Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn Lecwydd wedi agor eu Canolfan Adnoddau Arbenigol, Yr Hafan, yn swyddogol.
Mae'r cyfleuster newydd yn cynnig amgylchedd dysgu cyfrwng Cymraeg cynhwysol i hyd at ddeg o blant gydag anghenion cymhleth o bob rhan o'r ddinas.
Mae Yr Hafan yn cynnig dosbarth croesawgar a braf yng nghanol yr ysgol sydd wedi'i ddylunio i gynnwys llu o gyfleusterau arbenigol, gan gynnwys dysgu awyr agored, ardal gegin, ystafell newid a gofod dysgu tawel.
Mae'r cyfleuster yn galluogi disgyblion sydd â Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig i fwrw ymlaen drwy gwricwlwm eang, cytbwys a chynhwysol.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Mr Christopher Newcombe:"Fel Pennaeth, rwy'n falch iawn o allu cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg cynhwysol i ddisgyblion ag anghenion cymhleth o bob rhan o Gaerdydd. Rwy'n falch iawn o weld ein disgyblion yn ffynnu oherwydd ein darpariaeth ragorol sy'n canolbwyntio ar y disgybl, yn ogystal â lles, sgiliau bywyd, profiadau a chyfleoedd dysgu."
Mae gwelliannau pellach ar y gweill fydd yn cynnwys ystafell synhwyrol pwrpasol yng nghanol yr ysgol y gall bob disgybl ei defnyddio.
Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi arian i nifer o ysgolion ledled y ddinas i gynnig Canolfannau Adnoddau Arbenigol, wedi'u staffio gan dîm bychan o athrawon arbenigol a chynorthwywyr addysgu, er mwyn cynnig cymorth dysgu cynhwysol i blant ag anghenion dysgu cymhleth.
Mae'r awdurdod lleol yn rheoli prosesau derbyn y dosbarthiadau, drwy ddatganiad anghenion addysgol arbennig, ac mae'r canolfannau adnoddau yn cynnig lleoedd i blant o bob rhan o'r ddinas.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn gynhwysol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion dysgu cymhleth.
"Mae'r rhan fwyaf o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn mynychu eu hysgol leol ac yn derbyn cefnogaeth ddysgu yn y dosbarth, ond i rai plant gyda'r anghenion dysgu mwyaf cymhleth, mae'n bosibl y bydd angen dull cefnogaeth arbenigol."