The essential journalist news source
Back
27.
November
2019.
Gwasanaeth Coffa'r Nadolig yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig
Cynhelir Gwasanaeth Coffa Eciwmenaidd y Nadolig yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar ddydd Sul, 8 Rhagfyr, am 2pm.

Mae croeso i unrhyw un ddod i'r gwasanaeth i goffau eu hanwyliaid dros gyfnod y Nadolig.

Cyn y gwasanaeth, o 1.45pm, bydd Côr Gofal Canser Tenovus Gogledd Caerdydd ‘Canwch gyda Ni’, dan arweiniad Alicia Stark, yn perfformio cadwyn o alawon Nadolig a charolau.

Bydd y gwasanaeth, a gynhelir gan y Parchedig Lionel Fanthorpe, yn cynnwys nifer o ddarlleniadau, cerddi a charolau.   Bydd Deborah Morgan Lewis yn arwain y canu a daw’r gwasanaeth i ben tua 3pm.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: Mae colli anwylyd bob amser yn anodd iawn, ond gall yr adeg hon yn y flwyddyn fod yn arbennig o heriol." "Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfle i bobl o bob ffydd ddod ynghyd a chofio'r rhai sy’n anffodus wedi’n gadael.

Cynhelir casgliad yn ystod y gwasanaeth ar gyfer yr elusen Tenovus Cancer Care. Mae nod Gofal Canser Tenovus yn syml, maent eisiau helpu i atal, trin a threchu canser. Maen yn gwneud hyn drwy gynnig cymorth, cyngor a thriniaeth i gleifion canser a’u hanwyliaid yn y lleoliad y mae’r angen mwyaf amdano - yn y gymuned.

Y Nadolig hwn, bydd y Gwasanaethau Profedigaeth yn gwerthu tagiau coffa am gyfraniad o leiaf o £2.00 er cof am anwyliaid, y gellir ei osod ar un o'r coed coffa Nadolig yng Nghwrt Capel y Wenallt. .

Bydd y coed yno o 6 Rhagfyr tan 6 Ionawr 2020 pan fyddant yn cael eu tynnu oddi yno yn unol â thraddodiad 'Nos Ystwyll'.  Bydd yr holl elw yn mynd tuag at Gofal Canser Tenovus.