Bydd Cymru'n herio'r Barbariaid ddydd Sadwrn 30 Tachwedd yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 2.45pm, bydd ffyrdd ar gau'n llwyr yng nghanol y ddinas o 11.15am tan 6.00pm i ddiogelu'r cyhoedd.
Cynghorir y sawl fydd yn mynychu'r gêm i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi'u gwaharddynprincipalitystadium.walescyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas, am 11.15am.
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Tudor Street (caniateir mynediad i drigolion a masnachwyr.)
- Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.
Dyma'r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Sylwch:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Trenau
Mae Network Rail am roi gwybod i gwsmeriaid nad oes unrhyw waith peirianneg wedi'i gynllunio ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw ynwww.nationalrail.co.ukneu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd. Cynghorir y sawl sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm adael digon o amser ar gyfer eu taith.
Bydd system rheoli torfeydd lawn ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd holl wasanaethau'r Cymoedd yn gadael o gefn yr orsaf ym maes parcio Heol Penarth. Bydd gan wasanaethau gapasiti ychwanegol lle y bo'n bosib.
Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 4.30pm i gwsmeriaid sy'n gadael y ddinas a bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch ihttps://tfwrail.wales/wales-v-barbarians
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £12 os byddwch yn archebu ymlaen llaw drwy'r ddolen hon:cliciwch ymaneu £15 ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)
Cost: £25 ar y dydd neu £25 os cadwch le o flaen llaw:cliciwch yma
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad yn Lecwydd
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.
I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw -cliciwch yma
Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle. Y man gollwng yw Fitzhamon Embankment.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os cadwch le ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig)
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am, gyda'r safle yn agor am 9.00am a'r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 6.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 7.00pm.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia(ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost - £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Noder:Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Hoffai Bws Caerdydd roi gwybod i gwsmeriaid y bydd gwasanaethau canol y ddinas yn rhedeg o leoliadau gwahanol o 11.15am i 6.15pm.Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Traffyrdd a chefnffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11.15am ac yn ailagor am 6.00pm.