Heddiw (dydd Mercher 20 Tachwedd), bu plant Caerdydd yn dathlu Diwrnod Plant y Byd, diwrnod blynyddol UNICEF ar gyfer plant yn gweithredu dros blant. Bu'r digwyddiad yn gyfle i blant a phobl ifanc ddod ynghyd i ddathlu'r cynnydd a wnaed i wella eu hawliau ac yn amlygu y gwaith mae angen ei wneud eto.
Eleni ydy'r 30ain blynedd ers Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a bu ysgolion ledled Caerdydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i goffau'r pen-blwydd arbennig.
Roedd rhai o'r uchafbwyntiau ar draws y ddinas yn cynnwys:
- Cynhaliodd Ysgol Gynradd Parc Ninian Orymdaith Hawliau o'r ysgol.
- Meddiannodd y disgyblion Ysgol Gynradd Coed Glas. Rhoddodd plant wersi, rhedeg y swyddfa a hyd yn oed goruchwylio'r athrawon yn ystod amser chwarae.
- Bu disgyblion Ysgol Pen y Groes yn cymryd rhan mewn diwrnod llawn o weithgareddau creadigol i ddangos beth yw Hawliau'r Plant i rieni a llywodraethwyr.
Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant sydd wedi'i nodi yn y Strategaeth a lansiwyd y llynedd, gyda phum nod clir sy'n pennu sut dylid ymgorffori hawliau'r plant ac ennill statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF;
- Caiff pob plentyn a pherson ifanc ei werthfawrogi, ei barchu a'i drin yn deg.
- Rhoddir sylw i lais, anghenion a blaenoriaethau pob plentyn a pherson ifanc.
- Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei fagu mewn cartref diogel a chefnogol.
- Caiff pob plentyn a pherson ifanc gyfle i dderbyn addysg o safon uchel sy'n hyrwyddo ei hawliau ac yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a'i dalentau yn llawn.
- Mae gan blant iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da ac maen nhw'n gwybod sut i gadw'n iach
Heddiw, mae 91 o ysgolion Caerdydd wedi cofrestru â Rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF, gan ddangos eu cefnogaeth i helpu Caerdydd i ddod yn un o Ddinasoedd Cyntaf y DU sy'n Dda i Blant.
Mae'r rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau yn cydnabod ysgol sy'n arfer hawliau'r plentyn ac yn creu man dysgu diogel, sy'n ysbrydoli, lle caiff plant eu parchu, eu talentau ei meithrin a lle gallant ffynnu.
#DiwrnodPlantyByd #CdyddSy'nDdaiBlant #AddysgCdydd