The essential journalist news source
Back
28.
November
2019.
Anghofiwch Ddydd Gwener Du, mwynhewch Ddydd Sadwrn Teg
Mae Caerdydd wedi ymuno â mudiad dydd Sadwrn Teg byd-eang, gan roi cyfle'r penwythnos hwn i drigolion ac ymwelwyr â'r ddinas anghofio Dydd Gwener Du a dathlu pŵer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i newid y byd.

Wedi'i sefydlu yn 2014 ym Milbao, yng ngwlad y Basg yn Sbaen, mae Dydd Sadwrn Teg yn rhwydwaith fyd-eang o 180 o ddinasoedd, o Lima i Helsinki, sy'n ceisio ymateb yn gadarnhaol i brynwriaeth fyd-eang Dydd Gwener Du gyda 1,200 o ddigwyddiadau cyhoeddus ar Dachwedd 30ain, y diwrnod ar ôl Dydd Gwener Du.

Mae'r rhaglen ar gyfer Dydd Sadwrn Teg cyntaf Caerdydd yn cynnwys popeth o'r cyfle i archwilio syniadau dylunio cynaliadwy yn Hyb Grangetown, ymuno â pharti pen-blwydd yn Amgueddfa Caerdydd, edrych ar gymuned grefftau Caerdydd yn Neuadd y Ddinas, mwynhau sesiwn Actifyddion Artistig y tu mewn i Neuadd Dewi Sant (a Strafagansa Pres y tu allan) ac yna parti yn y nos mewn rêf, dan ofal Arglwydd Faer Caerdydd, er budd yr elusennau Cymorth i Fenywod yng Nghymru a BAWSO.

Bydd y rêf, a gaiff ei gynnal yn yr Hen Lyfrgell ar yr Aes, yn cynnwys setiau DJ gan: un o hoelion wyth y sîn ddawns yng Nghaerdydd, Craig Bartlett; Esyllt o noson glwb Dirty Pop, sefydlydd noson glwb Shangri-la, Nick Saunders; Sarah Sweeney a DJ Precious o gydweithrediad Caerdydd, Ladies of Rage, ac ymddangosiad arbennig gan y gŵr â'r gadwyn aur, yr Arglwydd Faer ei hun.

Dywedodd yr Arglwyd Faer, y Cyng. Dan De'Ath: "Fe ddwedais pan ddois yn Arglwydd Faer fy mod am wneud pethau ychydig yn wahanol, ac rwy'n credu mod i'n saff i ddweud mai dyma'r Maer cyntaf o Gaerdydd sydd wedi cynnal rêf."

"Mae cerddoriaeth wastad wedi chwarae rhan fawr o ‘mywyd i, felly mae gallu ei defnyddio fel ffordd o godi arian at y ddwy elusen, sy'n gwneud gwaith pwysig dros ben i helpu menywod sy'n wynebu amgylchiadau mor anodd a thrallodus, yn wych."

"Mae am fod yn barti go iawn - mae Caerdydd yn ddinas mor greadigol a bydd llawer yn digwydd i nodi ymwneud cyntaf y ddinas â mudiad Dydd Sadwrn Teg felly rwy'n gobeithio y gwelwn ni lwyth o bobl yn dod mas, a mwynhau rhai o'r digwyddiadau ffantastig gan orffen y cyfan gyda noson o ddawnsio dros achosion gwerth chweil."

Mae tocynnau ar gyfer Rêf yr Arglwydd Faer yn costio £10 ymlaen llaw (rhoddir yr holl elw i ddwy elusen a ddewiswyd gan yr Arglwydd Faer) ac maent ar gael o:https://shangri-la.eventcube.io/

Am raglen lawn o ddigwyddiadau Dydd Sadwrn Teg yng Nghaerdydd, ewch i:https://app.fairsaturday.org/listaeventos2019/Cardiff