; trwy weithio'n agos gyda'i gilydd, mae Cyngor Caerdydd a Wates Residential wedi cadw cymuned glos am genedlaethau i ddod."

 

Derbyniodd yr enillwyr eu gwobrau gan y gofodwr yr Uwchgapten Tim Peake a'r digrifwr DaraÓBriain

 

 

Dywedodd Ed Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential:"Rydw i wrth fy modd bod un o'n safleoedd Cartrefi Caerdydd wedi ennill gwobr ‘Cynllun Cychwyn Cartref Gorau' yng ngwobrau tai cenedlaethol WhatHouse?

 

"Yn Wates Residential, credwn fod pawb yn haeddu lle gwych i fyw. Mae hyn cymaint mwy nag adeiladu cartrefi newydd, felly mae'n werth chweil gweld y beirniaid hefyd yn cydnabod ein cyfraniad at y gymuned leol yng Nghaerdydd. Gobeithiaf y gall hyn fod yn esiampl wych o sut y gall partneriaeth gyhoeddus-breifat ddarparu dull gwahanol o ddatblygu preswyl.

 

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau â'n gwaith gyda Chyngor Caerdydd yn y blynyddoedd i ddod er mwyn darparu mwy byth o gartrefi o ansawdd uchel i bobl leol."

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae ein datblygiadau Cartrefi Caerdydd yn adfywio rhannau o'r ddinas trwy ddarparu cartrefi o ansawdd dda a chreu cymunedau cynaliadwy.

 

"Un o ofynion rhaglen Cartrefi Caerdydd yw sicrhau bod cartrefi newydd ar werth yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bobl leol. Mae'r cynllun yn cynyddu faint o dai cymdeithasol mawr eu hangen sydd ar gael yn y ddinas, ond mae hefyd yn galluogi prynwyr tro cyntaf lleol i gymryd eu cam cyntaf ar yr ysgol eiddo felly rydym yn falch iawn bod y cynllun wedi'i gydnabod gyda'r fath gwobr fawreddog."