The essential journalist news source
Back
21.
November
2019.
Pencampwriaeth Rhwyfo Dan Do Cymru yn dathlu Pen-blwydd yn 20 oed
Cymerodd 100 o bobl ran ym Mhencampwriaeth Rhwyfo Dan Do Cymru gyntaf (PRhDDC) - a 20 mlynedd, tair record byd a llawer o beiriannau rhwyfo yn ddiweddarach, disgwylir i'r digwyddiad eleni yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr ddenu mwy na 1,600 o gystadleuwyr o gyd belled â Gwlad Groeg i gymryd rhan mewn cystadleuaeth sydd wedi dod yn un o gystadlaethau rhwyfo dan do mwyaf y DU.

Bydd y digwyddiad dau ddiwrnod, sydd yn rhad ac am ddim i ymwelwyr, yn dechrau gyda chystadleuaeth yr ysgolion ddydd Gwener (22 Tachwedd), gaiff ei hagor eleni gan y rhwyfwr o Gymru, a chyn gystadleuydd PRhDDC, Iwan Hadfield, a enillodd fedel efydd yn ddiweddar yn cynrychioli tîm GB ym Mhencampwriaeth Rhwyfo'r Byd i bobl iau yn Tokio.

Yn ystod y prif ddigwyddiad ddydd Sadwrn, bydd cystadleuwyr uchel eu parch yn rasio o flaen cynulleidfa gan gynnwys nifer o hyfforddwyr perfformiad uchel, sy'n chwilio am enillwyr Olympaidd y dyfodol ac yn gobeithio am ailadrodd y digwyddiad o'r llynedd pan osodwyd saith record Cymreig newydd a thorrwyd un Record y Byd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Ers cael ei lansio gan Ganolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd 20 mlynedd yn ôl, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnig tir profi i gystadleuwyr sy'n ceisio datblygu eu gyrfaoedd rhwyfo. Mae'r awyrgylch yn arbennig bob tro ac mae'n gyfle gwych i weld rhai o'r athletwyr lefel uchel yn agos."

Mae o leiaf wyth rhwyfwr o dîm GB wedi cael blas cynnar ar gystadlu yn y PRhDDC yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, ac yng Nghanolfan Gweithgareddau Bae Caerdydd, a chaiff ail ddigwyddiad rhwyfo dan do ei lansio ym mis Ebrill 2020, fydd yn rhoi cychwyn ar Gyfres Dan Do Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i:https://www.wirc.wales/