The essential journalist news source
Back
28.
November
2019.
Rheoli twf y ddinas i’r dyfodol

Yn unol â deddfwriaeth, bydd Cyngor Caerdydd yn cymryd y camau cyntaf i gynnal adolygiad llawn o'i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl).

Mae hwn yn ofyniad statudol, gan fod pedair blynedd wedi mynd heibio ers i'r cynllun gael ei fabwysiadu, ac nawr mae'n rhaid cynnal adolygiad llawn.

Mae'r adolygiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y cynlluniau'n dal i fod yn gyfredol ac yn addas at y diben, fel bod modd i ni, fel Awdurdod Cynllunio, reoli twf y ddinas i'r dyfodol.

Bydd yr ymgynghori'n dechrau yn y flwyddyn newydd a'r canfyddiadau'n cael eu bwydo yn ôl i'r cynnig cyn i'r Cyngor Llawn wneud penderfyniad terfynol yn ystod y gwanwyn.

Mae'r cynllun cyfredol yn llwyddiannus o ran cyflawni swyddi newydd, tai a seilwaith ynghyd â chynnig cyd-destun polisi i bennu oddeutu 2,500 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn.  

Mae paratoi CDLl newydd yn rhoi cyfle i sicrhau bod y ddogfen bolisi bwysig hon yn gyfredol ac yn ymateb i ddeddfwriaeth newydd a thystiolaeth sydd wedi dod i'r amlwg ers i'r gwaith ddechrau ar y CDLl blaenorol. 

Bydd y CDLl presennol yn dal i fod ar waith nes bod y CDLl newydd wedi'i fabwysiadu, fydd yn cymryd tair blynedd a hanner i'w gyflawni ac sy'n cynnwys sawl cam ymgynghori ac ymgysylltu amrywiol gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Er bod y Cynllun cyfredol yn gweithio'n dda, mae'n bwysig nad ydym yn llaesu dwylo ac yn anwybyddu ein dyletswydd statudol i adolygu'r ddogfen hanfodol hon.

"Mae'r CDLl yn cynnig dull a arweinir gan gynllun o ran datblygu'r ddinas, a drwy'r cyfnod adolygu hwn mae gennym gyfle i sicrhau bod y CDLl diwygiedig yn dal i fod yn gyfredol ac yn cyflawni anghenion y ddinas i'r dyfodol.

"Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn ymateb i'r heriau newydd yr ydym yn eu hwynebu, megis taclo'r argyfwng hinsawdd a gwella lles cenedlaethau'r dyfodol.

"Bydd nifer o gyfleoedd i breswylwyr a phartïon â diddordeb i ymgysylltu â'r broses, wrth i ni barhau i reoli twf y ddinas i'r dyfodol."