Bydd cyfres o ddigwyddiadau ledled Caerdydd yn yr wythnosau i ddod i gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd, sef Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig dros ddiddymu trais yn erbyn menywod a merched.
Ymgyrch y Rhuban Gwyn yw'r mudiad mwyaf yn y byd o ddynion a bechgyn yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched ac i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.
Bob blwyddyn tua 25 Tachwedd, bydd miloedd o bobl yn y DU yn dod ynghyd i godi ymwybyddiaeth a gweithio tuag at roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod. Prif thema Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni fydd ‘Creu dyfodol heb drais dynion yn erbyn menywod'.
Mae gwylnos yng ngolau cannwyll, gorymdeithiau, stondinau gwybodaeth,sioe ffasiwn a gwasanaethau arbennig pob ffydd ymysg y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu drwy gydol mis Tachwedd tan 10 Rhagfyr, sef Diwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.
Mae gwely blodau o flaen Castell Caerdydd hefyd wedi'i blannu gyda blodau gwyn i gynrychioli'r Rhuban Gwyn ac i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r mudiad.
Ym mis Medi, cynhaliodd Caerdydd ei phumed daith 'Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi'a daeth dros 100 o ddynion i gerdded milltir mewn esgidiau menywod ar draws canol y ddinas i ddangos eu cefnogaeth dros Ymgyrch y Rhuban Gwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Caerdydd oedd y ddinas gyntaf i gael statws Dinas y Rhuban Gwyn yn 2014 ac mae cael y wobr hon yn dangos ymrwymiad y ddinas i'w gwneud yn glir na fydd unrhyw oddefiant tuag at gam-drin domestig nac unrhyw ffurf arall ar drais yn erbyn menywod a merched.
"Mae gennym ni hanes llwyddiannus o ymateb i gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod, ac mae ystod o wasanaethau arbenigol ar waith i gefnogi unigolion a'u teuluoedd.
"Mae diwrnod y Rhuban Gwyn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn ac mae rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys annog pobl i wisgo rhuban gwyn a gwneud addewid i beidio byth â chyflawni, caniatáu neu gadw'n dawel o ran trais yn erbyn menywod mewn unrhyw ffurf.
Bob blwyddyn yn y DU, mae mwy na miliwn o fenywod yn dioddef cam-drin domestig a dros 360,000 yn dioddef ymosodiad rhywiol. Er bod cam-drin menywod yn anghymesur o uchel, gall trais a chamdriniaeth effeithio ar bawb.
Mae ystadegau cam-drin domestig yn dangos bod 70% o'r digwyddiadau'n arwain at anaf a bod cyfartaledd o ddwy fenyw bob wythnos yng Nghymru a Lloegr yn cael eu lladd gan eu partner bob wythnos.
Os hoffech chi ddysgu mwy am Ymgyrch y Rhuban Gwyn, ewch iwww.whiteribboncampaign.org.uk
Ymunwch â'r sgwrs #RhubanGwynCaerdyddarFro2019
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef o drais yn erbyn menywod, trais domestig neu drais rhywiol, gallwch geisio cymorth a chefnogaeth gan linell gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800 (llinell gyfrinachol 24awr yn rhad ac am ddim)www.bywhebofn.gov.wales