The essential journalist news source
Back
27.
November
2019.
3500 o goed newydd i'w plannu yng Nghaerdydd
Mae person ifanc a wrthododd arian am ei waith dylunio graffeg gan ofyn am gael ei dalu â choeden yn lle hynny, wedi plannu'r gyntaf o 3500 o goed newydd yng Nghaerdydd.

Dyluniodd Lloyd Garrett, sy'n 17 oed, daflen wybodaeth ar gyfer digwyddiad codi arian i Gymdeithas Ddinesig Caerdydd a dewisodd gael Criafolen wedi'i phlannu yn ei enw ym Mharc Bute, yn hytrach na chael tâl am ei waith.

Mae'r goeden yn un o 70 a ariannwyd gan rodd caredig o £7,000 gan Gymdeithas Ddinesig Caerdydd, a byddant yn dechrau cael eu plannu yn ystod yr Wythnos Coed Genedlaethol (23 Tachwedd - 1 Rhagfyr), gyda mwy o goed yn cael eu plannu dros y misoedd nesaf fel rhan o raglen plannu coed flynyddol Caerdydd.

Dywedodd Lloyd, a blannodd ei goeden yn agos i Ganolfan Addysg Parc Bute: "Fe allen i fod wedi cymryd yr arian, am wn i, ond mae rhywbeth arbennig am gael dy goeden dy hun. Dwi am feicio heibio hi'n rheolaidd i weld sut mae hi'n gwneud.

"Plannu coed yw'r ffordd hawsaf o wella'r amgylchedd a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd sydd o'n blaenau. Pe bai pawb yn gwneud, byddai miliynau ar filiynau o goed - plannu coed yw'r ateb."

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor:  "Mae coed yn dod â manteision amrywiol o ran iechyd, lles a'r blaned, ac rydym yn ddiolchgar i Gymdeithas Ddinesig Caerdydd am ei rhodd hael a fydd yn ein galluogi i blannu hyd yn oed yn fwy o goed eleni."

"Mae'r coed a gaiff eu plannu i gyd yn beillwyr da ac wedi'u dewis i annog bioamrywiaeth. Mae yna nifer o wahanol rywogaethau, gan gynnwys afal, bedwen, gwernen, draenen wen a cheirios."