The essential journalist news source
Back
18.
November
2019.
Arglwydd Faer Caerdydd yn lledaenu hwyl yr ŵyl
Bydd Arglwydd Faer Caerdydd, y Gwir Anrhydeddus Gynghorydd Dan De’Ath yn agor “Dr Seuss’ How the Grinch Stole Christmas! The Musical” sy’n agor ar ddydd Iau 21 Tachwedd yn Arena Motorpoint. 

Bydd yr Arglwydd Faer yn agor y sioe drwy ddarllen ychydig dudalennau o’r llyfr i blant ar y llwyfan, gerbron miloedd o ymwelwyr.

Dywedodd yr Arglwydd Faer: “Mae’n gyffrous iawn fy mod wedi cael fy ngofyn i agor y sioe gan fy mod yn rhiant sydd wedi darllen y llyfr gynifer o weithiau i’m plant, ac mae’n anrhydedd fod yn rhan o stori Nadoligaidd mor bwysig sy’n boblogaidd â theuluoedd ledled y byd.”

Mae’r Arglwydd Faer hefyd yn cynnal rêf i ddathlu Dydd Sadwrn Teg Caerdydd - mudiad byd eang a sefydlwyd yn Bilbao sy’n dathlu grym y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i newid y byd. 

Bydd yr holl elw o’r digwyddiad, sy’n cael ei hyrwyddo gan The DEPOT, yn mynd i’r ddwy elusen o ddewis yr Arglwydd Faer, Cymorth i Fenywod Cymru a BAWSO. 

Bydd y rêf a gaiff ei gynnal yn yr Hen Lyfrgell ar yr Aes ar 30 Tachwedd yn cynnwys setiau DJ gan: un o hen bennau’r sîn ddawns yng Nghaerdydd, Craig Bartlett; Esyllt o’r noson glwb Dirty Pop, sefydlydd noson glwb Shangri-la, Nick Saunders; criw cydweithredol o Gaerdydd, Ladies of Rage, ac ymddangosiad arbennig gan y gŵr â’r gadwyn aur, yr Arglwydd Faer ei hun. 

Meddai’r Arglwydd Faer, Daniel De’Ath: “Fe ddwedais pan ddois yn Arglwydd Faer fy mod am wneud pethau ychydig yn wahanol, ac rwy’n credu mod i’n saff i ddweud mai dyma’r Maer cyntaf o Gaerdydd sydd wedi cynnal rêf. 

“Mae cerddoriaeth wastad wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd i, felly mae gallu ei defnyddio fel ffordd o godi arian i’r ddwy elusen, sy’n gwneud gwaith pwysig dros ben i helpu menywod sy’n wynebu amgylchiadau mor anodd a thrallodus, yn wych. 

“Mae am fod yn barti go iawn - mae Caerdydd yn ddinas mor greadigol a bydd llawer yn digwydd i nodi ymwneud cyntaf y ddinas â mudiad Dydd Sadwrn Teg felly rwy’n gobeithio y gwelwn ni lwyth o bobl yn dod mas, a mwynhau rhai o’r digwyddiadau ffantastig gan orffen y cyfan gyda noson o ddawnsio dros achosion gwerth chweil.” 

Dr Seuss’ How the Grinch Stole Christmas! The Musical rhwng 20 a 24 Tachwedd. Am docynnau, ewch i https://motorpointarenacardiff.co.uk/whats-on/how-grinch-stole-christmas-musical

Mae tocynnau ar gyfer y rêf ar gael yma:https://shangri-la.eventcube.io/events/21895/lord-mayors-rave/